Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swydd ydoedd rhybuddio y cymdeithasau yn erbyn ei heresiau, ac yn erbyn cymdeithasu yn ormodol ag ef; "felly (medd yr hanes), wedi hir drafodaeth, a gweddi, a chyda difrifwch mawr, ni a'i troisom ef i maes; a'n calonau yn ddrylliau o gariad at ei enaid ef, ac o eiddigedd dros ogoniant Duw; ac yn llawn o fraw a phryder yn achos y praidd."

Rhoddwn eto un enghraifft arall, am frawd ag oedd wedi cael ei oddiweddyd ar fai, ond wedi gweled ei wyrai, ac yn dangos galar a thristwch o'i blegid. Fel hyn y rhed yr hanes:-"Wedi goddiweddyd y brawd Howel Griffith ar fai, ac iddo ddangos amlygiadau digonol o wir edifeirwch, cytunwyd ar ei fod yn cael ei dderbyn eilwaith, ar brawf, ac ar yr ammod ei fod yn gofalu ymgadw rhag yr achlysur o'i gwymp o hyn allan."

Ymddengys fod sylw yn cael ei wneyd o absenoldeb y brodyr o'r cymdeithasfaoedd, oddieithr fod llinell oddiwrthynt yn hysbysu yr achos: a chawn benderfyniad fel hyn mewn un gymdeithasfa:—

"Cytunwyd i ysgrifenu at y brawd Howel Davies, a John Harris, am na anfonasent eu rhesymau am eu habsenoldeb; hefyd, i ysgrifenu at Thomas Maylor, am ei fod yn esgeuluso y cymdeithasfaoedd yn hollol."

Cymerid sylw, nid o droseddau mewn buchedd, ac o gyfeiliornadau mewn athrawiaeth yn unig, ond hefyd o seguryd, esgeulusdra, ac anffyddlondeb yn y gwaith. Mewn cyfarfod yn Mhorth-y-rhyd, "Cytunwyd, fod y brawd Harris, yn enw y brodyr cynulledig, i weinyddu cerydd ar John Williams, am ei esgeulusdra yn gwylio dros y gymdeithas dan ei ofal, ac i roi ar ddeall iddo, y bwrid ef ymaith wedi mis o brawf y'mhellach, oddieithr iddo ddangos arwyddion o ufydd-dod a ffyddlondeb."

Oddiwrth y dyfyniadau uchod, ymddengys fod llawer o ofal a manyldra, a llawer o ffyddlondeb tuag at eu gilydd, ac eiddigedd dros ogoniant Duw, yn ffynu yn mysg tadau y diwygiad, gyda golwg ar y rhai a dderbynid i un math o swydd yn y cymdeithasau eglwysig. Yr oedd cyffelyb ofal yn cael ei ddangos yn mugeiliaeth yr aelodau. Ymwelid â'r canghenau eglwysi yn gyson, gan un neu ychwaneg o'r rhai a berchenogent raddau helaethach o wybodaeth, profiad, a dawn. A mawr iawn a fyddai y llawenydd a fwynheid yn fynych yn y cyfarfodydd hyn. cyfarfodydd hyn. Ymddengys fod y dyddanwch o fewn yn cyfateb i'r gwarth a'r erlid oddiallan. Yr oedd hi gyda'r crefyddwyr boreu hyn yn gyffelyb fel yr oedd Paul a'i frodyr yn profi, "Fel y mae dyoddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein dyddanwch ni hefyd yn amlhau." Yr un modd yr oedd yr apostol yn gobeithio y byddai gyda'r Corinthiaid, "Ac y mae ein gobaith yn sicr am danoch; gan i ni wybod, mai megys yr ydych yn gyfranogion o'r dyoddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r dyddanwch," 2 Cor. i, 5, 7. Nid oes amheuaeth nad oedd anhawsderau y tadau yn Nghymru, yn y blynyddoedd cyntaf o'r diwygiad, yn fawrion iawn; ac anhawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am eu maint; ond ymddengys fod y dyddanwch yn gyfartal. Megys eu dydd, yr oedd eu nerth. Rhoddid iddynt ras yn gymhorth cyfamserol. Yr oeddynt yn mawr lawenhau, er eu bod mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau; ac yr oedd