Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno yn fwy bendithiol iddo, na dim a wrandewid ganddo ar ol hyny. Deallwn o gwr arall fod gweinidogaeth Rowlands yn rhagori yn hyn yn fawr ar yr eiddo Whitfield. Tra yr oedd yr olaf mor effeithiol ar y pryd, a mwy fe allai, yn neillduol mewn ffordd o ddeffro pechaduriaid, nag oedd y cyntaf; ond yr oedd yr effeithiau yn diflanu yn llawer cynt. Ond parhâai effeithiau gweinidogaeth Rowlands yn hir, a chofid ei athrawiaeth dros amser maith.

Y mae yn beth hynod, gan faint y son a fyddai am y pregethwr hwn, a chan faint y dysgwyliad a gynyrchid yn meddyliau dynion na chlywsent ef eisoes, nad oedd neb, wedi ei glywed, yn dychwelyd adref yn siomedig. Yn hytrach, dywedent, "Ni fynegwyd i ni yr hanner." Yr oedd y profiad a gawsent yn peri mwy o awydd bellach, na'r son am dano gynt. Ac nid rhyw ysfa anesmwyth, yn codi oddiar ryw gywreinrwydd rhodresgar, oedd yn swyno y gynulleidfa fawr i'r lle hwnw. Nid y werinos ddiwybod ac ofergoelus, chwaith, a gymerent eu harwain gan esiamplau rhai eraill, heb un rheswm ganddynt i'w roddi dros eu hymddygiad, yn benaf, oeddynt yn cyrchu yno. Ond dynion wedi deall gradd am werth yr efengyl; a llawer o honynt. yn medru gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, y gwenith a'r us, a gyrchent yno. HUFEN Cymru a geid yno, ac nid ei sorod. Ymgadwai pregethwyr y wlad hòno heb addaw Sabboth pen mis i neb, gan hòni hawl o hono fel braint na fynent ar un cyfrif ei cholli. Byddai yn bresenol yno yn fynych wyth neu ddeg o weinidogion yr eglwys sefydledig, a 30 neu 40 o gynghorwyr o bob parth o Gymru, ar y Sabboth hwnw. Dysgwylid fod Mr. Rowlands yno bob amser, a chynorthwyid ef gan nifer digonol o'i frodyr.

"Llangeitho," meddai Mr. John Evans yn yr hen Drysorfa, "yn y dyddiau hyny, oedd cyrchfan yr holl grefyddwyr; yr oedd y rhan fwyaf o'r pregethwyr yn cydgyfarfod yno bob Sul pen mis; yr oedd hyny, yn nghyda gweinidogaeth odidog Mr. Rowlands, yn peri i grefyddwyr heidio yno o bob parth o'r wlad. Oddiyno yr oedd y ffrydiau ffrwythlawn yn dylifo, yr amseroedd hyny, dros yr holl wlad. Byddai ail-adrodd y pregethau a glywent gan y teithwyr ar eu dychweliad, yn eu taenu trwy y gwledydd, ac yn cynhyrfu eraill i fyned i wrando y weinidogaeth oedd yn cael ei thraddodi yno. Yr oedd doniau ac arddeliad Mr. Rowlands y fath nas dichon gwrandawyr yr oes bresenol gynwys dim amgyffred addas am danynt. Nid oes neb nas gwrandawodd ef a ddichon ddychymygu dim yn addas am danynt. Cyffelybais ef yn aml yn fy meddwl i'r Tachmoniad hwnw yn mhlith cedyrn Dafydd; efe oedd y penaf o'r tri cyntaf; ac er godidoced oedd y lleill, eto ni chyrhaeddasant at y tri cyntaf. O! rhyfedd y fath awdurdod a dysgleirdeb oedd gyda'i weinidogaeth, a'r modd rhyfedd yr effeithiai ar y gwrandawyr! Gwedi gwrando pregeth neu ddwy ganddo, âi y werin i'w hamrywiol deithiau meithion, yn llon eu meddwl, ac yn ddiolchgar i'r Arglwydd am ei ddawn annhraethol."

Fe fu gweinidogaeth Rowlands, gan faint yr attyniad oedd yn perthyn iddi, yn foddion i gynyrchu sugn arall i Langeitho; sef y mwynhad hyfryd a