Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deb y gwneir hyny ynddo; ond os honir fod y naill ddull na'r llall yn anhebgorol i gyfansoddi gwir weinidog yr efengyl yn nghyfrif Duw, yr ydwyf yn rhwym o'i wrthod fel gosodiad na ellir ei brofi o'r ysgrythyr, ac yn croesi yn amlwg ffeithiau lawer. Ac os honir yn mhellach, fod effeithioldeb y gweinyddiad o'r gair neu o'r sacramentau, yn dibynu ar urddiad rheolaidd oddiwrth yr apostolion, trwy linell ddifwlch o ddynion penodol y perthynai hyny iddynt, yr wyf yn teimlo angenrheidrwydd i ardystio fy marn, fod y fath honiad yn heresi babaidd, ac yn berffaith ddisail o ran yr ysgrythyr, ac yn berffaith ddiles o ran ei effeithioldeb. Pan yr honai Paul ei apostoliaeth, efe a gyfeiriai at ei lafur, ac at y llwyddiant â pha un y coronodd Duw ei lafur. Gwnaed olynwyr yr apostolion yn Nghymru a Lloegr yr un peth. Rhodder i'r bobl eu gweled yn llawn o ysbryd gostyngedig yr addfwyn Iesu; rhodder ar ddeall i bawb, trwy athrawiaeth iachus, trwy ddoniau wedi eu heneinio gan Ysbryd Duw, trwy burdeb ymddygiad a diwydrwydd swyddol, trwy ddysgyblaeth gyson, ie, trwy achubiaeth eneidiau dynion, mai rhai galwedig gan Dduw ydynt, etholedig a ffyddlawn.

Yr ydym yn crynu wrth glywed dynion, a raid iddynt ddyoddef fel ninau, yn gwneuthur y fath honiadau, y rhai yr ydym yn edrych arnynt nid yn unig yn ddisail, ond yn dra chableddus. Dywed yr offeiriad pabaidd, fod iddo ef allu, trwy ei urddiad apostolaidd, i droi y bara a'r gwin i fod yn wir gorff a gwaed Crist; fod ganddo awdurdod i rwymo ac i ryddhau dynion o ran eu cyflwr ysbrydol; i barotoi dynion trwy fath o swyn-eneiniad ar derfyn amser, i wynebu tragwyddoldeb; ie, fod ei awdurdod yn cyrhaedd tragwyddoldeb ei hun, trwy fod gwasanaeth yr offeren a offrymir ganddo yn gwneuthur cymod effeithiol dros y meirw a'r byw hefyd. Daw hyn oll iddynt, meddant, trwy rinwedd yr ordeiniad rheolaidd ac uniongyrchol a wnaed arnynt. Honant hefyd nad yw da na drwg y gweinyddwr yn effeithio dim ar y gwasanaeth a gyflawnir ganddo, mwy nag oedd cymeriad yr archoffeiriad gynt yn chwanegu nac yn lleihau dim ar effaith y cymod a wneid ganddo ef. Felly, fe'n dysgir ni i gredu gan y tylwyth yma, fod awdurdod gan un "mab uffern," i roddi i "fab uffern" arall, y gallu i wneuthur cymod dros "feibion y fall" gyda Duw! Creded y neb a all! Athrawiaeth i'w honi gan ddyhiriaid, ac i'w choelio gan ffyliaid!

Nid llawer is ydyw honiadau rhai a alwant eu hunain yn weinidogion eglwys Loegr. Trwy rinwedd yr ordeiniad apostolaidd fyth, rhoddir ar ddeall i ni fod gan y gŵr cysegredig ryw fedr neu allu na fedd neb arall mo hono; fod y plentyn a fedyddir ganddo ef, yn cael ei aileni; a'r rhai y gweinyddir y cymun iddynt ganddo ef, yn derbyn maddeuant pechodau. Yr ydym yn edrych ar aileni dyn, boed ieuanc neu hen, yn gyfnewidiad pwysig iawn, yn annhraethol felly; a'r un modd yr edrychwn ar faddeuant pechodau yn fendith annhraethol ei gwerth; ac fe fyddai credu fod y bendithion mawrion hyn yn grogedig wrth fysedd dyn, pwy bynag, yn ein gosod ar lithrigfa aa allwn ddychymygu maint ei pherygl. Pa beth! onid ydyw nefoedd ac uffern, dedwyddwch neu drueni tragwyddol, yn dibynu ar gael y bendithion