Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bychan yn ei faint, a byr yn ei barhad. Gŵyr pob un a ddarllenodd hanesiaeth eglwysig, mai diffyg o'r pethau hyn a effeithiodd mor wenwynig ar wledydd cred, mewn gwahanol oesau, a than wahanol amgylchiadau. Ac ni allai fod un arwydd sicrach fod y tadau Methodistaidd dan raddau helaeth o arweiniad dwyfol, pan y gwylient mor ofalus ar y pethau hyn. Yn y gymdeithasfa gyntaf, fe gytunwyd, "Na dderbynir yr un cynghorwr i'n mysg nes ei brofi a'i gymeradwyo."

Nid llythyren farw a fu y penderfyniad hwn yn eu mysg: eithr gosodent ef mewn gweithrediad. Yn y cyfarfod cyntaf a fu ganddynt ar ol pasio y penderfyniad, cytunwyd, "Fod y brodyr canlynol i gael eu hattal hyd y gymdeithasfa nesaf, sef James Tomkins; Dafydd Prys, Diserth; Richard Thomas, Ystrad-wellten; John Dafydd, Llandefeilog; John Watkins, Defynog; a Thomas Prys, Llandilo-fach." Hefyd, "Cytunwyd, ar fod John Dafydd yn cael llefaru ar brawf o flaen y brodyr yn nghymdeithasau Llandefeilog a Chil-carw, hyd nes y caffom farn y brodyr am dano."

Mewn cyfarfod arall, "Penderfynwyd, fod i'r brawd Dafydd William gynghori yn y cymdeithasau nesaf yn unig, hyd nes y caffo dystiolaeth oddiwrthynt i ddyfod i'n cymdeithasfa nesaf i gael ei arholi." Yn yr un cyfarfod, "Penderfynwyd, ar i James Tomkins, Richard Thomas, John Watkins, a Thomas Prys, gael eu hattal yn hollol, gan y bernir na anfonwyd hwy gan Dduw."

Drachefn y cawn i'r un perwyl osodiad fel hyn o flaen y gymdeithasfa, "Pan gynygio rhyw un ei hun i fod yn gynghorwr, rhaid iddo yn gyntaf gynghori yn y cyfarfod eglwysig. 1af, Er mwyn iddo gael cymeradwyaeth un neu amryw Gristionogion profiadol, y rhai a'i clywsai yn fynych. 2il, Er mwyn cael barn tri neu bedwar o gynghorwyr, cyhoedd neu anghyhoedd, a gweinidogion. 3ydd, Rhaid iddo fyned dan arholiad am ei ras, ei alwad, ei gymhwysderau, ei ddoniau, a'i athrawiaeth."

Ar ol hyn, cawn benderfyniad arall o'r un natur, sef, "Fod i bawb a dybiont ddarfod eu galw i gynghori, ddyfod i un o'r cymdeithasau misol nesaf, lle yr ymofynir yn fanol yn nghylch eu dawn, eu gras, a'u galwad. Os cymeradwyir hwy, cânt ryw ddosbarth neu gilydd i lafurio ynddo ag a welo y gymdeithasfa yn oreu, a dygir y cymeradwyaeth hwnw i'r gymdeithas fa gyffredinol, i'w gadarnhau."[1]

Gallesid tybied, ar ryw gyfrifon, nad oedd cymaint angenrheidrwydd am yr holl ofal yma, gan fod y profedigaethau a'r erlidiau cysylltiedig â'r cynghori mor fawrion a chwerwon. Gallesid meddwl eu bod yn ddigonol ynddynt eu hunain i fod yn wrthglawdd yn erbyn i ddynion anghymhwys ymgeisio at y swydd, neu ymyraeth â'r gwaith. Ond nid felly y barnai yr hen frodyr. Dangosent gymaint o ofal pwy a dderbynid i gynghori, a phe buasai yn gysylltiedig â'r swydd ryw hudoliaeth gref, neu wobr helaeth. Cafwyd profion hefyd, mai nid afreidiol oedd y gofal a'r manyldra a ddang-

  1. Treveca Minutes.