Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb fod yr Arglwydd yn ein mysg. Y diafol hefyd a wnaeth lawer ymosodiad caled ar y gymdeithas hon, gan geisio eu gosod oll y naill yn erbyn y llall. (Deallwch, fy mrodyr, fod mwy na hanner y gymdeithas hon yn ymneillduwyr); a dyma'r ail dro iddo ennill peth tir arnom i beri gwahaniaeth' rhyngom, a hyny oblegid rhyw eiriau. Y tro cyntaf, aeth dau allan, gan ymgadw yn mhell oddiwrthym byth wedi'n, fel na siaradent â ni mwyach. Ond yn awr, fe ddaeth y gwŷr hyn i'r gymdeithas; minau a'u holais pa fodd y bu; a chefais oleuni a grym i ymresymu â hwy am eu beiau; ond ni fynai eu calonau gymeryd eu hargyhoeddi, ac felly ymadawodd dau eraill. Drwg oedd hyn gan y blaid arall, y rhai oeddynt ewyllysgar a pharod i ddod i gymod â hwy, ond ymadael a wnaethant; felly yn awr, nid oes yn aros ond un-ar-ddeg."

Rhoddwn eto enghreifftiau eraill o'r hanes a roddid gan yr arolygwyr o ansawdd yr eglwysi dan eu gofal, gan y coeliwn y bydd yn fantais i'r darllenydd ganfod yn fwy cywir pa fath ydoedd agwedd Methodistiaeth dros gan mlynedd yn ol; pryd yr oedd yr eglwysi yn ychydig o rif, yn fychain eu gwybodaeth, ond yn ddeffro iawn yn eu heneidiau.

Wele gyfrif o'r eglwysi dan arolygiaeth y brawd James Williams, arolygwr dan y Parch. Mr. Rowlands,-mewn llythyr at y gymdeithasfa: "Anwyl frodyr yn yr Arglwydd,—Hyn sydd i'ch hysbysu, pa ddrws mor eang a agorwyd i mi gan yr hollalluog Dduw yn y cymdeithasau isod, a pha mor lwyddiannus ydyw mynediad yr efengyl yn mlaen yn eu mysg. Credu yr wyf yn ddilys, eu bod yn rhagori ar bob rhan arall adnabyddus i mi, o fewn tywysogaeth Cymru, am eu cariad at Dduw a'i efengyl; ac am eu mawr ofal i rodio yn ei hol; ac hefyd am eu hundeb â'u gilydd, heb gael eu herlid naʼu haflonyddu gan neb, oddieithr yr ychydig erlidigaeth a fu yn ddiweddar yn Llanbedr, yn sir Aberteifi. Fel yr oedd aelodau y gymdeithas yn gytun yn canu Salmau, ac yn gweddio Duw, daeth ustus heddwch a'i weision arnynt i'w haflonyddu, a chymerwyd yr un oedd yn gweddio ar y pryd yn garcharor. Ond trwy ragluniaeth Duw, y mae yr erlid yn lliniaru gradd, a'r gŵr a gymerasid yn garcharor wedi ei ryddhau, ond para y mae yr ynadon fyth i fygwth.

"Cymdeithas CAIO: cynwys 60 o aelodau, 27 o honynt mewn rhyddid, a'r lleill dan y ddeddf.

"Cymdeithas TALLE (Tylau?): cynwys 68 o aelodau 24 wedi cael ymwared trwy Grist, a'r lleill dan y ddeddf. William John, cynghorwr, a Thomas Griffiths, goruchwyliwr.

"Cymdeithas LLANGATHEN: cynwys 14 o aelodau, 5 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Morris John, cynghorwr.

"Cymdeithas LLANFYNYDD: cynwys 54 o aelodau, 23 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Morris John, cynghorwr yma hefyd.

"Cymdeithas LLANSAWEL: Cynwys 47 o aelodau, 18 o honynt yn rhydd yn Nghrist, a'r lleill dan y ddeddf. Joseph John, cynghorwr, a John Dafydd, goruchwyliwr.