Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brawd iddo o'r enw Robert, i weithio mewn gweithfeydd plwm yn y gymydogaeth.

Yr oedd yr erlid a fu ar bregethwyr Methodistaidd yn yr ardal hon, of bosibl wedi myned heibio cyn i Dafydd Jones ddechreu pregethu, pryd yr ymwelid â'r ardal yn achlysurol gan frodyr o'r Deheudir. Y lleoedd y pregethid ynddynt y pryd hyny, cyn adeiladu un capel, oeddynt, y Tŷ-brith yn y Mwng-lawdd, ac wedi hyny, yn y Llofft-wen yn yr Adwy. "Yr oedd erlid mawr," medd awdwr Drych yr Amseroedd, "tua'r amser hwnw oddeutu Adwy'r Clawdd, ac amryw fanau eraill. Aethant â dodrefn y tŷ lle byddai pregethu (sef y Llofft-wen) i Wrecsam, a gwerthwyd hwynt yn llwyr ar y farchnad, a gwariwyd yr arian am ddiod gadarn." Yn mysg eraill a fuont yn pregethu yn y Llofft-wen, cawn enw y Parch. Peter Williams. Dywedir fod y gŵr boneddig y cyfeiriwyd ato eisoes, sef Syr W——, yr hwn oedd yn byw o fewn tua phum milldir i'r lle, ac yn ustus heddwch, wedi dirwyo rhai pregethwyr a gwrandawyr eisoes yn yr Adwy, fel y crybwyllasom o'r blaen; ond trwy waith Iarlles Huntington yn gosod yr achos gerbron gweinidogion y goron, gorchymynwyd i'r gŵr mawr, er dirfawr ofid iddo, ddychwelyd yn ol yr arian a dalesid iddo mewn ffordd o ddirwyau. Yr oedd hyn yn ddyrnod chwerw i'r barwnig erlidgar a ffroen-uchel, ac addunedodd ddial ar bob Methodist a gaffai o fewn terfynau sir Ddinbych. Un o'r gwrthddrychau a deimlasant oddiwrth ei ddial, oedd Peter Williams. Pan oedd yn pregethu yn Llofft-wen, anfonodd y gŵr boneddig wŷr i'w ddal, a'i ddwyn o'i flaen ef i'w balas. Pa fath holiad a fu arno ni ddywedir, ond mai yn nghennel y cŵn y bu gorfod iddo letya y noson hòno. Gollyngwyd ef boreu dranoeth, a chyfeiriodd ei gamrau i dŷ gŵr o'r enw Moses Lewis, amaethwr ag oedd yn byw yn nghymydogaeth yr Adwy. Dylynwyd ef yma gan yr hedd-geidwaid, y rhai a wnaent y sarhad ychwanegol hwn, nid oddiar orchymyn eu huwchradd, fe allai, ond o wir ddygasedd at y pregethwr, a than ddylanwad y dyb y gallent wneuthur y camwri a fynent ag ef yn ddigosb. Achubodd Moses Lewis y blaen arnynt, pan ddeallodd eu bod ger. llaw, trwy gipio ei oriadur o'i logell, a'i chadw yn ei feddiant ei hun. Cymerasant yr ychydig arian ag oedd ganddo, sef tri swllt a chwecheiniog, a'i flwch (snuff-box), yn yr hwn yr oedd hanner gini, ond yr hwn ar ei daer ddeisyfiad a ddychwelwyd iddo, a hwythau heb wybod fod ynddo y darn aur.

Nid hwn oedd yr unig dro i'r gŵr parchedig hwn ddyoddef anfri a sarhad yn sir Ddinbych. Cyfarfu â thywydd blin hefyd yn nghymydogaeth Llanrwst, sef yn Nhrefriw, yn ystod y daith gyntaf o'i eiddo yn Ngwynedd, yn y fl. 1748. Rhoddasid y gair allan, tybygid, yn rhy noeth a chyhoeddus, fod Peter Williams i bregethu yn y pentref. Rhoddodd hyn fantais i erlidwyr ymbarotoi ac ymgynull erbyn iddo ddyfod; a'r canlyniad a fu, ei rwystro i bregethu yno y tro hwn. Ni buasai y bobl gyffredin mor fileinig chwaith, oni bae eu gosod ar waith, a'u hannog gan ddau foneddwr. Daliwyd y pregethwr, a chadwyd ef megys carcharor, mewn tafarndy, yn nghanol haid o ddirmygwyr, o chwech o'r gloch prydnawn hyd ddau o'r gloch y boreu, fel