Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cymdeithas CIL-Y-CWM: cynwys 26 o aelodau, 9 yn rhydd, a'r lleill dan y ddeddf. John Thomas, cynghorwr, a Isaac Dafydd, goruchwyliwr. "Cymdeithas LLANBEDR: cynwys 28 o aelodau, 13 yn rhydd, a'r lleill dan y ddeddf.

"Mae Dafydd William, cynghorwr yn Llanfynydd, wedi fy ngadael, ac wedi myned i gadw ysgol. Nid yw Thomas John wedi ei sefydlu yn un man. "Hyn oddiwrth eich cyd-ymdeithydd, a'ch gwas annheilwng yn Nghrist, "—JAMES WILLIAMS."

Nid oedd yr un gymdeithasfa fisol na chwarterol eto wedi bod yn y Gogledd; ac nid oes lle i feddwl fod nemawr o eglwysi wedi eu casglu at eu gilydd, oddieithr ychydig nifer yn nghwr sir Drefaldwyn. Y gymdeithasfa fisol gyntaf a gynaliwyd yn y sir holl, ac yn holl Wynedd, oedd yr un a gynaliwyd yn y Tyddyn, yn agos i Lanidloes, Chwefror 17, 1742. Ar yr achlysur hwn, cytunwyd ar fod i'r brodyr Morgan Hughes, Benjamin Cadman, a Lewis Evan, gymeryd gofal y cymdeithasau yn Tyddyn, Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan, Bwlch-yr-hwyad, a Mochdre; ac i Thomas Bowen fod yn genadwr neu oruchwyliwr.

Yn yr un flwyddyn, a'r un mis, mewn cymdeithasfa fisol yn nhŷ Jeffrey Dafydd, Llanddeusant, yn sir Gaerfyrddin, gwnaed sylw o ŵr arall o Wynedd, o'r enw Richard Tibbot;[1] a phenderfynwyd yn y cyfarfod, ei fod ef i fod yn athraw ysgol yn sir Benfro. Ganwyd y gŵr hwn yn Llanbrynmair, yn y fl. 1719; yr oedd, gan hyny, yn 23 oed pan y cytunwyd iddo fyned i sir Benfro i gadw ysgol. Ymddengys wrth yr hanes a roddwyd am y gŵr hwn, ei fod wedi treulio peth amser yn y fl. 1741 gyda'r Parch. G. Jones, Llanddowror, pryd, ond odid, y cafodd fantais i ddod yn fwy cydnabyddus â Methodistiaid y Deheudir. Gallwn gasglu ei fod wedi dechreu pregethu mor fore a'r fl. 1739, ond nid yw yr hanes yn glir gyda pha enwad. Casglu yr wyf mai gyda'r Annibynwyr yn Llanbrynmair yr oedd ei rieni, cyn bod Methodistiaid yno; ac mai gyda'r Annibynwyr y dechreuodd y gŵr ieuanc bregethu. Ond ar ol iddo ef fyned i Landdowror, tybygid iddo gael ar ei feddwl ymuno â'r Methodistiaid; ac iddynt hwythau ei appwyntio i gadw ysgol yn sir Benfro. Nid oes hanes genym a fu ef yn cadw ysgol yn y wlad hóno, yn ol y penderfyniad hwn; oblegid ni a gawn benderfyniad arall, ar iddo ymofyn am ryw orchwyl, ac ymweled â nifer o'r eglwysi, hyd nes yr agorai y drws iddo gadw ysgol Gymraeg. Tebyg ydyw na fu ef ddim yn cadw ysgol yn sir Benfro oll, gan y cawn ni benderfyniad drachefn ychydig diweddarach, fod Morgan Hughes a Richard Tibbot i arolygu yr cglwysi yn sir Drefaldwyn, a rhan o sir Aberteifi; ac yn Mehefin, 1743, yr ydym yn cael ei enw yn mhlith y cynghorwyr cyhoeddus yn nghymdeithasfa • Trefeca, yn yr hon yr oedd Mr. Whitfield yn gymedrolwr. Ie, yr ydym yn cael adroddiad o'r eiddo wedi ei ddyddio Ionawr, 1743, yr adroddiad cyntaf a wnaed o'r Gogledd, o ansawdd yr eglwysi bychain yn sir Drefaldwyn, yn

  1. Gwel ei hanes, tudal 119.