Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pa beth bynag, neu pa faint bynag, a ellir ei ddweyd o blaid neu yn erbyn llafur anghanonaidd neu leygaidd o'r fath y soniwn am dano, y mae y ffaith yn amlwg ac anwadadwy, mai i'r llafur hwn, gyda gwên y nefoedd, y mae Methodistiaeth Cymru yn fwyaf dyledus am ei gynydd a'i lwyddiant. Coronodd Duw y llafur hwn â'i fendith. Digon yw hyn, neu a ddylai fod, i liniaru y rhagfarn o leiaf, os nad ei lwyr ddileu, na wnaeth "Duw ddim gwahaniaeth" rhwng y gwŷr lên a'r gwŷr lleŷg, gan fendithio gweinidogaeth y naill yn gystal ac yn gymaint â'r lleill. Rhaid enwaedu y dysgyblion newydd a alwyd o blith y cenedloedd, ebe rhyw rai brwdfrydig dros hen drefniadau eglwysig, "onide, ni allant fod yn gadwedig. A dadlen mawr, ac ymryson, a fu yn eu plith yn nghylch y cwestiwn hwn." Anfonwyd Paul a Barnabas i gynadledd y brodyr yn Jerusalem, er mwyn cael penderfyniad heddychol ar y pwnc, os oedd modd; a phenderfyniad a gaed, nes i'r holl luaws ddystewi. A pha fodd y caed y fath benderfyniad? Ai trwy ymresymiad manwl ar natur a dyben yr enwaediad, a thrwy ymchwiliad dwfn i barhad yr oruchwyliacth Iuddewig? Nage, tybygid; ond trwy ffordd unionach ac amlycach; sef trwy nodi ffaith na allai neb ei gwadu. "Ha wŷr frodyr," ebe Pedr, "chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith fy ethol i, i gael o'r Cenedloedd, trwy fy ngenau i, glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megys ag i ninau; ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonau trwy ffydd," Act. XV, 7-9. A'r holl luaws a ddystawasant. Yr oedd y prawf a osodwyd gerbron yn ddigon i ddymchwelyd pob rhagfarn, ac i symud pob petrusder. Yr oedd Duw wedi gosod ei sel wrth y dysgyblion dienwaededig, a phwy oedd y dyn a feiddiai godi yn ei erbyn? Ar seiliau yr un mor ddiymwad y gallwn ninau ddywedyd, Fe roes Duw ei sel wrth weinidogaeth y dynion anurddedig yn Nghymru. Ac yn mha le y mae y dyn a gyfyd yn erbyn hyny? le, ni wnaeth Duw, adnabyddwr y calonau, ddim gwahaniaeth rhwng yr urddedig a'r anurddedig; bendithiodd y naill a'r llall; fe roes yr Ysbryd Glân i'r anurddedig, megys ag i'r lleill. Gwnaeth Duw lawn cymaint o arddeliad o Howel Harris ddiurddau, a llawer iawn mwy, nag o'r Parch. Thomas Lewis; o Dafydd Morris y crefftwr, neu John Harris yr amaethwr, ag a wnaeth ef o'r Parch. John Powell yr offeiriad. Yr oedd gweinidogaeth y boneddwr Lloyd o Henllan mor fendithiol a'r eiddo yr eglwyswr Williams o Ledrod. Parodd gweinidogaeth Robert Roberts o Glynog, a John Elias o Lanfechell, gymaint o rwygiadau yn nheyrnas y diafol yn Ngwynedd, a'r eiddo Mr. Charles a Mr. Lloyd o'r Bala. Nid fy amcan yn y cyferbyniadau hyn ydyw dyrchafu un, a darostwng y llall; ond profi, trwy y ffeithiau adnabyddus uchod, na wnaeth Duw ddim gwahaniaeth rhwng yr urddedig a'r diurddedig. Pa fodd y cysonir y ffaith hon a'r athrawiaeth y mae cymaint o swn yn ei chylch y dyddiau hyn, sef yr "olyniad apostolaidd," nis gwn. Os gwir ydyw y dyb, nad oes neb yn wir weinidog yr efengyl, ond a dderbyniodd ei urddau trwy linell union a Sicr oddiwrth yr apostolion; ac os