Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Cristionogion, a duwioldeb y ddau esgob, y mae anhygoeledd yr amgylchiad i raddau mawr yn diflanu.

Dywedir i Garmon a Lupus neu Bleiddian, ar ol cwblhau eu cenadaeth, ddychwelyd yn ol i Ffrainc; ond buan yr anfonwyd am Garmon yn ol. Cydsyniodd yntau â'r cais hwn, a dygodd gydag ef Severus esgob Triers. Bu eilwaith yn llwyddiannus i ddarostwng Morganiaeth, a chafodd alltudio blaenoriaid yr heresi hon o'r wlad, fel na fu blinder o achos hyn am dymhor maith. Arosodd Garmon yn y wlad hon am dymhor hir, hyd nes oedd yr anwariaid, y Brithwyr, a'r Gwyddelod, yn heidio ar hyd y wlad. Daeth i'r wlad o Lydaw yn amser Cwstenyn, ac arosodd yma hyd ddyddiau Gwrtheyrn; yna dychwelodd i Ffrainc, a bu farw.

Yn amser Garmon, gan faint y terfysgoedd gwladol ag oedd yn ffynu ar bob llaw, y dechreuodd y mynachlogydd ddyfod i fri; ac i'r rhai hyn y ciliai lliaws mawr o'r bobl ag oeddynt yn flin arnynt oblegid yr helyntion gwladol, neu yn ymofyn yn aiddgar am ddysgeidiaeth. Ar y cyntaf, mi debygwn mai math o athrofeydd oedd y sefydliadau hyn; ac iddynt yr heidiai lliaws mawr o bobl, mewn ymofyniad am ddysgeidiaeth yn benaf, ac hefyd i fwynhau llonyddwch oddiwrth ferw cyffrous y byd. Tybid y pryd hyny yn ormodol, fod crefydd, i raddau mawr, yn gynwysedig mewn myfyrdod a gweddi ddirgel, ac nid mewn llafur a defnyddioldeb cyhoeddus. Yn lle arfer y naill er mwyn y llall, arferent y naill yn lle y llall. Yn lle ymofyn am ymgeledd bersonol, mewn myfyrdod a gweddi, i'w cymhwyso a'u parotoi i fod yn ddefnyddiol, ac i wasanaethu eu cenedlaeth trwy ewyllys Duw, annghofient eu dyledswydd tuag at eraill, dan rith chwanegu eu hysbrydolrwydd a'u tangnefedd eu hunain. Felly dirywiai crefydd i ofergoeledd. Ciliai crefyddwyr i'r mynachlogydd; ymddidolent oddiwrth y byd, nid yn ei arferion llygredig yn unig, ond hefyd yn ei drafferthion, ei orchwylion, a'i fwyniant. Yn lle ymofyn am gyfleusderau i wneuthur daioni, ymofynent am lochesau i ymguddio. Yn lle myned at y cleifion i geisio eu gwellhau, cilient oddiwrthynt, rhag eu dyhiro gan y pla, meddent, a gadawent i'r trueiniaid farw yn ddiymgeledd.

Ymddengys fod crefydd y pryd hwn yn isel yn y wlad; fod arferion y trigolion yn anfad a drygionus—cyffelyb bobl ac offeiriaid; ac nid rhyfedd, ynte, ar ddyfodiad y gelynion anwar i'w gwlad, y ceid hwy heb amddiffyniad rhagluniaeth drostynt, ac yn ddiymadferth a llwfr ynddynt eu hunain. Ymwelodd Duw y pryd hwn hefyd â hwynt â phla dinystriol; a thra yr oedd yr haint yn difa, daeth y newydd, fod eu hen elynion yn ymbarotoi i ruthro arnynt. Disgynodd y newydd hwn arnynt fel twrf taran, a llesghaodd eu calonau am enyd gan fraw. Galwasant gynghor, a phenderfynwyd dewis iddynt flaenor. Disgynodd y dewisiad ar un o'r enw Gwrtheyrn. Yr oedd y Cymry, er cymaint eu glewder cynhenid, yn anmharod iawn i ryfel y pryd hwn. Nid wedi ennill eu rhyddid yr oeddynt er gwaethaf y Rhufeiniaid, ond wedi ei gael yn ddiorchest, gan fod ymgyrchion y Gothiaid ar Itali yn galw y Rhufeiniaid adref, i amddiffyn eu gwlad eu hunain. Tra yr oedd