Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyneb y clerigwyr, heb roi heibio y pregethu; a hyny nis gallent, o herwydd cydwybod ac nid oedd modd cael nodded y gyfraith i bregethu, heb gilio at ymneillduaeth; a hyny ni fynent ei wneyd er dim. Cyfrifent y gorthrwm a'r anfri a syrthiai arnynt trwy draha yr eglwyswyr, nid i'r sefydliad crefyddol hwnw ynddo ei hun, ond i anghrefydd ei offeiriaid a'i aelodau proffesedig. Mynai yr hen bobl feddwl yn dda am y sefydliad, er gorfod meddwl yn ddrwg am lawer iawn, ie, y rhan fwyaf o lawer, o'i ddeiliaid a'i weinidogion. Ond pa mor hwyrfrydig bynag a fu ein hen dadau i adeiladu addoldai, bu raid gwneyd. Lluosogodd y gwrandawyr draw ac yma yn fwy na digon i'r tai anedd yr ymgyfarfyddid ynddynt. Cododd dynion yn raddol o fysg y Methodistiaid eu hunain, yn meddu gwybodaeth, dawn, a dylanwad helaeth, y rhai ni chawsent urddau esgobawl, ac ni thybient hyny yn angenrheidiol. Yr oedd y teimlad ymneillduol, gan hyny, yn dwysâu, a dylanwad y pregethwyr lleŷgaidd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, nes o'r diwedd y dechreuwyd sisial, "Pa ran sydd i ni yn yr esgobion? a pha etifeddiaeth sydd i ni yn llan y plwyf? I'ch pebyll, & Fethodistiaid; adeiledwch i chwi dai addoliad: a mynwch nodded y gyfraith dros eich personau a'ch meddiannau."

Mewn cymdeithasfa yn Mlaen-y-Glyn, Gorphenaf 3ydd, 1745, darllenwyd llythyrau,-un oddiwrth y brawd John Richard, ac un arall oddiwrth y brawd Richard Tibbot, dau arolygwr cymeradwy,-yn datgan eu petrusder ai ni ddylasent osod eu hunain allan o afael eu gelynion erlidgar, trwy gymeryd trwydded (license) i bregethu. Dywedent eu bod mewn perygl o gael eu dal, a'u gorfodi i fyned yn sawdwyr, os aent i rai manau cyhoeddus, yn ol eu harfer. Cymerwyd cynwys y llythyrau hyn i sylw, a chytunwyd,—

"Y byddai cymeryd trwydded gyfreithiol i bregethu ar hyn o bryd, ar y naill llaw, ac y byddai gadael y gwaith, ar y llaw arall, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd;" a barnai y rhan fwyaf, mai lle y sawl ag oedd o afael y gelynion, oedd myned i'r lleoedd mwyaf cyhoeddus, ac i'r lleill fyned i leoedd llai cyhoeddus ac arfer pob cyfrwysder diniwed, "gan y tybir (meddent) mai profedigaeth dros dymhor yw yr un bresenol, ac nid un i'w golygu yn erlidigaeth."

"Cytunwyd hefyd, os âi yr erlidigaeth yn gyffredinol, ac i'r efengyl gael ei llwyr warafun, mai apelio at y llywodraeth a ddylid; ac os gwrthodid gais yno, yna apelio at yr esgobion; ac os cymerid ein rhyddid ni ymaith yn llwyr, yna y byddai yn amlwg mai ymneillduo ydoedd raid."[1]

Yr hyn a barai i'r hen dadau ymwarchod cymaint rhag ymadael oddiwrth yr eglwys wladol ydoedd, fod arnynt ofn bod yn euog o'r pechod o ymraniad (schism), a dyfod o dan y cyhuddiad trwm o fod yn encilwyr cwerylgar (schismatics), a phenderfynent unwaith ac eilwaith, mai eu gorfodi yn unig a barai iddynt wneuthur hyny. Yr oedd anghydffurfiaeth neu ymneillduaeth yn Nghymru yn dra isel ei beu, a gwanaidd ei wedd; edrychid arno yn beth ofnadwy i neb ymadael ag eglwys y plwyf; ac yn wir, nid oedd neb eto yn ewyllysgar i wneyd, oddieithr fod cydwybod i Dduw megys yn eu gorfodi.

  1. Treveca Minutes.