Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amnaid, am hyny, fod y swydd gysegredig yn cael ei halogi gan fasnach fydol. Mae y rhagfarn hwn yn aros eto yn y wlad. Y mae i'w gael yn mhlith eglwyswyr ac ymneillduwyr: fe'i ceir ef yn mhlith Saeson ac Ysgotiaid, ie, i raddau bach yn Nghymru. Mae y ffaith yn bod, ond y mae yn hynod; hynod wrth ystyried yr addefid llafur lleŷgaidd a theithiol yn nyddiau Harri VIII, i'r egwyddor gael gweithredu arni yn fwy yn nyddiau Edward VI. Collwyd hi drachefn yn nheyrnasiad Mari, ac mewn rhan fechan y cafodd adferiad dan Elizabeth. Gydag Elizabeth, yr oedd trefn yn bob peth, a chrefydd yn ddim. Cyhoeddodd orchymyn yn fuan, trwy Whitgift, "na oddefid i neb bregethu, ond y sawl a gawsent urddau rheolaidd." Dibwys ganddi hi oedd cymhwysder gwybodaeth, ac addasrwydd cymeriad, ond rhaid oedd fod yr urddiad yn rheolaidd! a boddlon fyddai, ond cael hyny, gan nad mor anghymhwys a fyddai y gwŷr, mewn gras a dawn. Addefa archesgob Parker, yn y fl. 1561, fod y rhan fwyaf o bersoniaid ei esgobaeth, naill ai yn grefftwyr diwybod, neu yn babyddion diegwyddor; fod llawer o eglwysi yn gauad; ac mewn llawer o siroedd, na phregethasid un bregeth, ac na ddarllenasid un homili, o fewn ugain milldir, dros fisoedd o amser. Yr oedd llawer o glerigwyr yr oes yn anabl i ysgrifenu eu henwau, pan y galwyd hwy i law-arwyddo eu cydsyniad â'r erthyglau. Yn Nghornwall ei hun, yr oedd 140 o wŷr eglwysig yn dal bywiolaethau, a phob un yn analluog i bregethu, a'u bucheddau yn wrthun a ffiaidd. Mewn deng mil o blwyfydd, nid oedd i'w cael ond dwy fil o bregethwyr, o'r fath ag oeddynt, i gyfranu gair y bywyd i'r miloedd oedd yn marw o eisieu gwybodaeth. Eto, er hyn i gyd, ni chaniateid i ddynion diurddau gyflawni y diffyg; a gwaeth na'r cwbl, bwrid allan yr holl wŷr enwog a duwiol, na chydymffurfient â gosodiadau y frenines a'r archesgob. Annhraethol lai y cyfrifid colledigaeth eneidiau dynion, nag a fuasai troseddu gosodiadau dynol, a rheolau eglwysig!

Ond er pob rhagfarn yn erbyn llafur y lleŷgion, ac er yr holl ymdrech a fu i'w lethu a'i waradwyddo, gan lysoedd gwladol ac eglwysig, y mae wedi bod o fuddioldeb i Gristionogaeth mewn llawer oes, ac heb ei lwyr ddyfetha hyd heddyw. Yn oesoedd tywyll pabyddiaeth yr oedd lleiaf o hono; ac i'r graddau yr oedd y diwygiad oddiwrth babyddiaeth yn hannerog a phrin, i'r un graddau yr oedd rhagfarn yn erbyn llafur lleŷgaidd, a phenderfyniad i gadw at osodiadau caeth ac eglwysaidd, yn parhau. Gwnaed gradd o fwlch yn y gwrthglawdd hwn yn amser Cromwell, a thrachefn yn amser y Methodistiaid yn Nghymru a Lloegr. Tybygwn nad oes un wlad yn awr wedi ei thrwytho gymaint â llafur lleŷgaidd ag ydyw tywysogaeth Cymru. Yr unig wlad ydyw ag y mae rhagfarn dynion wedi gogwyddo yn fwy o blaid nag yn erbyn y cyfryw foddion; a'r unig wlad, fe allai, sydd mewn perygl o gael niwaid oddiwrth ragfarn yn erbyn dynion a lwyr-ymroddant i weinidogaeth yr efengyl, gan lwyr ymddyosg oddiwrth bob galwedigaeth fydol. Ond gan y daw y mater hwn dan sylw mewn dosbarth arall o'r llyfr hwn, gweddus yn awr ydyw ysgogi yn mlaen.