Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genyf fi tra fyddwyf byw. Er y dydd dedwydd hwnw, mi a fum byw mewn nefoedd newydd, a daear newydd. Yr oedd genyf o'r blaen ryw dyb am wirioneddau'r efengyl yn nofio yn fy mhen; ond ni threiddient gyda nerth a grym dwyfol i'm calon hyd y pryd hwn." Drachefn, wrth ysgrifenu at yr un a ddaeth ar ol hyny yn wraig iddo, dywedai, "Yr wyf yn cydfeddwl â chwi, mai nid Bala yn unig, ond Cymru hefyd, sydd wlad wedi ei breintio yn fawr iawn. Y cyhoeddydd oedranus hwnw, o eiddo Brenin y gogoniant, sef D. Rowlands, sydd, ac a fydd, yn anrhydedd tragwyddol iddi." Drachefn, meddai yr un gŵr wedi blynyddoedd lawer, "Yr oedd ucheledd, a phob rhagoriaethau, yn noniau Mr. D. Rowlands,—dyfnder defnyddiau, ac eglurder a bywiogrwydd yn traddodi dyfhion bethau Duw, er syndod, a'r effeithioldeb mwyaf ar ei wrandawyr."

Yr oedd yn ŵr o deimladau cryfion, ac o fywiogrwydd anarferol. Yr oedd y rhai hyn, wedi eu heueinio gan Ysbryd Duw, fel adenydd cryfion, yn ei alluogi i ymgodi yn uchel, ac i ysgogi yn gyflym. Ceid profion mynych o'i deimladau yn ei ddagrau, y rhai a redent yn Ili, pan yr ymbiliai â Duw dros y bobl, neu â'r bobl dros Dduw. Wrth ymddyddan â Mr. Gray, gweinidog a chydlafurwr, er nad oedd yn nghymundeb eglwys Loegr, am gyflwr truenus y bobl, a'i lygaid ar yr un pryd, oddiar dir uchel, yn edrych ar ddyffryn Aeron, torai allan i wylo yn hidl, a'i ddagrau a ffrydient yn genllif dros ei ruddiau. Gyda phob cymhwysder anianyddol, mewn deall, llais, a nerth; gyda phob cymhwysder cyrhaeddiadol, mewn gwybodaeth, dysg, a dull, dibynai lawer iawn am gynorthwyon neillduol Ysbryd y gwirionedd. Ar ei ffordd unwaith o'i dy i'r eglwys, trodd i goedwig, a chafwyd ef yno mewn ymdrech hyfryd gyda Duw; ond gan fod amser yr oedfa wedi pasio, tybiodd y gŵr a'i cafodd felly fod yn rhaid aflonyddu arno. Yr oedd yntau yn fwy cymhwys weithian i sefyll dros Dduw o flaen y gynulleidfa. Gorlenwid ef ambell dro, nes syrthio mewn llewyg yn y pulpud. Wrth weddio o flaen pregeth un tro, arweiniwyd ei feddwl at ddyoddefiadau Crist, a gwaeddodd allan, "O wythienau gweigion! O wyneb glaswyn!" Yna syrthiodd mewn llewyg. Gwedi dadebru, pregethodd mewn modd anghyffredin.

Parodd gweinidogaeth y dyn hynod hwn effaith anghyffredin ar Gymru. Anmhosibl ydyw ffurfio dychymyg teg am faint ei lwyddiant gweinidogaethol. Dywedir fod tua chant o ddynion wedi eu deffro trwyddo, cyn iddo ef ei hun adnabod yr efengyl. Sicrheir i ni fod dim llai na chant o bregethwyr yr efengyl yn ei ystyried ef yn dad ysbrydoi iddynt. Pa effeithiau eu maint ni chynyrchid trwy y fath weinidogaeth,—a wrandewid gan gynifer o filoedd a miloedd,—a barhaodd dros hanner cant o flynyddoedd,—ac a arddelid i'r fath raddau gan nerth Ysbryd Duw? Rhoddai dro drwy Gymru unwaith yn y flwyddyn am ysbaid helaeth o'i oes, a rhoddai ei ddyfodiad ysgogiad adnewyddol i'r achos crefyddol y ffordd yr elai. Ond yr oedd ei weinidogaeth sefydlog ef yn effeithio yn rhyfeddol ar y gwledydd oll, gan y cyrchu mawr a fyddai o bob cyfeiriad i Langeitho i wrando arno. Efe hefyd, fel y soniwyd, ydoedd dad ysbrydol yr anfarwol Charles o'r Bala. A phe na wnaethai ei