Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeg-ar-hugain yn myned yn fynych o'r Bala i Langeitho, triugain neu fwy o filldiroedd o ffordd fynyddig ac anhygyrch, rhai ar draed, a rhai ar geffylau. Cychwynai y gwŷr traed yn fore ddydd Sadwrn, a chyfeirient eu ffordd dros y mynyddau; ymborthent ar y tamaid a ddygasent gyda hwy, a thorent eu syched o ddwfr y ffynnon. Yr oedd ganddynt eisteddfâau adnabyddus iddynt ar y mynyddoedd, lle y byddent arferol o orphwys, a chymeryd lluniaeth. Wedi clywed pregeth neu ddwy gan Mr. Rowlands, troent eu hwynebau drachefn tua chartref, nid yn unig yn ddiddig am gymeryd arnynt y fath lafur, ond wedi eu llwyr foddloni. Yr oedd eu mwynhad gymaint o weinidogaeth Mr. Rowlands, ac o'r ymddyddanion a fyddent rhyngddynt ar hyd y ffordd am y pregethau a glywsent, yn fwy na digon o daledigaeth iddynt, ac i fesur mawr, yn gyfnerthiad iddynt rhag eu gorchfygu gan ludded corfforol.

Ar ryw adeg, ni a gawn fod cryn nifer—nid llai na phump-a-deugain-o bobl wedi myned yno mewn llong o sir Gaernarfon. Cyn iddynt ddyfod yn ol, trôdd y gwynt, fel y gorfu iddynt ddyfod adref ar hyd y tir. Anmhosibl oedd i'r fath nifer allu myned rhagddynt, heb dynu sylw yr ardaloedd yr aent trwyddynt. "Wrth weled y fath rifedi o honom," medd Mr. Robert Jones, yr hwn, tybygid, ydoedd un o honynt, "cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi, ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref Towyn, heb ein herlid yn dra llidus. Erbyn ein dyfod i Abermaw, yr oedd hi yn dechreu nosi, ac yn dymhestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai yn mlaen i ymofyn am letyau yn y wlad. Felly, cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noswaith hòno. Yr oedd yno un wraig, yr hon, pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug, 'Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn amheu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y bore, pe gollyngwn chwi i mewn.' Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb; canys cyn y bore, yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ y pen nesaf i'r afon i res o dai ag oeddynt i gyd yn gydiol â'u gilydd. Troes y gwynt yn y cyfamser i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion oddiwrth y tai eraill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y bore i'r lle y buasai lawer o ddyddiau cyn hyny, a lle yr arosodd lawer o ddyddiau wedi hyny. Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau, nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd ar ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau.'[1]

Yr ydym ni yn yr oes hon yn barod i synu pa beth hynod a allai fod yn Llangeitho, i dynu cynifer o ddynion yno. Y mae y ffaith fod y fath luaws

  1. "Drych yr Amseroedd," tudal. 117.