Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn neu beidio? Ai posibl, o ddifrif, ydyw fod tynghed dragwyddol plant dynion yn gorphwys ar y fath seiliau? Gwyddom yn dda y dichon y naill ddyn fod yn offeryn i wneyd lles i'w gydgreadur, trwy ei rybuddio, ei gynghori, neu drwy weddio drosto; ond nid math o legerdemain (ledrithwaith) ydyw y moddion hyn, ond moddion rhesymol a theg, ac yn perthyn i'r naill Gristion eu harfer tuag at un arall. Nid oes yma un swyn ddirgelaidd y fath a broffesir gan y Tractariaid, ond moddion moesol o appwyntiad dwyfol, ac yn dibynu yn hollol am eu heffeithioldeb ar weithrediad yr Ysbryd Glân, ac ar ei ras penarglwyddiaethol.

Ond ni a ddychwelwn. Mawr y lles a wnaed yn Nghymru trwy lafur y lleygion; lles na chawsid mo'no, pe yn ol deddf y frenines Elizabeth trwy ymgynghoriad â'r archesgob Whitgift y cawsai pethau fod,-"Na adawer i neb bregethu heb ei ordeinio yn rheolaidd." Os wrth ordeiniad rheolaidd y meddylir urddiad esgobawl, fel y mae yn sicr y gwneir, yna pa beth a ddaethai o Gymru?—ie, pa beth a ddeuai eto o Gymru, pe rhoddid taw ar bob un na fu dan ddwylaw esgobion? Mae llawer iawn o'r goleuni, y moesoldeb, a'r grefydd sydd yn mysg y genedl, wedi ei gynyrchu trwy lafur lleŷgaidd. Mae gan y Methodistiaid bob Sabboth bedwar cant o ddynion o bob oedran, dawn, gwybodaeth, a gras, yn ceisio ennill eneidiau at Grist. Ai bychan y bernir fod effaith mwy na 60,000 o ddarlithiau cyhoeddus, ar destynau ysgrythyrol yn unig, yn ysbaid blwyddyn, ar wrandawyr astud a difrif? Ac fe wneir hyn gan y Methodistiaid eu hunain, heb son am y gwahanol enwadau crefyddol ac ymneillduol eraill. Pa golled ei maint a fyddai llethu hyn oll? Pwy all ddychymygu pa mor echrys a fyddai y canlyniad? Pa wlad bynag a all ddweyd yn dda am lafur lleygaidd, y mae gan y Cymry achos i ddweyd yn uwch na neb. Os oes gan dalaeth yn y byd achos i ddiolch am lafur efengylwyr dirwysg a dirodres, nyni yn fwy. Y mae ol eu llafur ar hyd ac ar led yr holl wlad; nid oes nemawr gwm na phentref na sangodd eu traed hwy ynddo, ac na chlybuwyd eu lleferydd. Mae miloedd ar filoedd eisoes, wedi oes o broffes gyson, yn awr mewn gogoniant, traed y rhai a gyfeiriwyd yno gan y llafurwyr hyn. Mae miloedd ar filoedd eto ar eu taith tua'r un cartref, wedi cael eu haflonyddu gan eu rhybuddion hwy. Mae cannoedd lawer o'r llafurwyr diurddau hyn yn awr yn gorphwys yn y beddrod oer, ond y mae eu henwau yn beraroglaidd yn y broydd y Hafuriasant ynddynt. Dylynir eu ffydd hwy gan luaws o frodyr, y rhai ydynt yn ystyried diwedd eu hymarweddiad gyda chysur a gobaith.

Yr oedd, ac y mae, llawer o lafur lleŷgaidd yn cael ei gario yn mlaen yn mysg y Methodistiaid, heblaw y llafur cyhoeddus yn y pulpud. Ni ddylid ar un cyfrif anghofio addysgiadau a gofal yr henuriaid eglwysig. Fe fu ymdrechion y dosbarth hwn, mewn undeb a darlithiau mwy amlwg y pulpud, o fendith annhraethol ac anmhrisiadwy i genedl y Cymry. Dyma y cynghorwyr anghyhoedd y sonia "Cofnodau Trefecca" gymaint am danynt. Nid oedd y rhai'n yn arfer pregethu yn yr ystyr yr edrychir ar hyny yn awr; ond cyfarfyddent â'u cymydogion mewn tai, neu rywle cyfleus, i weddio a