Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn arfer ymgynull yno; dynion o bob math, dysgedig ac annysgedig, gwŷr llên a gwŷr lleŷg, o bell ac agos, am ugeiniau o flynyddoedd, yn peri i ni synu yn wir. Nid oedd dim yn yr ardal fechan fynyddig i dynu ati; yr oedd rhagfarn cryf iawn yn y wlad ar y pryd yn erbyn yr athrawiaeth a bregethid yno; eto, er hyn oll, yno y gogwyddai minteioedd lawer fel cenllif cryf. Nid oedd yma ddim isel i gyfarfod â chwaeth orwael y werin bobl; nid oedd un arddangosiad o rwysg a rhodres, y fath a allai ogleisio teimladau dysgedigion. Pa beth, ynte, a ddenai y bobl yno? Nid "corsen yn ysgwyd gan wynt" a fuasai yn tynu'r miloedd pobl yno; ac nid oedd yno, yn y mynyddoedd, ŵr wedi ei ddilladu â dillad esmwyth: pa beth, ynte, oedd yr attyniad dirgelaidd a barai y fath grynoad? Gallesid dychymygu am amgylchiad i enyn y fath gywreinrwydd yn meddyliau lluaws o bobl i ddyfod yn nghyd am dro neu ddau, heb fod un gwir deilyngdod ynddo i beri sylw; ond nid amgylchiad felly oedd hwn. Parhaodd hwn dros amser maith iawn, nid llai na hanner can mlynedd. Effeithiodd y weinidogaeth yn Llangeitho yn y modd yma ar holl Gymru. Sychedai dynion a fuont yno unwaith am yr un mwynhad drachefn, fel y gwnai yr Aifftiaid pan oddicartref "am ddwfr yr afon." Rhodded y philosophydd a'r amheuwr eu meddyliau ar waith, a rhoddant gyfrif, oddiar ddeddfau naturiaeth, paham y bu y fath beth a hyn? Anmhosibl, tybygaf, a fydd i neb, ar dir teg, roddi cyfrif am y cyrchu a fu i Langeitho, ond mai "bys Duw ydoedd." Duw a roddasai y fath sugn yn y weinidogaeth, ac yn neillduol yn ngweinidogaeth Rowlands, ag i dynu dynion yn finteioedd yno. Ni fyddai yn deg dweyd mai hyawdledd y pregethwr a barai hyn. Nid godidogrwydd ymadrodd, neu ddoethineb, a gynyrchai y fath effeithiau. Na; pa faint bynag oedd medrusrwydd y pregethwr, nid hwnw a allasai sugno'r torfeydd o bellafion y dywysogaeth, trwy lafur a blinder, a gwarth a cholled, i fynychu y lle am gynifer o flynyddoedd; rhaid fod yr hyawdledd naturiol wedi ei goroni ag ardderchogrwydd dwyfol; rhaid fod dawn y pregethwr wedi ei eneinio gan Ysbryd Duw. Fe roddid ynddi y fath rym a dylanwad ag i ymaflyd yn nghydwybodau dynion, ac i ymblethu o amgylch eu serchiadau. Ymaflai yn y galon; llanwai y meddwl â syndod aruthrol; teimlid sugn cryf, fel pe buasai y meddwl dan gadwynau swyn; hoeliai y gwrandawyr eu clustiau megys wrth enau y pregethwr, ac ymollyngent dan rym ei eiriau, fel y gwna y metel toddedig i ffurf y tawdd-lestr.

Hawdd genym gredu fod doniau Rowlands yn ehelaeth iawn; y cyfarfyddai ynddo luaws o gyneddfau a dueddent i'w wneuthur yn bregethwr poblogaidd. Cawn dystiolaethau lawer, o eiddo gwŷr tra chymhwys i roddi barn, yn sicrhau hyn. Yr oedd mater ei weinidogaeth yn ardderchog; yr oedd dullwedd ei ddawn yn ennillgar; yr oedd ei lais yn beraidd, treiddgar, a soniarus; yr oedd dysgleirdeb ei lygad, difrifwch ei wedd, prydferthwch ei ystum, a thanbeidrwydd ei ysbryd, yn naturiol yn rhoddi iddo feddiant anarferol ar deimladau ei wrandawyr. Ond er caniatâu hyn oll, nid yw yn ddigon i gynyrchu yr effeithiau a welwyd. Y gwir ydyw, fod Rowlands wedi ei godi yn mhell uwchlaw iddo ei hun. Gwneid hyn yn achlysurol i