i ymlynu wrth y gwir Israel, y rhai, er hyny, nid oeddynt bobl; a dychwelasant, eilwaith, i'w bro eu hunain. Cafwyd rhai, yn ddiau, a floeddient "Hosanna i Fab Dafydd," pan y croesawid yr Iesu ar wedd freninol i Jerusalem, yn dywedyd ar ol hyny gyda chynulleidfa arall, "Croeshoelier ef." Fel ag y bydd y gwlaw yn disgyn ar y môr, ac ar y graig, yn gystal ag ar y weirglawdd werdd, a'r tir llafur; felly hefyd y disgyn cawodydd adfywiol y diwygiadau ar lawer gwrthddrych na welir dim effaith pellach na'i wlychu a'i feddalu megys ar y pryd. Eto, fe ddylid cofio nad yw y cawodydd ddim yn llai dwyfol eu tarddiad, nac yn llai santaidd eu tuedd, er iddynt fod yn anfuddiol i rai. "Beth os anghredodd rhai, a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer? Na ato Duw." Ond er fod effeithiau cyffredinol, y rhai ydynt dros amser, yn perthyn i'r adfywiadau hyn, eto nid yn y rhai hyn y maent yn dybenu. Pa nifer bynag o'r dysgyblion proffesedig a ânt yn eu hol, fe fydd yno rhyw nifer yn glynu gyda'r lesu. A pha faint bynag o ûs a â ymaith gyda'r awelon, fe fydd yno swp o ŷd ar y llawr dyrnu.
Nid ydym yn gwadu, chwaith, na ddichon fod llawer o bethau gwael yn perthyn i'r rhai a wir ddychwelwyd at Dduw yn ysbaid yr adfywiadau hyn. Mae dynoliaeth lygredig yn dra darostyngedig i syrthio i ormod llwfrdra mewn tymhorau o adfeiliad ar grefydd; neu ynte i ymwylltio i eithafion, neu i wibio mewn afreolaeth, mewn tymhorau o adfywiad a sirioldeb. Gwell genym, pa fodd bynag, radd o afreolaeth ac annhrefn yn mysg y byw, na'r tangnefedd digyffro sydd yn mhlith y meirw. Iachach a gloywach ydyw dwfr y ceunant trystiog, na'r eiddo y gamlas dawel, neu y corbwll llonydd. Gwell genym fyddai clywed dynion yn cwyno rhag eu cysgadrwydd eu hunain, nag yn achwyn ar annhrefn rhai eraill. Temtir ni i feddwl, pan glywom rai yn dynoethi brychau y diwygiadau, ac yn son cymaint am eu sŵn mawr, a'u hannhrefn gwyllt, mai eisieu llonydd i gysgu sydd arnynt; blin ydynt am aflonyddu ar eu hesmwythder. Rhodder i ni yr adfywiadau hyn, gyda'u holl anmherffeithrwydd, yn hytrach na bod yn amddifad o honynt. Nid am ein bod yn hoffi annhrefn, ond am ein bod yn caru bywyd. Ewyllysiem gael y gwenith, gan nad faint yr ûs a fydd yn ei amgylchu. Mynem yr aur, er maint y sothach a fydd yn nglŷn wrtho. Ni a gyfrifwn yr hyn oll sydd dda, santaidd, ac effeithiol, yn yr adfywiadau crefyddol, i Dduw; a gosodwn yr holl eithafion, gwylltineb, ac annhrefn, yn nghyfrif dynoliaeth wan a llygredig. Rhodder i Dduw y gogoniant, a chymerwn ninau y gwarth.
Effaith y diwygiadau ar gynydd y Cyfundeb.
Pa faint bynag a ddichon neb ei ddywedyd mewn ffordd o ddiraddiad ac iselhad ar ddiwygiadau Cymru, Sicr ydyw fod y Methodistiaid Calfinaidd yn dra dyledus iddynt am eu cynydd a'u llwyddiant.
1. Hwy fuont yn foddion arbenig ar y dechre, i gyffroi sylw, ac i ddarostwng rhagfarn, y wlad at yr ysgogiad Methodistaidd. Pan y cynysgaethwyd Cymru ag ef gyntaf, yr oedd yn ymweliad dyeithr ac anarferol. Nid oes amheuaeth nad oedd amryw weinidogion duwiol yn Nghymru, yn enwedig