Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arwain i afaelion llymion y gyfraith, a pheri iddo fwy o golled, nag a gai o ennill o gadw license Mr. Williams.

Gallwn gasglu fod Mr. P. Williams wedi dyfod i'r ardal hon drachefn. Nid yw yr hanes a ysgrifenodd ef ei hun yn cyrhaedd dim pellach na'r tro uchod yn Nhrefriw. Mae Mr. Robert Jones, pa fodd bynag, yn cyfeirio at dro arall, neu yn adrodd amgylchiadau eraill yn yr un tro, y rhai a gyfarfuant â'r gŵr parchedig yn y lle uchod:—amgylchiadau a dybid, fe allai, ymron yn rhy wrthun ganddo ef ei hun eu hadrodd. Nid oedd ymron ddim sarhad yn cael ei ystyried yn ormod i'w wneuthur y dyddiau hyny i grefyddwyr Methodistaidd, gan faint yr hyfrydwch a deimlid yn y gwaith o flino a gorthrymu y bobl druain hyn. Digon gan y werin oedd fod yr offeiriaid a'r boneddwyr o'u tu; a digon gan y mawrion oedd fod y trueiniaid yn rhy ddiamddiffyn i godi yn eu herbyn. Methrid yn fynych ar deimladau dynoliaeth, gan faint oedd grym y dygasedd yn erbyn crefydd; a thrwy hyny. aent weithiau i eithafion annyoddefol, nes codi amddiffynwyr i'r trueiniaid a faeddid ganddynt, o blith y gorthrymwyr eu hunain. Fel hyn y bu yn achos Mr. P. Williams yn y tro y cyfeiriwn ato. Y pryd hwn, ymddengys iddynt ei ddyosg o ran o'i wisg, ac ymaflyd mewn merch ieuanc gyfrifol a ddaethai yno i wrando y bregeth, a'i dynoethi a'i maeddu mewn modd gwrthun ac annynol, yn ngolwg yr holl edrychwyr. Aethant, mewn gair, dros ben terfynau dynoliaeth a gŵylder, nes peri i un o'r edrychwyr,. yr hwn oedd ŵr nerthol o gorff, a mwy tyner ei feddwl, godi yn erbyn y fath ffieidd-dra; ac mewn digter angherddol efe a waeddodd allan, "Ffei, ddiawl, dyma ffieidddra na welwyd erioed ei fath!" a dechreuodd ymosod ar y fileiniaid, nes eu hymlid yn y fan ar ffo. Mynodd ddychwelyd ei ddilledyn i Mr. Williams, ac ymgeleddodd ef; "ac wedi y cwbl (meddai yr hanes), pregethodd yn wrol, heb neb a feiddiai ei aflonyddu, gan arswyd dyrnodiau ei amddiffynwr."

Cafodd yr efengyl ddyfodiad lled foreu i dref Llanrwst. Yr oedd y diwygwyr, yn ol eu harfer, wedi bod yn curo y twmpathau megys yn yr ardaloedd cylchynol er ys rhai blynyddoedd; ond o'r diwedd, anturiasant i ymosod ar y dref. Yr oedd rhyw amnaid yn cael ei roddi gan ragluniaeth fod y drws yn agor iddynt i ddwyn eu tystiolaeth i breswylwyr y dref hefyd. Gwnaed hyn hefyd cyn yr ymraniad;-y cyfnod yr ydym yn terfynu cychwyniad Methodistiaeth. Yn y fl. 1750, priododd un William Llwyd, plwyf Llansanan, ferch y llety; ac ar ol priodi, daethant i gadw masnachdy i dref Llanrwst; a'r bobl ieuainc hyn a gawsant yr anrhydedd o agor eu drws i'r Methodistiaid gyntaf o neb yn y dref hon. Yn y flwyddyn hon, cafwyd cyhoeddiad un Morris Griffiths[1] i ddyfod yno i bregethu. Deallodd yr erlidwyr hyn, a chawsant wybod yr adeg y dysgwylid ef i'r dref. Ymgasg lasant, gan hyny, ar y bont, gan feddwl y byddai raid iddo ddyfod trosti cyn y gallai ddyfod i'r dref; a chan lwyr fwriadu, os dalient ef, ei fwrw ef tros-

  1. Aeth y gŵr hwn yn fuan ar ol hyn at yr Annibynwyr; a bu yn weinidog parchus yn en mysg yn sir Benfro hyd ei farwolaeth.