Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eidfa chwaith, mo'u siomi. Pan ddechreuodd ei bregeth, yr oedd yn ymddangos yn egwan iawn, y llais yn isel, yr aelodau megys yn ymollwng, a'r holl gorff yn grynedig. Ond bob yn ronyn, adfywiodd ac ymgryfhaodd, a llefarai gyda rhyw nerth anarferol, a mawreddusrwydd digyffelyb. Ei eiriau oeddynt megys lluchedenau yn ymdaenu dros yr holl le, oddifewn ac oddiallan, canys ni chynwysai y capel nemawr fwy na hanner y llu mawr ag oedd wedi ymgynull. Yr oedd yr effaith ar y gynulleidfa yn fwy hynod na chyffredin. Torodd cannoedd o honynt allan mewn gorfoledd, cyn iddo hanner ddybenu ei bregeth, a pharhausant yn y lle dros oriau, yn canu, moliannu, a gorfoleddu. Ni pharhaodd efe i bregethu tawy nag o bymtheg i ugain mynyd."

Arferai ymneillduwyr yr oes hòno ddyweyd am dano, "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn eglwys Loegr, ond Griffith Jones." Dywedid fel hyn am dano ar ei gychwyniad, pryd nad oedd ei farn yn glir, ei ddawn yn addfed, na'i ysbryd mor efengylaidd ag y daeth i fod ar ol hyny. Tystiai gŵr cyfrifol, yr hwn a'i clywsai yn fynych, ac a'i hadwaenai yn dda, "Na chlywodd efe ond un Rowlands erioed." Arwyddai hyn na chlywodd ef erioed ei gyffelyb. Yr oedd y gŵr hwn[1] wedi clywed llawer, yn mysg Saeson a Chymry; ac yr oedd tua 90 oed pan y dywedai hyn am Rowlands. Yn ol tystiolaeth y gŵr hwn wrth y Parch. J. Owen, depth and fervour oeddynt ragoriaethau arbennig Rowlands, sef dyfnder a gwresogrwydd. Darluniad cynwysfawr mewn byr eiriau. Perthynai iddo, yn anad neb, ddyfnder mater, a gwresogrwydd ysbryd:—sylwedd yr efengyl yn ei blas ei hun: —y gwirionedd yn y cariad o hono. Fe ddylai fod gradd o hyn gan bob gweinidog i Grist, ac y mae gradd o hono gan bob gwir weinidog yr efengyl, ond ymddengys eu bod i raddau ehelaeth iawn gan Rowlands. Y mae yn bosibl traethu pethau gau gyda'r fath wres a phe baent wir; ac y mae modd traethu y gwir mor oeraidd a phe byddai yn gau. Traethai Rowlands y gwirionedd fel gwirionedd. Dywedir yn Act. xiv, 1, i Paul a Barnabas yn Iconium, "fyned i synagog yr Iuddewon, a llefaru felly, fel y credodd lluaws mawr." Fel hyn hefyd y llefarai Rowlands; llefarai felly, fel y credai lluaws mawr. Cof genyf glywed mai yn debyg i hyn y darluniai Mr. Charles weinidogaeth Rowlands, wrth ryw un o'r Saeson a ymofynai ag ef am dano, "Pregethai Rowlands edifeirwch, nes y byddai dynion yn edifarhau; pregethai ffydd, nes byddai dynion yn credu. Darluniai bechod mor wrthun, nes peri casineb ato, a Christ mor ogoneddus, nes peri dewisiad o hono."

Adroddasom o'r blaen pa fath ydoedd syniadau Mr. Charles am dano, ond y mae yn anhawdd peidio chwanegu. Yn ei ddyddlyfr, fe ddywed, "Ar Ionawr 20, 1773, aethum i wrando Mr. Rowlands yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destyn oedd Heb. iv, 15.[2] Diwrnod oedd i'w fawr gofio

  1. Parch. T. Jones, Creaton.
  2. "Canys nid oes i ni archoffeiriad heb fedru cyd-ddyoddef gyda'n gwendid ni, ond wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninau, eto heb bechod."