Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr effeithiau. Mae dylanwad Methodistiaeth Lloegr, yr hwn a gynyrchwyd gan mwyaf o lawer, trwy lafur y lleygion, yn cyrhaedd erbyn heddyw, mewn ysbaid can mlynedd, y rhan fwyaf o'r byd. Yn Scotland hefyd, gwnaed defnydd helaeth o'r cyffelyb offerynau gan y diwygwyr oddiwrth Babyddiaeth yn y wlad hono. Ni wnaed mwy o ddefnydd o honynt gan Wesley yn Lloegr, nag a wnaed gan Knox yn Scotland. Fe fu amser pan oedd Scotland yn rhyfeddod i Ewrop, ac yn ymffrost gan brotestaniaeth; ond pa beth bynag ydoedd, dyledus ydoedd am hyny i fesur mawr i offerynoldeb llafur lleygion. Am y genedl hon yn yr amser hyny, y dywedid yn gyffredinol, fod ei phlant oll mewn ysgolion, ei phobl oll yn addolwyr, a'i hanneddau oll yn dai gweddi; mai ei difyrwch oedd yr addoliad, fod ei duwiolion yn aml, a'i moesoldeb yn gyffredinol. Darparodd John Knox, yn y wlad hon, bum dosbarth o ddysgawdwyr i'r bobl; sef, darllenwyr, cynghorwyr, dysgawdwyr, gweinidogion, ac arolygwyr. Yr oedd y tri dosbarth cyntaf yn wŷr lleŷg, a'r ddau olaf yn wŷr llên.

Crybwyllasom o'r blaen am waith John Berridge, ficar Everton, yn gosod ar waith wŷr cyffredin o gymhwysderau priodol i gynghori a phregethu ar hyd y gwledydd yn Lloegr. A mawr iawn y daioni a wnaethant. Ni a welwn mai nid peth newydd yn y byd crefyddol, ydyw defnyddio lleygion i bregethu yr efengyl; ac nid peth priodol yn unig i Fethodistiaeth Cymru. Eto, nid wyf yn deall i Howel Harris anturio ar y gwaith hwn, oddiar wybod fod esiamplau eisoes ar gael o hyny; onide ni buasai mor derfysglyd ei feddwl, ar ryw achlysuron, yn nghylch ei ddyledswydd i fyned yn mlaen; a sicr yw, nad oedd neb yn Nghymru, ac fe allai y pryd hyny neb yn Lloegr, adnabyddus iddo ef, yn myned o amgylch i gynghori pechaduriaid, fel y gwnai efe, ac yntau heb urddau eglwysig o un math. Nid oedd, ar y dechre, yn gwybod dim am na Whitfield na Wesley; a mawr y calondid a gafodd, pan yr annogwyd ef i fyned yn mlaen gan y gwŷr parchedig hyny.

Dywedir i ni fod mintai fawr o bregethwyr diurddau wedi cyfodi ymron yn ddisymwth ar ddechread Methodistiaeth. Yn y fl. 1742, sef chwe blynedd ar ol i Harris ddechreu, yr oedd tua deugain o gynghorwyr wedi ymuno ag ef; neu yn hytrach, wedi cyfodi yn ngwahanol barthau y wlad, trwy ei lafur ef, a'i frodyr urddedig. Yr oedd y cynghorwyr hyn yn meddu ar wahanol gymhwysderau; rhai yn helaethach, ac eraill yn brinach, eu dawn a'u deall. Ni chyfrifai llawer o honynt eu hunain yn dal swydd gweinidog yr efengyl; yn unig teimlent rwymau i wneyd a allent, er hyfforddi pechaduriaid yn y ffordd i fywyd; a hyny heb roi heibio eu gorchwylion bydol. Aent i'r manau a alwent am eu gwasanaeth, o barodrwydd meddwl, gan belled ag y goddefai eu hamgylchiadau. Nid oeddynt yn golygu fod yr eglwysi a wasanaethent, dan ddim rhwymau iddynt hwy, na hwythau i'r eglwysi, ond rhwymau cariad. Cyfodai yr alwad am danynt yn ol y profid fod eu dawn a'u deall yn teilyngu. Canfyddid yn fuan fod yn eu mysg rai wedi derbyn cymhwysderau arbenig; gwŷr yr oedd eu gweinidogaeth yn dra effeithiol a grymus; llawn cymaint felly a'r rhai a gawsent urddau esgobawl.