Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Rhufeiniaid yn eu plith, nid oedd achos iddynt ofalu ac wedi iddynt ymadael, teimlent eu hamddifadrwydd. Yn yr amseroedd a ganlynodd ymadawiad y Rhufeiniaid, nid oedd ond rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, trwy yr holl wlad. Ystrywiau a dichellion, ymladdau a thywallt gwaed, a ffynai ar bob llaw; y naill dywysog yn erbyn tywysog arall; y tywysogion yn gorthrymu y bobl, a'r bobl hwythau yn bradychu y tywysogion; annhrefn, dyryswch, celanedd, a drygioni, a welid yn mhob man.

Ymddengys hefyd fod y rhai crefyddol yn mysg y bobl wedi dirywio i ofergoeledd; wedi llyncu syniadau mynachaidd; ac felly, wedi cilio i leoedd ar gîl i ymofyn llonyddwch a seibiant. Pan gofiom pa mor anaml oedd gweinidogion yr efengyl ar y pryd; pan yr ystyriom nad oedd y Beibl eto ddim wedi ei gyfieithu i iaith y Brythoniaid; nad oedd y Beibl Lladinaidd ar gael ond yn meddiant y dysgedigion, neu wŷr o gyfoeth ;—ni a welwn pa mor hawdd oedd iddynt ymlygru, ac mor ebrwydd y collent y tir a ennillasid ganddynt o'r blaen. Ar yr un pryd, nid ydwyf yn cael fod eglwysi Prydain wedi disgyn mor isel ag oedd Eglwys Rhufain ar y cyfandir; oblegid pan ddaeth Awstin Fynach drosodd, ac ennill ffafr y brenin Ethelbert, ac ymosod at gael eglwysi Prydain i gydymffurfio â syniadau ac arferion eglwys Rhufain, fe gafodd mai cryn orchest a fyddai iddo allu llwyddo.

Wedi i'r Brythoniaid ddewis Gwrtheyrn yn ben arnynt, cynygiwyd ar fod gwahoddiad yn cael ei anfon at y Saeson i ddyfod i'w cynorthwyo hwy, yn erbyn rhuthriadau y Brithwyr a'r Gwyddelod. Yn y cyfamser, pa un ai o flaen yr ymgynghoriad, ai ar ol, nid yw hysbys, tiriodd nifer o Saeson yn y wlad, dan arweinyddion o'r enw Hengist a Horsa. Gwnaed cynghrair â'r Saeson hyn; y canlyniad a fu, ddarfod i'r rhai y dysgwyliwyd wrthynt am ymwared rhag y Brithwyr, droi allan yn ffrewyll fwy arswydus na'r Brithwyr eu hunain; ond gan nad oes a wnelom ond ag amgylchiadau crefyddol y genedl, a hyny yn unig yn eu prif linellau, ni a ymattaliwn, ac a ddychwelwn at hanes Awstin Fynach a'r Prydeiniaid.

Ennillasai y Saeson, trwy ystryw, brad, a rhyfeloedd, le arosol yn y wlad; ac yn fuan sefydlwyd hwy ar ffurf teyrnas, dan Ethelbert eu brenin. Yr oedd y Saeson, ar eu dyfodiad, yn gwbl baganaidd; a buant yn foddion, trwy eu rhuthriadau gwaedlyd, a'u harferion llygredig, i ddinystrio hyny o Gristionogaeth, ag oedd yn y parthau hyny o Loegr a syrthiodd yn arbenig dan eu dylanwad; a sefydlwyd eilwaith ganddynt eu defodau ofergoelus yn eu lle; ond yn Nghornwall a Chymry, y manau na ddarostyngasid gan y Saeson, yr oedd Cristionogaeth eto yn aros, mewn enw o leiaf gan y rhan fwyaf, ac yn ddiau mewn gwirionedd gan rai. Ni wnaeth y Brythoniaid Cristionogol nemawr neu ddim cais tuag at ddychwelyd y Saeson eilunaddolgar; ac achwynir arnynt yn dost gan awdwyr pabaidd am eu hesgeulusdra; eto, pan yr ystyriom eu sefyllfa, yn dyoddef y creulonderau mwyaf oddiwrth eu gorthrymwyr, ac yn cael eu hymlid i'r mynyddoedd, ac ogofeydd y creigiau, fel defaid o flaen y bleiddiaid, ni ellid dysgwyl fod dim cyfleusdra o'r fath ganddynt, am amser maith o leiaf; a phe buasai cyfleusdra, nid oedd lle