Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weddillion dygiad i fyny, ai ynte oddiar egwyddorion uwch, nid yw mor hawdd ei benderfynu. Dilys ddigon ydyw, na chyfarfyddai y Methodistiaid cyntefig â gwrthwynebiad mor ffyrnig oddiwrth neb ag oddiwrth yr eglwyswyr; a dilys hefyd ydyw, fod y diwygwyr Methodistaidd yn arfer gofal mawr na ddywedent ddim yn erbyn yr hen fam.

Yn gyntaf, ni a gawn fod petrusder yn meddyliau rhai o'r pregethwyr am y priodoldeb o alw y Methodistiaid yn sect neu yn eglwys; ac yn y drafodaeth, dangosid anewyllysgarwch i ymgyfenwi ar un enw ond eglwys Loegr, nac i ffurfio plaid ar wahan oddiwrthi, oddieithr eu troi allan ganddi. Mynent alw y mân gynulliadau crefyddol yn gymdeithasau o fewn yr eglwys sefydledig, a gosodent eu hwyneb yn erbyn galw eu pregethwyr yn ddim amgen na chynghorwyr. Mewn cymdeithasfa yn y fl. 1744, ni a gawn fod y mater hwn wedi dyfod dan sylw eilwaith; ac wedi i'r brodyr ddatgan eu meddyliau yn rhydd, am eu perthynas â, a'u dyledswydd tuag at, holl ddynolryw, fel eu cydgreaduriaid, a thuag at yr eglwys fawr gyffredinol drwy y byd, fel corff Crist, a thuag at y gangen neillduol hòno o honi yn y deyrnas hon, sef eglwys Loegr, ond yn neillduol ac uniongyrchol tuag at y rhai a ymunent â hwy ar hyd y gwledydd, cytunasant, er mwyn symud pob tramgwydd hyd y gallent, i gymuno yn llanau y plwyf, ac i annog y bobl i wneyd yr un modd. Gwneid hyn, meddynt, i attal pob ymddangosiad o sect. Yr oedd yno rai y pryd hyny yn teimlo petrusder i gymuno yn y llanau plwyfol, o herwydd anghrefydd y gweinyddwyr a'r cyd-gymunwyr. Yn erbyn hyn dywedid, mai gwendid ffydd oedd gwreiddyn y petrusder, pan y codai oddiar olygu anghymhwysder y gweinidog; y dylasid edrych heibio y moddion at Dduw, a dysgwyl wrth, a dibynu ar, ras Crist, ac nid ar ras y gweinyddwr; ac mai sawrio yn ormodol o ysbryd y Pharisead gyda golwg ar y publican yr oedd y rhai a dramgwyddent wrth anfoes ac anghrefydd eu cyd-gymunwyr. Ond nid oedd y dull hwn o ymresymu yn gwbl foddhaol gan bawb; ar yr un pryd, cwympent yn y cyfamser i farn eu brodyr, a chyd-ddygent yn amyneddgar â'r amgylchiadau dros ryw dymhor, gan ddysgwyl y dygai yr Arglwydd naill ai diwygiad i'r hen eglwys, neu yr agorai efe ddrws amlwg i'w gadael. Yn ol barn yr ysgrifenydd, nid mor rymus yr ymddengys ymresymiadau yr hen dadau gonest ar y pen hwn. Hawdd iawn ydyw genym gyd-ddwyn â hwy hefyd, er ei gyfrif yn wendid. Pwy sydd i'w cael yn ein byd ni heb eu gwendidau? Nid rhyfedd yw eu bod yn ymarhous i gilio i dir ymneillduaeth, yr hyn nid oedd eto wedi ennill ond ychydig o dir yn Nghymru. Yr oedd rhagfarn cryf, anorchfygol ymron, yn ei erbyn, yn mysg mawr a bach, gwreng a beneddig. Ie, yr oedd yn ein diwygwyr ninau ragfarn cryf yn erbyn ymneillduaeth, ac ni fynent er dim gael eu cyfrif yn nifer yr ymneillduwyr. Ac nid oedd dim ond un peth yn gryfach na'r rhagfarn hwn, a hwnw oedd cariad at y gwirionedd, ac eiddigedd dros iachawdwriaeth dynion. Os gwelid y byddai raid naill ai rhoddi heibio y gwaith y cychwynasent arno, neu fyned i dir ymneillduaeth, yna hawdd a fyddai ganddynt, yn hytrach na throseddu ar eu cydwybod i Dduw, ymddyosg oddiwrth eu