Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardal yn meddu un attyniad; nid oedd na thref na phorthladd; nid oedd chwaith yn gyrchfa na marsiandwyr nac oferwyr. Yr oedd ei sefyllfa yn fynyddig, y ffyrdd yn anhygyrch, a'r cyfleusderau i lochi dyeithriaid yn fychain a phrinion iawn. Yr oedd mor rhyfedd i Langeitho ddyfod i fod yn gyniweirfa tyrfaoedd mawrion, ag oedd fod da wedi dyfod o Nazareth. Ni wnaeth dim mo Langeitho yn enwog ond gweinidogaeth Rowlands. Mae y ffaith hon, fod y pentref bychan mynyddig ac anghyfleus hwn wedi bod yn gyrchfan miloedd, a channoedd o filoedd, o ddynion, o bryd i bryd, am ysbaid hanner can mlynedd a mwy, ar ddybenion crefyddol, yn brawf o'r fath sicraf pa fath ydoedd gweinidogaeth Rowlands. Nid oes un enghraifft arall o'i chyffelyb yn un wlad, nac mewn unrhyw oes. Fel yr oedd cyrchfa blynyddol Israel i Jerusalem, "dinas eu cyfarfod," yn brawf o osodiad dwyfol ar eu gwyliau, felly yr oedd y cynulliad misol i Langeitho yn brawf o ogoniant dwyfol wedi ei osod ar y weinidogaeth yno. "Pregethau Daniel Rowlands, a chaniadau William Williams," meddai Mr. Charles o'r Bala, a wnaethant yr oes yr oeddynt yn byw ynddi yn fwy nodedig na nemawr o oesoedd a fu erioed ar Gymru." Yr oedd hwn, yn ddiau, yn gyfnod newydd ar y genedl, effeithiau yr hwn a brofir yn awr, ac a brofir eto ar ol hyn, ie, hyd byth bythoedd.

Cyrchent i Langeitho ar y sabbothau yn gyffredin o'r holl ardaloedd cylchynol am 10 neu 15 milldir o gwmpas; ac ar Sul pen mis, pryd y gweinyddid swper yr Arglwydd, yr oedd y gynulleidfa yn lluosocach fyth, ac yn ymgasglu o barthau pellach. Deuai llawer yno ar yr achlysur hwn, o 40 i 50 milldir o ffordd; ac nid anfynych y gwelid minteioedd yn cyniwair tuag yno o'r Gogledd, ie, o'r rhanau pellaf o Wynedd. Yr oedd Rowlands, fel y dywedwyd, yn fwy sefydlog a chartrefol o ran ei weinidogaeth nag eraill o'i gydlafurwyr. Gallesid dysgwyl hyn tra y parhaodd i wasanaethu yr eglwysi plwyfol; ond yr oedd y wedd sefydlog hon ar ei weinidogaeth ef, yn anad neb arall, ar ol ei droad allan o'r llan, a phan ydoedd weithian at ei ryddid i fyned o amgylch y wlad fel y mynai. Diau y teimlai ei fod ef yn gwasanaethu i'r amcan mawr, trwy ei arosiad yn Llangeitho, mor effeithiol ag y gwnai ei frodyr trwy eu cylchdeithiau ar hyd y wlad. Mewn gwirionedd, yr oedd Rowlands yn pregethu i holl Gymru bob mis, er bod yn sefydlog yn yr un man. Yn lle ei fod ef yn myned atynt hwy, deuai y bobl ato ef. Aethai y son am dano i bob rhan o'r wlad, ac aeth yn arferiad i bob un a allai, fyned i Langeitho yn y fan y byddai ganddo flas ar wrando neb. Yr oedd gweinidogaeth deithiol y pregethwyr eraill yn y modd yma yn foddion i chwyddo cynulleidfa Rowlands, a gweinidogaeth sefydlog Rowlands yn foddion i gadarnhau ac i sefydlu y dysgyblion ieuainc. Darllenwn y byddai Mr. Charles, pan yn yr athrofa yn Nghaerfyrddin, yn arfer cyrchu yno yn y gŵyliau; a thystiai y byddai yn derbyn mwy o les yn Llangeitho, yn yr adegau hyny, sef dwywaith yn y flwyddyn, nag a dderbyniai dros yr holl amser o fewn y cyfwng. Cofiai am ei ymweliadau i Langeitho gyda hyfrydwch mawr, yn mhen blynyddoedd lawer; a thystiai y byddai cofio y pregethau a glywsai