Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynghyd. Y tro diweddaf, nid oedd yno ond un o'n brodyr, yr hwn a aethai i weddi gyda rhai cymydogion yn y teulu. Syr W—— a orfoleddodd fel hyn ar y bobl druain, ac a ddywedodd, 'Ni â geisiasom gyfraith arnynt, ond nis gallasom eu dal hwynt.' Ateb drosom, O Arglwydd, ac ymddangos yn dy achos dy hun. Mi a gefais mewn lle arall, yn agos i dref y Bala, lle y bum i gynt yn debyg i gael fy lladd, ergyd ar fy mhen, digon ffyrnig ymron i'w hollti yn ddau, eto ni chefais nemawr niwed. Ni welais i erioed y fath luoedd yn dyfod i wrando, na mwy o ogoniant yn mhlith y bobl: llawer o galonau ac o ddrysau a agorwyd yn ddiweddar."

Ymddengys oddiwrth y llythyr hwn, fod pregethu yn Adwy'r Clawdd cyn i Howel Harris fod yno; a hyny er ys cryn amser, gan fod y bobl druain yno wedi eu dirwyo dair gwaith cyn yr amser y mae Mr. Harris yn cyfeirio ato ei fod ef yno. Ymddengys hefyd fod Howel Harris wedi ymweled â'r ardal hon yn y fl. 1748; ond nid oes hysbysiad genym a fu ef yno cyn y flwyddyn hóno. Mae traddodiad yn yr ardal, fod pregethu achlysurol gan y Methodistiaid mewn ardal gerllaw yr Adwy, tua dwy filldir yn nes i'r mynyddoedd, mewn tŷ a elwid y Ty-brith, cyn yr amser y cyfeiria John Evans ato, pan y dygodd ef y marworyn cyntaf i'r Adwy. Fe ddichon fod tystiolaeth John Evans, a'r traddodiad crybwylledig, bob un yn gywir, er yr ymddengys, ar yr olwg gyntaf, anghysonedd rhyngddynt. I'r Adwy, yn briodol y mae lle i feddwl mai John Evans a fu yn offeryn i ddwyn pregethu gyntaf, er y bu yn achlysurol bregethu mewn ardal gyfagos cyn hyny. Ond nid yw hyn o nemawr bwys. Amlwg yw, fod yr ardal hon wedi cael ymweliad cynar gan y diwygwyr, mewn amser nad oedd ond ychydig iawn o leoedd yn y sir, nac yn wir yn y Gogledd, yn agored i dderbyn y pregethwyr pengrynaidd.

Nid ydym yn cael hanes am neb yn arfer pregethu ac yn cartrefu yn yr Adwy yn mlynyddoedd cyntaf Methodistiaeth, ond un o'r enw Dafydd Jones. Ychydig iawn o hanes sydd genym am y gŵr hwn, er y cyfrifid ef yn ei ddydd yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd ag oedd yn Ngwynedd. Ganwyd ef yn y fl. 1723; bu farw yn y fl. 1774, yn 51 ml. oed. Claddwyd ef yn hen fynwent yr ymneillduwyr yn Ngwrecsam, y lle hefyd y claddesid gweddillion yr hyglod Morgan Llwyd o Wynedd. Yr hanes cyntaf a gawn am dano ydyw, ei fod yn erlidiwr creulawn, a'i fod, tua'r fl. 1748, yn arllwys ei adgasedd ar y Cradociaid, trwy erlid Lewis Evan pan yn ceisio cael pregethu yn Ninbych. "Ond mi a'u gwelais hwy ill dau yn gyfeillion caruaidd (meddai yr hanesydd) ar ol hyny, yn y Bryn-bugad, cartref Edward Parry; pryd y gofynai Dafydd, yr hwn oedd bellach yn bregethwr, i Lewis Evan, a oedd efe wedi maddeu iddo. 'O ydwyf (ebe Lewis) er ys llawer dydd.'" Nid oes un sicrwydd pa sawl blwyddyn y bu Dafydd Jones yn pregethu. Gan ei fod yn erlidiwr yn y fl. 1748, ac yn marw yn y fl. 1774, ni allai fod yn pregethu nemawr dros 25 o flynyddoedd yn yr eithaf, ac ni allai fod wedi dechreu nemawr cyn yr ymraniad. Gŵr ganedig o'r Bala, neu ei chymydogaeth ydoedd, meddai y traddodiad, ac a ddaethai i'r Adwy, yn nghyda