Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/206

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

idog aros gyda hwy dros yr holl nos, i'w calonogi a'u cynghori. Mewn ychydig o wythnosau, yr oedd nifer y rhai yr oedd arwyddion gobeithiol o ddychweliad at Dduw arnynt, yn dri chant. Canfyddwyd diwygiad mawr yn mucheddau dynion a fuasent o'r blaen yn hynod am eu hannuwioldeb a'u dyhirwch; diflanodd tyngu, rhegu, a meddwi; y rhai a wnaethent gam, a addefasant hyny gyda galar ac ymostyngiad; y rhai a fuasent mewn digofaint tuag at eu gilydd, a gymodwyd; dychwelodd eraill yn ol yr hyn a gymerasent ar gam; codwyd addoliad teuluaidd i fyny mewn tai cwbl esgeulus o'r ddyledswydd hyd y pryd hyny; ac ymdyrai y bobl at eu gilydd yn fan ddiadelloedd i weddio ac i ymddyddan am bethau dwyfol.

Meddai Whitfield am y diwygiad hwn yn Scotland, yr hwn hefyd oedd lygad-dyst o'r hyn y traetha am dano,—"Pregethais am ddau o'r gloch i gynulleidfa fawr iawn; a thrachefn am 6 o'r gloch, a naw o'r gloch, yn yr hwyr. Ni chlybuwyd yn ddiau erioed am y fath gyffro, yn enwedig un-arddeg o'r gloch y nos. Am awr a hanner yr oedd y fath wylo, a chynifer yn syrthio mewn llewygfeydd, gan drallod meddwl, ag sydd annhraethadwy. Mae y bobl yn ymddangos fel pe lleddid hwy wrth yr ugeiniau. Cludir hwy ymaith i'r tai, fel y cludir milwyr archolledig allan o faes y frwydr. Mae eu gwasgfeuon a'u llefau yn dra effeithiol. Pregethodd Mr. M. ar ol i mi ddarfod, nes ydoedd wedi un o'r gloch y boreu, a phrin y ceid gan y bobl. ymadael y pryd hyny. Gellir clywed llais gweddi a mawl yn y maesydd trwy y nos. Daeth rhyw foneddiges o hyd i nifer o ferched ieuainc yn moliannu Duw ar doriad y wawr; aeth hithau atynt, ac a ymunodd â hwy."

Prin y gallasai Whitfield ysgrifenu yn gywirach pe buasai yn dysgrifio y diwygiad yn Nghymru, nag y gwna yn yr ymadroddion uchod, er mai am Scotland y mae yn traethu. Yn ystod y flwyddyn hono, 1742, bernir fod of leiaf bedwar cant o bersonau wedi cael eu deffro yn y lle hwn yn achos eu heneidiau, y rhai a brofent, yn y canlyniad, trwy arwyddion gobeithiol, eu bod wedi eu gwir ddychwelyd at yr Arglwydd.

Caed prawf o'r cyffelyb adfywiad mewn plwyf arall o'r enw Kilsyth, a hyny yn y blynyddoedd 1742-3. Yr oedd gweinidog y lle wedi bod yn llafurio yno am ddeng mlynedd ar hugain, ac heb arwyddion neillduol o lwyddiant. Ymwelsai Duw a'r gymydogaeth hon yn ystod yr amser y bu y gŵr duwiol hwn yn llafurio yno, â llycheden drom, yr hon a symudodd lawer, yn enwedig o'r saint, i'r bedd. Drachefn, ymwelodd â hi trwy ystorm ofnadwy o fellt a tharanau, yr hon a barodd golledion trymion; a thrachefn â newyn. Ond nid oedd y gorchwyliaethau llymion hyn yn effeithio dim ar y trigolion, i'w dwyn i ymostwng ac edifarhau gerbron Duw am eu pechodau. Yn hytrach, yr oedd y cyfarfodydd gweddio yn wacach, anwiredd yn amlhau, a chariad llawer yn oeri. Ond ar y pryd yr oedd mynyddau Cymru yn adsain gan bregethiad yr efengyl, a mawl i Dduw, a Lloegr yn cael ei mwydo â chawodydd cynyrchiol, fe lonwyd eneidiau dylynwyr yr Oen yn Kilsyth a'i chymydogaethau; yn enwedig, llonwyd ysbryd y gweinidog duwiol Mr. Robe. Y gŵr hwn a lafuriasai yn mhlith y bobl am gynifer o