Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cael ei chasglu, a'r tŷ addoli yn cael ei godi, nag sydd yn mhen blynyddoedd wedi hyny, er y dichon fod cymaint o wir ddaioni yn cael ei wneyd, trwy amaethu meddyliau y plant bychain yn ngwirioneddau y Beibl yn yr ysgol sabbothol, ag sydd pan y dofir yr erlidiwr ffyrnicaf. Gwneir mwy o son am yr olaf, am ei fod yn amlycach, ac yn fwy disymwth; ond fe ddichon fod y daioni yn llawn cymaint yn y blaenaf.

Nid oedd, am yr hanner can mlynedd cyntaf, ddim moddion ymron i gyfarfod â dynion, ond y pregethu; na dim dynion i bregethu iddynt, ond rhai dyeithr i eiriau y bywyd tragwyddol, neu ddynion anhyblyg eu rhagfarn yn erbyn y gwirionedd. Dan amgylchiadau o'r fath, yr oedd y cwbl a wneid yn cael ei gynyrchu yn fwy cyhoeddus ac amlwg, a'r arfau y gweithid â hwy o fath priodol i'r defnyddiau y gweithredid arnynt. Yn awr, y mae y moddion yn lluosocach. Mae y wasg yn cydweithio gyda'r pulpud yn awr, i ddwyn gwirioneddau dwyfol i sylw y miloedd; mae yr ysgol sabbothol yn awr yn defnynu ei haddysgiadau dystaw i feddyliau myrddiynau; mae addysgiadau teuluaidd yn awr, trwy athrawiaeth ac esiampl, yn gwasanaethu yr un dyben. Mae dylanwad y moddion hyn yn fawr ei rym, er ei fod yn araf ei ysgogiad. Yr oedd y daioni a wneid trwy y weinidogaeth gyhoeddus o angenrheidrwydd yn fwy ei amlygrwydd a'i gyffro; a phryd nad oedd dim moddion eraill, nid rhyfedd os byddai yn fwy grymus a nerthol.

Os ydyw yn briodol i ni, greaduriaid cibddall, ymchwilio i'r achos paham. "yr oedd y dyddiau o'r blaen yn well na'r dyddiau hyn," yn nerth ac effeithioldeb y weinidogaeth, fe allai y dyry yr awgrymiadau uchod radd o foddlonrwydd i'r darllenydd ymofyngar. Rhoddir hwy gerbron, o leiaf, fel rhesymau sydd yn ymgynyg yn benaf i feddwl yr ysgrifenydd, fel y tecaf a mwyaf boddlonol. Amcan y sylwadau uchod ydyw gosod allan y priodoldeb o fod gweinidogaeth y tadau yn fwy ei hawch a'i heffaith, nag yr ymddengys fod gweinidogaeth eu holynwyr. O herwydd, 1. Yr oedd awyddfryd eu meddyliau am ennill eneidiau at Grist yn fwy angherddol; a phriodol ydyw fod llwyddiant y weinidogaeth yn cyfateb i'w hysbryd. 2. Am fod yr amgylchiadau yr oedd y tadau ynddynt yn galw ar fod helaethrwydd eu gwobr yn cyfateb i galedi eu gwasanaeth. Fel yr oedd eu hadfyd a'u dyoddefiadau yn amlhau, felly yr oedd eu llwyddiant. 3. Am mai gwaith y tymhor oedd arloesi dyrysni, yn fwy nag amaethu y tir; goresgyn gwlad, a'i chymeryd o feddiant y gelyn, yn fwy na'i llywodraethu a'i threfnu. Ac nid oedd dim moddion cymhwysach i'r gwaith, nag oedd gweinidogaeth rymus a thanllyd. Ar yr un pryd, angenrheidiol ydyw cofio, y gall fod cymaint o ddaioni yn cael ei wneuthur eto, mewn gwirionedd, trwy foddion eraill, yn nghyda'r weinidogaeth, llai amlwg mae'n wir, ac ar wrthddrychau llai anwaraidd, ond nid llai dwyfol ac angenrheidiol.

Pa fodd bynag, y mae yn ffaith rhy amlwg i'w gwadu, fod y nerth a'r tân a berthynent yn neillduol i weinidogaeth yr hen bregethwyr, yn foddion arbenig i gynydd Methodistiaeth. Chwanegid cannoedd yn fynych at nifer y dysgyblion yn ystod taith gŵr dyeithr trwy y wlad. Yr oedd gweinidog-