Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y Deheubarth, ar y pryd y torodd Methodistiaeth allan; ond nid oeddynt wedi gallu creu nemawr o gyffro yn y wlad. Yr oedd eu llafur megys mewn congl, a'r ganwyll dan lestr. Ond trwy y diwygiad a dorodd allan yn Llangeitho, fe osodwyd y ganwyll mewn canwyllbren; rhoddwyd iddi fantais i chwalu ei goleuni hyd yn mhell. Parodd syndod yn meddyliau y rhai ag oedd bresenol ar y pryd; hwythau a daenasant y gair ar led; enynodd y son gywreinrwydd rhai nad oeddynt yn gofalu dim am y pethau hyn. Rhoddwyd swyn chwanegol yn ngweinidogaeth yr offeiriad crac. Lluosogodd hyn y gynulleidfa fwy-fwy, a gwelodd Duw yn dda roddi i gannoedd o'r gwrandawyr newyddion deimlo awdurdod ei eiriau, nes eu gwneyd yn ewyllysgar iddo yn nydd ei nerth. Dygasid hwy yno ar y dechre o gywreinrwydd, ac o flys gweled peth newydd a dyeithr; yn awr, deuant i'r lle i geisio Arglwydd y lluoedd. Nid oeddynt, mwyach, yn credu o herwydd gair neb arall, canys profasant eu hunain rym y gwirionedd; yr oedd eu ffydd, bellach, nid yn "noethineb dynion, ond yn nerth Duw." Mewn llawer man yn Ngwynedd a Deheudir, ar ol y diwygiad nerthol yn Llangeitho y tro cyntaf, ac yn mhell ar ol dyddiau Rowlands, y bu diwygiadau yn foddion i godi achos bychan a gwywedig i sylw.

Moddion neillduol a fu yr adfywiadau nerthol hyn i ddarostwng rhagfaru rhai, i roddi taw ar achwynion eraill, ac i gadarnhau meddyliau y sawl a ymofynent am y gwirionedd. Pan y canfyddid y pechadur caled ac anystyriol yn cael ei ddofi, a'r oferddyn yn cael ei sobri; pan y gwelid hen bechaduriaid ystyfnig yn cael eu hystwytho; a hyn oll megys ar unwaith, a thrwy foddion annhebyg, saethai argyhoeddiad, megys o orfod, fod Duw yn y lle. Pan y gwelai tad fod ei fachgen gwyllt ef wedi ei gwbl ddofi, neu pan y canfyddai y wraig y fath gyfnewidiad er gwell a ddaeth heibio i'w gŵr dideimlad, yr oedd hunanolrwydd yn ddigon i ardystio y lles a wneid. A phan y gwelai trigolion yr ardal fod aflonyddwyr y wlad, y rhai nid oedd na chynghor na rhybudd yn arfer mènu dim arnynt, a'r rhai o'r braidd a ddelid mewn terfynau gan gyfreithiau cryfion y tir, yn cael eu cwbl wareiddio, a'u gwneyd nid yn unig yn berffaith ddiniwed, ond hefyd yn dra dymunol, rhaid oedd addef mai bys Duw a wnaeth hyn. Disgynai math o arswyd ar y rhai mwyaf gwrthwynebus; ac er mor wrthwynebol i'w tueddiadau hwy oedd y diwygiad, eto cymhellid hwy, o leiaf, i gilio oddiwrth y bobl, a gadael iddynt. Deallai eu cydwybodau fod grym y cenllif yn rhy fawr i sefyll yn ei erbyn, "rhag eu cael yn ymladd yn erbyn Duw."

2. Effeithiai y diwygiadau yn ddaionus iawn hefyd ar wrandawyr ag oeddynt wedi hir gynefino â swn efengyl; ac ar feibion a merched ieuainc, y rhai, oddiar ddefod a ymarferent â ffurfiau crefydd, ond heb ei sylwedd a'i grym. Nid goruchwyliaeth gyffredin sydd ddigonol i gyffroi dynion wedi ceulo ar eu sorod; rhai wedi ymsefydlu mewn ffurfioldeb a chwsg. Mae y diwygiadau i'r tylwyth yma, fel y llanw mawr i'r llestri ag oeddynt wedi disgyn yn mhell i'r lan, yn eu codi drachefn i nofio, ar ol bod yn soddedig yn hir yn y llaid. Hyfryd iawn ydyw gweled hen wrandawyr Phariseaidd eu syniadau, a