Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac nid y gymdeithasfa gyntaf hon oedd yr unig un y bu Mr. Whitfield ynddi; ond efe a barhaodd i ymweled â'i frodyr yn Nghymru, o leiaf unwaith yn y flwyddyn, hyd yr amser yr aeth efe y drydedd waith i Georgia: oblegid ni a gawn ei fod yn bresenol mewn cymdeithasfa a gynaliwyd yn Watford y flwyddyn ganlynol, sef y 6ed a'r fed o Ebrill, 1743; a thrachefn yn Gelli-clyd, Mai 1;[1] a thrachefn yn Nhrefeca yr un flwyddyn, ar y 29ain a'r 30ain o Mehefin; a thrachefn yn Abergavenni, Mawrth 28ain, 1744. Yr oedd hefyd, yn y cymdeithasfaoedd hyn frodyr eraill, y rhai a lafurient yn gystal yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd yn Lloegr, megys John Cennick, Herbert Jenkins, Joseph Humphreys, a James Beaumont. Ac nid yn unig fe ddeuai Whitfield a'i gydłafurwyr i Gymru, ond hefyd fe âi Harris, Rowlands, a H. Davies, drosodd atynt hwythau. A phan aeth Whitfield i Scotland, gadawodd ofal y Tabernacle, yn Llundain, ar Mr. Harris am bedwar mis, yn y fl. 1741. Mae enwau amryw i'w cael yn bresenol yn nghymdeithasfaoedd Cymru a Lloegr, megys Harris, Cennick, Jenkins. Lewis, Humphreys, a Beaumont, y brodyr a allent, mae'n debyg, lefaru yn y ddwy iaith, a'r rhai a arferent, hyd y gallent, fod yn bresenol yn y cynadleddau perthynol i'r ddwy wlad. Ni ellir olrhain, gyda dim sicrwydd, dros ba hyd y parhaodd yr undeb a'r cydweithrediad hwn rhwng Methodistiaid Cymru a Lloegr. Gallwn feddwl mai nid yn hir. Yr oedd gwahaniaeth iaith yn un rhwystr mawr. Nid llawer o'r rhai a godasant yn Nghymru a fedrent bregethu yn y ddwy iaith fel eu gilydd. Yr ydoedd y gwaith hefyd yn cynyddu mor brysur yn Nghymru, ac yn ymeangu mor fawr, fel nad allai y diwygwyr ymyryd ag achosion Lloegr, heb esgeuluso yr eiddynt eu hunain. Ciliodd Cennick at y Morafiaid, a Jenkins a aeth at yr Annibynwyr. A chyn llawer o amser, cauodd Harris ei hun i fyny, gan mwyaf yn Nhrefeca, i ofalu am ei deulu mawr yno: hyn, yn ychwanegol at y ffaith fod Whitfield yn gwibio yn ddiorphwys i Scotland, Iwerddon, ac America, a barai fod yr ymgymysgu rhwng Methodistiaid y ddwy wlad yn myned lai-lai o flwyddyn bwy gilydd. Ond er i ddiwygwyr y ddwy wlad ymddyeithrio oddiwrth eu gilydd, a phawb ymroddi i lafurio bob un ei winllan ei hun; eto, nid oedd oerfelgarwch rhyngddynt. Yr oeddynt yn un yn eu syniadau athrawiaethol, ac yn sefyll ar gyffelyb dir yn eu perthynas ag eglwys Loegr. Yr oedd John Wesley a'i ddylynwyr wedi cilio i fesur mawr er y fl. 1741: yr oedd y gwŷr a dueddent at y Morafiaid hefyd yn lleihau yn feunyddiol yn eu mysg, trwy fyned at yr eiddynt. Nid oerfelgarwch neu anghydfod, gan hyny, a barodd i Fethodistiaid Cymru a Lloegr ymddyeithrio, i raddau, oddiwrth eu gilydd; ond amgylchiadau anorfod a'u harweiniodd. Ar yr un pryd, nid oedd yr ymddyeithriad yn hollol ac yn gwbl. Adnewyddwyd gradd ar eu cydnabyddiaeth â'u gilydd trwy gyfrwng Iarlles Huntington. Gwahoddai y ben-

  1. Cymdeithasfa fisol oedd hon.