Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

defiges hon y Cymry, o bryd i bryd, i bregethu yn ei chapelau hi yn Lloegr, a deuai ambell un o'i gweinidogion hithau i ranau o Gymru, sef y manau hyny y deallid eu hiaith. Ymwelai hithau yn awr ac eilwaith â Chymru, ac o'r diwedd sefydlodd athrofa yn Nhrefeca, a rhoddwyd mantais mynychach i ddiwygwyr y ddwy wlad, dros ryw gymaint o amser, i gyfarfod â'u gilydd.

Ond i ddychwelyd at ysgogiadau y tadau yn y dywysogaeth, tuag at ymgorfforiad a threfn yn eu plith eu hunain. Ymddengys fod cyfarfodydd llai na'r un a grybwyllwyd eisoes wedi eu sefydlu ar yr un amser. Gelwid y cyfarfodydd hyn yn gymdeithas faoedd misol, a'r lleill yn chwarterol neu flynyddol.

Yr oedd y gymdeithasfa fisol i gynwys gweinidog ordeiniedig, os byddai modd, yr hwn a fyddai gymedrolwr y cyfarfod, ac arolygwr y dosbarth a'i gynorthwywyr. Dyma aelodau y cwrdd misol. Ac os byddai y gweinidog ordeiniedig yn absenol, yna llywyddid y cyfarfod gan yr arolygwr. Yn y fl. 1743, rhanwyd y wlad yn bump o ddosbarthiadau, a phob dosbarth yn cynwys cymdeithasfa fisol, megys:—

1. MAESYFED & THREFALDWYN—Parch. W. Williams yn gymedrolwr.

2. CEREDIGION a CHAERFYRDDIN—Parch. D. Rowlands yn gymedrolwr.

3. BRYCHEINIOG-Parch. Thomas Lewis yn gymedrolwr.

4. PENFRO—Parch. Howel Davies yn gymedrolwr.

5. MORGANWG a MYNWY—Parch. John Powel yn gymedrolwr.

Y gwahaniaeth rhwng y gymdeithasfa fisol a'r un chwarterol, oedd, fod yr olaf yn arolygu holl faes y cyfundeb; ond yr un fisol a arolygai achosion lleawl ei dosbarth ei hun. Yr oedd penderfyniadau y dosbarth hefyd i fod yn ddarostyngedig i arolygiad y gymdeithasfa chwarterol. Yr oedd Mr. Whitfield wedi ei ddewis i fod yn gymedrolwr y gymdeithasfa; yntau a ddewisodd Mr. Howel Harris i gymeryd ei le yn ei absenoldeb.

Enwau y prif arolygwyr, y rhai a ofalent am ddosbarth o wlad, ac a roddent gyfrif o honynt i'r gymdeithasfa chwarterol, ydynt:

1. MAESYFED a THREFALDWYN.—Cymedrolwr, W. Williams. Arolygwr, Richard Tibbot.

2. Rhan o ABERTEIFI a CHAERFYRDDIN.—Cymedrolwr, D. Rowlands. Arolygwyr, John Richard, James Williams, William John, David Williams.

3. BRYCHEINIOG.—Cymedrolwr, Thomas Lewis. Arolygwyr, Thomas James, James Beaumont.

4. Rhan isaf o GEREDIGION a sir BENFRO.—Cymedrolwr, Howel Davies. Arolygwyr, William Richard, Thomas Maelor, John Harris.

5. MYNWY, a rhan o FORGANWG.—Cymedrolwr,— John Powel. Arolygwyr, Morgan John, Thomas Williams, Morgan John Lewis, Thomas Price; ac at y rhai hyn chwanegwyd John Belcher.

Yr oedd hefyd nifer luosog o gynghorwyr, mwy a llai cyhoeddus, yn gysylltiedig â'r arolygwyr uchod yn mhob dosbarth. Ymddengys fod dau radd o honynt, y rhai a elwid cynghorwyr cyhoeddus, a chynghorwyr annghyhoedd. Y rhai blaenaf a arferent fyned o amgylch i bregethu ar gyhoedd