Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y disgynent yn ddiatreg? Oni chyfyd efe ei ddwylaw, gan ddiarebu rhag y fath frwdfrydedd gorwyllt, a'r fath anturiaeth benchwiban? Eto, dyma y fath anturiaeth a wynebodd ein tadau arni. Mae y gwaith yn fawr, y gwrthwynebiad yn ffyrnig, a'r offerynau yn wael; ac heb olygiad amgen na dynol, hawdd y gallem ddarogan ei aflwydd, a rhagfynegu ei ddyryswch. Ond y mae y gwŷr ieuainc yn unplyg eu hamcan, ac yn gywir eu calonau. Nid oes yn eu golwg ond gogoneddu Crist yn iachawdwriaeth dynion. Arfau ysbrydol ydyw arfau eu milwriaeth. Dechreuant ar eu gwaith mewn gweddi : a'r hyn a ddechreuir mewn gweddi a ddybena yn fynych mewn llwyddiant. Felly hefyd y bu yn yr amgylchiad hwn:-" O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

"Mae yn rhyfedd," ysgrifena Howel Harris, "pa fath ymddarostyngiad i'r naill y llall y mae yr Arglwydd yn ei weithio yn ein hysbrydoedd; tra y galluogir ni i fyned yn mlaen mewn ffydd, y mae y drefn allanol yn dylyn y dufewnol; ond i'r graddau y rhedwn o flaen yr Arglwydd, yr ydym yn cyfarfod a chroes o ryw gwr neu gilydd. Yr ydym yn dechreu ac yn diweddu mewn gweddi, a thrwy dywallt ein calonau ynghyd. Y mae yn syndod pa fodd y mae corff o greaduriaid beilchion, anwybodus, ac anghymhwys, yn cael eu dysgu, eu huno, a'u harwain mewn gwaith mor fawr.

"Arglwydd, tydi a wnaethost hyn-I ti yn unig y byddo'r clod!"

Heb ddywedyd dim am y beirian-drefn a osodwyd ar waith gan ein tadau, o ran teilyngdod ei gwahanol ranau, ni allwn lai na synied yn uchel am y gofal manwl a gymerid am yr eneidiau hyny a fyddent dan drallod a phryder yn nghylch eu hachos ysbrydol. Tueddir ni i feddwl y gellir priodoli llawer o lwyddiant y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru, a'r Methodistiaid Wesleyaidd yn Lloegr, i'r gofal hwn. Yr oedd y cyfarfodydd eglwysig, y fath a osodwyd i fyny y pryd hyn, yn newydd iawn yn Nghymru; ac wedi cael prawf o'u llesoldeb, teimlai ein tadau awyddfryd am eu dwyn yn mlaen yn effeithiol. I'r dyben hyny, rhaid oedd wrth urdd o ddynion i ofalu am danynt, ac i'w harolygu. Yr oedd yma rai gwŷr, a gyfrifid wedi derbyn talentau helaeth i'r weinidogaeth, yn cael eu rhyddid i wibdeithio ar hyd ac ar led y wlad, modd y cesglid dynion i wrando, ac y deffroid hwy i ystyriaeth a difrifwch. Yr oedd urdd arall, llai eu doniau gweinidogaethol efallai, yn cael yn cael eu gosod i arolygu nifer o ganghenau eglwysi mewn dosbarth wlad, ac i weini iddynt yn fwy sefydlog na'r urdd gyntaf y soniwyd am dani. Yr oedd yma hefyd ddosbarth neu urdd arall, y rhai a allent fod yn wasanaethgar a buddiol iawn yn y cyfarfodydd neillduol, mewn gweddi a chynghor, ond heb eu cymhwyso gymaint "i ddal gair y bywyd" yn gyhoeddus. Yr oedd y drefn, gan hyny, yn defnyddio pob gradd, ac yn gosod pob dawn ar waith. Yr oedd y naill yn cyflenwi yr hyn oedd ddiffygiol yn y llall, a gwasanaeth y cyfan yn tueddu i adeiladaeth corff Crist.

Nid yw ein defnyddiau yn hysbysu i ni dros ba faint o amser y parhaodd y drefn hon, nac ychwaith pa beth yn neillduol a fu yr achos i roddi terfyn