Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fuan fod rhyw argoel gwawr yn tori: dysgleiriai pelydrau nerthol gyda'i weddi, ac ymddangosai fod ganddo y fath afael yn Nuw, na allai lai na llwyddo. Torodd y bobl allan i wylo, ac i foliannu Duw. Y gŵr ieuanc hwn oedd yr hynod John Pierce, yr hwn a droes allan yn un o bregethwyr hynotaf ei oes.

Am ryw ysbaid yn nechread y diwygiad, arferai y rhan fwyaf o'r pregethwyr neu gynghorwyr gyrchu i Langeitho ar Sul pen mis. Yr oedd Llangeitho iddynt hwy fel athrofa; yn foddion arbenig i eangu eu gwybodaeth yn athrawiaeth yr efengyl, i loywi eu doniau gweinidogaethol, ac i ddwysâu eu profiadau mewn crefydd ysbrydol. A chyda bod y moddion misol yn Llangeitho yn effeithio yn fuddiol ar y pregethwyr yn bersonol, er eu cymhwyso i ymosod yn adnewyddol at eu gwaith ar eu dychweliad, yr oedd cynulliad o'r fath nifer o honynt yno yn fisol, yn fantais anghyffredin i'r rhai a gyrchent yno, o wahanol ranau De a Gogledd, i ymofyn a gyhoeddiadau ganddynt, ac i'w trefnu. Daeth yr angenrheidrwydd i gyrchu yno yn llai, bob yn ychydig, fel yr oedd cyfarfodydd misol rheolaidd yn cael eu sefydlu yn y siroedd; ond ar y dechread, nid oedd un man i gyrchu iddo, gyda chymaint o sicrwydd o lwyddo i gyrhaedd yr amcan hwn, ag oedd Llangeitho ar Sul pen mis. Yn mhen amser lled hir ar ol y cychwyniad dechreuol, daeth y Bala i fod yn y Gogledd yr hyn oedd Llangeitho yn y Deheubarth. Yr oedd hyn, pa fodd bynag, wedi treigliad cryn amser; a rhaid oedd, wedi i'r Bala ddod i radd o enwogrwydd, fyned i Langeitho yn fynych, i'r dyben o gael pregethwyr o'r Deheudir i ymweled â'r Gogledd. Yn y Deheudir, am amser maith, yr oedd pregethwyr luosocaf o ran rhifedi, ac enwocaf o ran doniau. Yn y Deheudir hefyd, yr oedd ymron yr holl weinidogion urddedig i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd. Am hanner can mlynedd, ar ol yr ysgogiad cyntaf, nid oedd un o'r gwŷr urddasol hyn yn y Gogledd; pryd y dywedir fod cynifer a deg o honynt, a hyny mor fore a'r fl. 1742, yn ngwahanol barthau y Deheudir.

Yr oedd rhyw nifer o wŷr a gwragedd, mewn gwahanol ardaloedd yn sir Fflint, yn arfer ymgynull at eu gilydd i'r Berthen Gron, ar ddechreuad yr achos Methodistaidd yn y wlad hòno. Gan wir awydd cael mwynhau doniau y brodyr ag oeddynt yn pregethu yn y Deheudir, ymgynghorent â'u gilydd pa foddion a allent ddefnyddio i'r dyben. Llawer gwaith y disgynodd y coelbren ar wraig grefyddol yn eu plith. Casglent yn mhlith eu gilydd ugain swllt tuag at y draul. Hithau a anturiai daith o 200 o filldiroedd, a mwy, rhwng myned a dychwelyd, ar ferlen o'i heiddo, i ymofyn am addewidion gwŷr o'r Deheudir, i ddyfod i bregethu trwy ranau tywyll y Gogledd. Y ferch hon oedd gwraig John Owens o'r Berthen, am yr hwn y cawn eto grybwyll yn hanes sir Fflint. Bu y wraig hon saith o weithiau yn Llangeitho ar y neges yma; lletyai yn nhŷ Mr. Rowlands, a dychwelai weithiau wedi llwyddo i gael addewidion gan bymtheg o bregethwyr i ddyfod, bob un yn ei bryd, i ymweled â'i gwlad.

Yn hanes bywyd Mr. Charles, ni a gawn fod minteioedd o ugain neu