Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyma ydyw gosodiad Pen yr eglwys ei hun, pa fodd y rhoddwyd yr Ysbryd Glân i rai heb y fath urddiad, sydd i mi, yr wyf yn cyfaddef, yn ddirgelwch. Hwyrach y dichon i rywrai a wnant yr honiadau hyny yn Nghymru, roddi i'w cenedl ychydig o eglurhad ar y pwnc. Tegwch fyddai i glerigwyr Puseyaidd a hanner-babaidd ein gwlad, roddi traethawd trwy y wasg ar hyn yma; ac yn neillduol, symud yr anhawsder hwn sydd ar ein ffordd trwy y blynyddoedd, na "wnaeth Duw ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwy," ar gyfrif yr urddiad y sonir am dano. Gweled yr ydym fod yr Arglwydd wedi cynysgaethu dynion na fuont erioed mewn athrofa, nac o dan law esgob, â chymaint o ddawn, ysbrydolrwydd, a defnyddioldeb, a neb o'r lleill, ac ni all un ymresymiad gor-ddysgedig, ac uch-eglwysaidd, ddileu y ffaith oddi ger bron ein llygaid.

Ni a wyddom yn dda y cyhuddir y pregethwyr diurddau hyn o eondra digywilydd, am gymeryd arnynt swydd nad oes iddynt hawl iddi; eu bod yn euog o gysegr-ladrad, a thraws-ymyriad â pheth nid yw eiddynt; eu bod yn euog o sism neu ymraniad yn nghorff Crist, ac yn cyfranogi â chynulleidfa Cora o wrthryfel yn ngwersyll Israel Duw; a gwyddom nad oes eisieu ond awdurdod cyfraith, a'r cleddyf gwladol, na roddid dystawrwydd tragwyddol ar yr holl sectariaid hyfion hyn. Ond y peth sydd yn ein dyrysu o hyd ydyw, pa fodd na wnaethai Duw ryw wahaniaeth rhyngom ni a hwy, os gwir yr haeriadau uchod. Os cymerwn ein harwain gan yr hyn a welwn ac a glywn; os ydyw y synwyrau corfforol wedi eu rhoddi i ni i farnu y ffeithiau a osodir gerbron, yr ydym dan angenrheidrwydd i benderfynu, ar y cyfan, mai gwell i ni, a mwy defnyddiol i blant dynion, ydyw y rhai diurddau na'r rhai urddedig. Os gorfydd i ni hefyd wrthod y naill a dewis y llall, yr ydym yn mawr dueddu, oddiar a welwn ac a glywn, i ddewis y siopwr, y crefftwr, neu yr amaethwr, diurddau, dirodres, a diymhongar, o flaen y pentwr mawr o rai urddedig, er uched eu honiadau, ac er trefnused eu hurddiad! Parod ydym i ddweyd wrth yr apostolion, os na allai eu hurddiad olynyddol gynyrchu i ni well dynion, a chymhwysach gweinidogion, na'r enghreifftiau a roddwyd i ni yn nhywysogaeth Cymru er ys tri chan mlynedd, nad ydym am roddi dim ychwaneg o drafferth iddynt; fod y nifer a gawsom eisoes yn llawn ddigon. Ond enllib ar yr apostolion a fyddai eu cyhuddo hwy o ddim o'r fath; ni a drown, ynte, at yr esgobion, ac a ddywedwn, "Ni wnaeth eich dwylaw urddeiniol chwi, bendefigion, fawr iawn o les i ni, nac yn wir i'r gwŷr y rhoddasoch eich dwylaw ar eu penau ni a'ch cymerwn yn esgusodol: o hyn allan. Rhodder i ni DDYNION DUW, urddedig neu beidio, nid yw o un canlyniad genym pa un, am y byddont yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd; ond yr ydym yn teimlo yn rhwym o'u gwrthod, er i chwi eu hurddo ganwaith, oddieithr eu cynysgaethu gan Ysbryd Duw â doniau ysbrydol."

Na chamgymerer amcan yr ymadroddion uchod, na naws meddwl yr hwn a'u hysgrifenodd. Nid oes genyf un gwrthwynebiad i aelodau a gweinidogion crefyddol eglwys Loegr, mwy na'r eiddo ymneillduwyr, ddisgyn ar y ffurf o ordeinio neu urddo a welont hwy yn oreu, er mwyn cadw trefn yn y cyfun-