Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithwyr amlaf o lawer yn y cyfundeb, a'r pregethwyr mwyaf eu dylanwad oddieithr ychydig eithriaid, o neb yn y cyfundeb. Yn mha beth, ynte, yr oedd yr undeb ag eglwys Loegr yn gynwysedig? Nid mewn cysegriad esgobawl o'u capelau, nac mewn urddiad esgobawl o'u pregethwyr, nac mewn awdurdodiad esgobawl o'n cynadleddau, nac mewn cymeradwyaeth esgobawl o'u trefniadau. Yn mha beth, ynte? Yr oedd y diwygwyr yn benderfynol o'r dechreu na ymostyngent i awdurdod yr un esgob, os ceisiai ganddynt beidio a phregethu, neu beidio a theithio, neu beidio a phregethu mewn lleoedd anghysegredig, neu allan o'u plwyfydd; neu os galwai efe arnynt i beidio cydgyfarfod i osod rheolau a threfniadau, heb eu gosod yn gyntaf ger ei fron ef am gymeradwyaeth:—mewn gair, yr oedd yr holl ysgogiad o'r dechreuad wedi ei sylfaenu ar yr egwyddor o fwrw ymaith iau yr esgob. Ac ar ol ymgyfarfod mewn cymdeithasfa, a chymeryd mewn llaw y gwaith o osod deddfau, a galw swyddogion, heb gyfarch neb ond Crist ei hun, fel Pen yr eglwys, ofer oedd siarad mwyach am undeb gwirioneddol ag eglwys Loegr.

Ni fuaswn yn aros gyda hyn o bwnc ar hyn o bryd, oni bae i mi ddeall yr edliwir i ni ein bod wedi llwyr ymadael ag egwyddorion eglwysig ein tadau; a thybiais mai nid afraid oedd hyn o grybwylliad yn y lle hwn cyn i ni fyned yn mhellach yn mlaen. Ni a gawn fantais eto i droi at y mater hwn, fe allai fwy nag unwaith, yn enwedig pan y delom at yr amgylchiad a barodd i rai o weinidogion eglwys Loegr gilio oddiwrthym. Digon fe allai yn awr ydyw datgan ein barn, fod elfenau ymneillduaeth yn hanfod yr ysgogiad Methodistaidd o'r dechreuad, ac na allai ein tadau, ie, er dymuno hyny, gadw yr ysgogiad o fewn terfynau yr eglwys sefydledig, heb wrthryfela yn erbyn ei threfn a'i swyddogion ar y naill law, neu fod yn anffyddlawn i'w "Meistr yn y nefoedd" ar y llaw arall. Addefwn yn rhwydd ac yn ddiolchgar ein bod yn ddyledus i weinidogion ac aelodau eglwys Loegr am y diwygiad Methodistaidd, fel offerynau; ond nid ydym ar un cyfrif yn ddyledus i eglwys Loegr ei hun:—nid i'r sefydliad, ond i ddynion Duw o fewn y sefydliad; dynion hefyd, yn hyn, a weithredent yn groes i osodiadau y sefydliad, ac a erlidid gan yr awdurdodau perthynol iddo. Ar yr un tir y gall y Pabyddion ymffrostio mai eu heglwys hwy a roes hanfod i'r diwygiad protestanaidd, am fod Luther a Melancthon yn perthyn iddi, ag yr hònir mai eglwys Loegr a gynyrchodd Fethodistiaeth Cymru, am mai gweinidogion dan urddau ynddi a fu yr offerynau penaf i roddi hanfod iddo. Nid ydym, gan hyny, yn gallu cydsynio â'r honiad mai cangen berthynol i'r eglwys wladol a fu Methodistiaeth un amser, ac yn enwedig wedi y cais a wnaed yn y fl. 1742 at ymgorfforiad a threfn.

Ymddengys dau beth tra phwysig a chanmoladwy yn mysg y diwygwyr yn yr adeg hon-dau beth hanfodol i lwyddiant crefydd yn ei holl ranau; sef, y gofal a gymerid i chwilio i gymhwysderau y swyddwyr a osodid ar wahanol ranau y gwaith; a'r dyfalwch a arferid i fugeilio y sawl yr oedd arwyddion fod gwaith yr Ysbryd ynddynt. Hawdd ydyw sicrhau, pan fyddo y ddau beth hyn ar ol, neu yn wir un o honynt, na fydd y llwyddiant ond