Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

narfon, i fyned i Ddolgellau i bregethu. Clybu yr erlidwyr fod oedfa i'w dysgwyl. Yr oedd gwraig foneddig yno wedi cyflogi chwech o ddynion o'r iawn ryw i luchio a baeddu y pregethwr, a dyrysu yr oedfa. Y pryd hyny, mynych y deuai rhyw un, neu amryw, o gyfeillion gyda'r pregethwr i le o'r fath, lle y dysgwylid dim amgen na gwrthwynebiad ac aflonyddwch; a hyn fyddai y nôd gan yr erlidwyr i adnabod y pregethwr, sef y byddai cyfaill neu ddau gydag ef. Yr oedd Griffith Siôn, ar ei ffordd i Ddolgellau, yn dyfod heibio Trawsfynydd, lle yr oedd un Richard Jarrett yn byw. Yr oedd Jarrett wedi ymuno â'r Methodistiaid, ac yn barod i fyned gyda'r pregethwr. Felly cychwynasant; a phan oeddynt yn agos i'r dref, a chyn cyrhaedd y tollborth, deallodd Jarrett ei fod yn ei ffwdan wedi anghofio cymeryd arian gydag ef, gymaint ag a wasanaethai i dalu y doll. Heb ewyllysio gosod hyny o faich ar y pregethwr, troes Jarrett i dŷ gŵr cydnabyddus iddo, ychydig o'r ffordd, i ymofyn benthyg ychydig arian. Yr oedd Jarrett yn ddigon adnabyddus, gan mai porthmon[1] ydoedd; a dysgwyliai y gallai, wedi cael ei neges, oddiweddyd Griffith cyn cyrhaedd y dref. Amgylchiad bychan iawn oedd hwn ynddo ei hun, ond nid mor fychan a fu yn y caulyniad. Gan i'r pregethwr ddyfod i gŵr y dref ei hunan, ac heb gyfaill gydag ef, collodd yr erlidwyr eu nôd, a chaniatawyd iddo fyned rhagddo yn ddiwarafun. Ar ei ol daeth Jarrett; ond nid cyn fod Griffith Siôn wedi cyrhaedd pen ei daith. Tra yr oedd yr erlidwyr eto yn aros, gan ddysgwyl y cynghorwr, daeth un o grefyddwyr y fro heibio, yr hwn a adwaenent, yn cyfeirio ei ffordd tua'r oedfa, a disgynodd ar hwn, druan, eu hergydion creulon, fel y baeddwyd ef yn ddidrugaredd; ac yn ei archollion y cyrhaeddodd ef y lle pregethu. Dechreuodd yr oedfa cyn i'r erlidwyr gyrhaedd y lle, a'r nefoedd a roes ei sel wrthi. Erbyn i'r chwe dyhiryn gyrhaedd, yr oedd gwedd anarferol ar y cynulliad; y bobl oll mewn dagrau, a lluaws o honynt yn gwaeddi am eu bywyd. Yr erlidwyr hwythau, fel y deuent i swn y weinidogaeth, a ddelid yn y fan megys â gwŷs. Yr oedd nerth y weinidogaeth fel llewyrchiadau mellt yn dofi pawb; ni allai caledwch a rhagfarn sefyll o'i blaen; ond yr oedd pob calon yn delwi, a braw yn dal pob mynwes, fel pe buasai dydd Crist gerllaw: yr erlidwyr hefyd yn lle gwawdio a safent yn syn, neu a dorent allan i lefaru yn chwerw; ac yn eu mysg, yr oedd y truan a erlidiasid ganddynt, yr hwn, gan ddangos ei gleisiau, a gorfoleddu, a waeddai, "Dyma nodau ein brenin ni." Wrth olrhain hanesiaeth y siroedd, ni a gawn, ond odid, lawer enghraifft gyffelyb i'r un uchod, yn arddangos y nerth anorchfygol a gydgerddai â'r weinidogaeth yn y blynyddoedd hyny, ie, gyda gweinidogaeth llawer un a gyfrifid gan ddynion ond cynghorwr bychan a difedr iawn.

  1. Gŵr yn arfer prynu a gwerthu anifeiliaid.