Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Samson yn mhlith Philistiaid, i beri iddynt chwerthin. Gosodent arno i yfed, a gofynent iddo lawer o gwestiynau am ei ddysg, ei athrawiaeth, a'i ganlynwyr;-gofynent mewn gwawd iddo, ar ba destyn y pregethasai y bore hwnw, &c. Yntau a'u hatebodd, "Os gwelwch chwi fod yn dda, foneddigion, adroddaf i chwi y testyn, a'r holl bregeth hefyd." Gyda hyn, galwai un o honynt am "ddystawrwydd;"—"y mae e'n awr am bregethu i'n diwygio ni." Parai hyn yr ha! ha! o chwerthiniad uchel a gwawdlyd am enyd, drachefn a thrachefn. Pan y galwodd efe am fwyd, ac y dymunai gael myned i'r gwely, chwarddent eilwaith heb fesur am ei ben, ac amneidiai un o honynt, "Bwyd a gwely a gewch cyn hir." Ofnodd yntau gan yr olwg a welai, mai allan y bwrid ef; ac mai â cherig y baeddid ef i farwolaeth; ac mai fel hyn, yn nhywyllwch y nos, y gwneid pen am ei einioes. "Rhoddais. fy hun (meddai) i'r Arglwydd, gan saeth-weddio ar ran fy ngwawdwyr." Ni chaniateid iddo weddio na phregethu mewn llais uchel; "ond yn wir (meddai), yr oeddwn yn gruddfan am y gorfyddid arnaf wrando ar eu llwon, eu maswedd, a'u cableddau; ond er hyn oll, nid oedd genyf achos i gwyno, oblegid dangoswyd i mi fwy o ewyllys da nag a gawsai fy Arglwydd a'm Meistr, gan y rhyddhawyd fi cyn caniad y ceiliog."

Wedi i'r boneddwyr orchymyn i ŵr y tŷ roddi iddo fwyd, a thalu am dano; ac wedi gorchymyn iddo yntau na phregethai yn y pentref hwnw, cymerasant eu ceffylau, ac aethant ymaith y terfysgwyr hefyd a aethant ymaith tua dau o'r gloch y boreu. Ciliasai ei gyfeillion hefyd pan amgylchynwyd ef gyntaf gan yr erlidwyr, a gadawyd ef a'i gyfaill yn unig yn ei gyfyngder. Ymofynodd am ŵr y tŷ, pa le yr ydoedd? Hysbysodd y tafarnwr iddo yn ddirgelaidd, y deuai ef i mewn pan elai y dyrfa ymaith, gan roddi ar ddeall iddo fod ei geffyl, a chod y cyfrwy, &c., yn ddiogel. Aeth Mr. Williams a'i gyfaill i'r gwely, a chysgodd Mr. W. am ychydig oriau, ond ni allai ei gyfaill gysgu. Wedi iddynt gyfodi, cyfarchwyd Mr. Williams gan ŵr a gymerai arno fod yn gyfaill, gan erchi arno weddio gydag ef a'i gymydogion, a gofyn am gael gweled ei urdd-lythyrau, y rhai a ddangosasai y noson o'r blaen i'r boneddigion. Yntau a'u rhoes yn ei law i'w hedrych ar hyn, bwriodd y cadnaw arno olwg chwithig, a nacaodd eu dychwelyd yn ol; ond cododd, ac aeth ymaith ar gefn ei farch. Aeth Mr. Williams hefyd i ffordd, heb allu cael cyfle i bregethu unwaith, yr hyn a'i gofidiai yn fawr; eto teimlai yn ddiolchgar am gael dwyn tystiolaeth dros y gwirionedd, trwy ddyoddef anmharch, os nad trwy bregethu; ac am gael diangfa, mor ryfeddol ymron ag a gawsai Daniel o ffau y llewod. Aeth i le arall, lle yr oedd cymdeithion a adwaenai; ac wedi bod yno am ysbaid dwy awr, wele ferch ieuanc ar farch yn dyfod at y tŷ, ac yn gofyn am y dyeithriaid; a phan aeth Mr. P. Williams at y drws, hi a ddywedodd mai merch oedd hi i'r gŵr a ladratasai ei urdd-ysgrifion y bore hwnw, ac mai ei neges hi yn dyfod ato oedd, i'w dychwelyd yn ol iddo. Bernid mai deall wedi wnaeth y gŵr, wedi cymeryd pwyll i ystyried, y gallai yr hyn a wnaeth ei