Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/222

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hunan-ymwadiad, ac yn eu gosod yn agored i gynifer o beryglon. Gosodai yr offeiriaid eglwysig dan y cyhuddiad trwm o annhrefn ac afreolaeth, a thynai y gwib-lafur hwn arnynt ŵg trwm yr esgobion; eto, yn mlaen yr aethant, gan fwynhau profion Sicr a diymwad o foddlonrwydd y Goruchaf, trwy ei fod yn gwenu ar eu heneidiau hwy eu hunain, ac yn eu hanrhydeddu fel offerynau i achub lluaws mawr o bechaduriaid.

Yr oedd graddau mawr o'r wedd deithiol hon ar y weinidogaeth yn ymddangos ar y diwygiad yn Lloegr, yr hwn oedd yn cerdded rhagddo ar yr un pryd a'r diwygiad yn Nghymru. Dywedir am y Parch. John Berridge, ficar Everton, ddarfod iddo yntau, ar ol ei ddeffro trwy argyhoeddiad, ymroddi i'r un afreolaeth, a chyflogi lluaws o gynghorwyr da eu gair, aiddgar eu hysbryd, a chymhwys eu dawn, i fyned o amgylch yn yr un modd, i gynghori pechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Amgylchynid y gŵr hwn â gwlad eang, a chanfyddai nad oedd ei frodyr eglwysaidd ond bugeiliaid mewn enw yn unig; tosturiai, gan hyny, wrth y werin dywyll, a theimlai arno rwymau i droseddu terfynau ei blwyf, er y gwyddai yn dda y dygai hyny arno lawer o lafur corfforol, a llawer o warth ac erlidigaeth, gan fod y dull hyny o lafurio mor groes i drefniadau y sefydliad y perthynai efe iddo. Wedi iddo eistedd i lawr a bwrw y draul, efe a ymroddodd i bregethu yr efengyl yn mhob man y byddai drysau yn ymagor iddo; ac onid agorid y lleoedd cysegredig iddo, ni phetrusai gyfarch ei wrandawyr mewn tai anedd, ysguboriau, neu yn yr awyr agored. Maesydd ei lafur yn benaf oedd swyddi Cambridge, Essex, Hertford, Bedford, a Huntington. Yn y cylch eang hwn efe a bregethai ddeg neu ddeuddeg waith yn yr wythnos at eu gilydd, a theithiai yn fynych gan milldir yn yr wythnos ar gefn march. Cymerodd adeiladau dan ardreth i addoli ynddynt; cynaliai y cynghorwyr; a thalai gostau eu teithiau o'i feddiannau ei hun. Yr oedd ganddo etifeddiaeth a berthynai i'w deulu, yr hon, yn nghyda chyflog ei ficariaeth, a dreuliai yn llwyr yn achos yr efengyl. Yr oedd effeithiau ei lafur yn rhyfeddol. Sierheir fod mwy na mil o bobl dan argyhoeddiad wedi ymweled ag ef mewn un flwyddyn; a chyfrifir, ar seiliau cryfion, fod tua phedair mil wedi cael eu deffro mewn un flwyddyn dan ei weinidogaeth ef a'i gyfaill Mr. Hicks.

I'r graddau yr oedd y gŵr duwiol hwn yn llwyddo, i'r graddau hyny y gwrthwynebid ef. Tra anniddig oedd tywysog y tywyllwch fod cynifer yn cefnu ar ei faner, a pharodd ymosodiad egniol ar yr offeryn a wnaethai hyn. Nid oedd un ymgyrch yn rhy ffyrnig, dim llysenwau yn rhy warthus, nac un driniaeth yn rhy farbaraidd. Triniwyd rhai o'i ddylynwyr yn greulawn. iawn, a dinystriwyd eu meddiannau. Ymunodd y boneddwyr, clerigwyr, a'r ynadon, yn un fintai, a gosodasant bob peiriant ar waith i'w luddias ef i bregethu. Am ugain neu ddeng mlynedd ar hugain, yr hen gythraul oedd yr enw yr adwaenid ef wrtho yn eu plith. Ond nid oedd John Berridge yn gwneuthur cyfrif o ddim ond o gadw cydwybod ddirwystr, ac o fod yn ffyddlawn dros ei Arglwydd. Ai rhagddo yn dawel a difrifol gyda'i waith, heb fod dadwrdd y lluaws yn effeithio dim mwy arno na chyfarthiad corgi ar y