Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/252

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fynych fwrw anfri ar dywysogion, a dwyn ei amcanion grasol a gogoneddus i ben trwy foddion gwael yn ol syniadau dynion. Mewn llestri pridd, ac nid llestri aur, y gosododd y trysor. Allan o Nazareth ddirmygedig y daeth daioni. Ni fynai y dysgyblion gynt i neb fwrw allan gythreuliaid, oni fyddai yn canlyn gyda hwy. Mae yr un ysbryd yn y byd eto. Dewisir yn hytrach adael i'r byd bydru mewn llygredigaeth pechod, nag y goddefir i derfynau gosodedig, a threfniadau sectaidd, gael eu troseddu. Ysbryd yw hwn, gan bwy bynag y'i coleddir, a fydd raid ei ddarostwng, ac ysbryd ydyw a ddileir pan y delo dysgleirdeb dyfodiad Crist i ddwyn i mewn y llwyddiant mawr.

Fe allai y gwrthddadleuir yn erbyn y syniadau uchod fel rhai yn milwrio yn erbyn pob trefn eglwysig, ac yn arwain i lacrwydd penrhydd o ran pob rheol. I hyn yr atebir, na ddylai un reol ddynol sefyll ar ffordd Ysbryd Duw i weithio. Nid mewn caethiwo dynion duwiol i wneuthur daioni y mae gwerth rheolau dynol, ond mewn attal dyhirwyr i ddyfod i mewn, a drygau gael eu cyflawni. Y mae yn beth enbyd os bydd gosodiadau dynol, dan rith trefn, yn cau allan y rhai da, ac yn goddef y rhai drwg i mewn. Felly fe fydd y drefn yn annhrefn, a'r goleuni yn dywyllwch!

Ond ai annhrefn ydyw fod lleŷgion yn pregethu yr efengyl, yn unig am mai dynion diurddau ydynt? Annhrefn, yn ddiau, a fyddai i neb anturio i'r weinidogaeth heb enw da, fel Cristion cywir; ac annhrefn hefyd fyddai i neb gymeryd arno ddysgu rhai eraill, heb ei fod yn meddu gradd o wybodaeth ei hun, yn enwedig yn y gangen hóno o wybodaeth y mae yn hòni bod yn ddysgawdwr o honi. Wrtho ef y dywedir, "Ti yr hwn a ddysgi arall, oni'th ddysgi di dy hun ?" Ond ai croes i reol a gwir drefn a fyddai i wr da ei air, cymhwys ei gyneddfau a'i gyrhaeddiadau, draethu gair y bywyd wrth ei gyd-ddynion, yn unig am ei fod wedi ei ddwyn i fyny i alwedigaeth fydol, ac yn para i weithio ei grefft â'i ddwylaw? Ai halogiad ar y pulpud a fuasai caniatâu iddo ei ddefnyddio? Hen ddull o watwar pregethwr da gynt oedd gofyn, "Onid hwn yw y saer?" Ond yn nghyfrif Duw yr oedd i'r Saer hwnw barch mawr. Fe "dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant." A pha offeryn a anrhydeddwyd yn fwy na'r "gwneuthurwr pebyll?" Pwy a gyhuddodd y gwŷr a wasgarasid o Jerusalem gynt, yn amser erlidigaeth, o annhrefn, am iddynt, o wir gariad at Fab Duw, ac awydd i lesâu dynion, bregethu yr Arglwydd Iesu yn Antiochia? A gyhuddwn ni Dduw fel yn euog o roddi ei sêl wrth annhrefn, pan y llwyddodd ef eu llafur mor helaeth? Act. xi, 19-21.

Bu yn syn genyf lawer gwaith, wrth graffu ar y rhagfarn a ymddangosai mewn dynion da yn erbyn pregethwyr enwog; pregethwyr a addefid yn rhai hynod am eu gras a'u defnyddioldeb, yn unig am fod a wnelent â galwedigaeth fydol. Yn y fan y clywent mai crefftwr neu fasnachwr oedd y pregethwr, syrthiai eu hwynebpryd, a deffroai eu rhagfarn. Ymofynais lawer â mi fy hun, o ba le yr oedd hyn yn cyfodi? Yn yr amgylchiad a dybir, nid oedd un gwrthwynebiad i gymeriad na dawn y pregethwr, ond yn unig fod ganddo grefft i ymgynal arni; nid oedd yn briodol mewn urddau; rhoddid