Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/277

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deddfol eu hysbryd—rhai wedi dal yn ddigrŷn a difraw dan bob dawn a gweinidogaeth, yn cael eu plygu a'u hystwytho. Mynych y gwneir hyny mewn diwygiadau cryfion. Sirioldeb mawr hefyd ydyw canfod llu o bobl ieuainc gwamal ac ysgeifn, y rhai a fagwyd yn swn efengyl, ac ar liniau yr ysgol Sabbothol, ac a dyfasant i fyny, er hyny, yn anystyriol a chaled,—sirioldeb mawr, meddaf, ydyw canfod y dosbarth yma wedi eu llwyr ddofi gan saethau Duw yn eu cydwybodau, yn ymofyn gyda phryder a braw, am le i'w cuddio yn nydd digofaint yr Arglwydd. Hyn hefyd a welwyd i raddau helaeth mewn diwygiadau. Dygwyd miloedd o'r fath hyn, o bryd i bryd, i'w hiawn bwyll; gwnaed hwy yn anrhydedd i'w gwlad, ac yn fuddiol i'w hoes. A phwy a all ddirnad y daioni a gynyrchwyd trwy hyny—daioni, nid yn unig iddynt hwy eu hunain, pob un yn bersonol, ond daioni annhraethol i eraill hefyd. Daethant cyn hir yn benau teuluoedd, ac i fagu plant, a throsglwyddwyd trwyddynt ffrwyth y diwygiad i'w hiliogaeth. Wrth edrych ar yr ugeiniau o filoedd sydd yn awr yn ddeiliaid ysgolion Sabbothol Cymru, a gweled fod lluaws mawr iawn o honynt yn tyfu i fyny yn ddidduw a gwargaled, a hyny mewn ymarferiad defodol â'r Beibl, ac â moddion gras, cyfyd daroganau tywyll am yr hyn a ellir ei ddysgwyl mewn amser dyfodol; a phâr i lawer mynwes ddyheu am ryw ymweliadau cryfion eto. Pa le mae Arglwydd Dduw Elias? Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen.

3. Canlynid y diwygiadau ag effeithiau cyffredinol ar yr eglwys ac ar y byd. Rhoddai wedd siriol ar yr achos crefyddol. Ysgafnhâai yr awyr grefyddol. Yn lle yr agwedd farwaidd, lwfr, a digysur, a welid o'r blaen, yr oedd bellach sirioldeb a bywiogrwydd yn teyrnasu. Meddiannai yr hen bobl eu hieuenctyd yn ol eilwaith. Yn lle y musgrellni swrth a orweddai fel yr hunllef ar bob dim, yr oedd bellach fywiogrwydd a chysondeb yn yr holl ysgogiadau. Y gauaf a aethai heibio, a'r gwanwyn hyfryd a ddaeth. Ymddangosai effeithiau daionus ar y cymydogaethau hefyd, lle y byddai yr adfywiadau nerthol hyn. Darostyngid anfoes yr ardal ymron yn llwyr ar y pryd. Ysgubai y diwygiad o'i flaen, fel "lifeiriant mawr ei rym," yr holl ofer-gampau, a'r cyfarfodydd llygredig; cuddiai arferion drwg eu penau, gan gywilydd. Cilient o'r golwg, fel y gwna bwystfilod drwg, ar doriad y dydd. Llenwid yr addoldai â gwrandawyr astud; clywid ymddyddanion crefyddol, yn lle chwedlau ofer a choeg-ddigrifwch; a dyrchafai gweddiau i'r nefoedd, oddiar aelwydydd, ac mewn teuluoedd, na chlywsid ynddynt erioed o'r blaen y fath beth. Codai ymofyniad yn nghylch y gwirionedd yn meddyliau llawer na roddasent un ystyriaeth iddo erioed o'r blaen, a dyfnhâai yr argyhoeddiad fod rhywbeth dwyfol mewn crefydd.

Y cyfryw ydynt effeithiau hyfryd a daionus y diwygiadau, a llawer mwy a ellid eu chwanegu. Dygent brofion gyda hwy o ddwyfolder eu tarddiad; yr oedd iddynt effeithiau na allai dyn, ac na fynai diafol, mo'u cynyrchu. NI ellir eu priodoli i neb ond Duw. Yr oedd eu nerth yn dwyn argraff hollalluogrwydd, a'u ffrwyth yn dwyn delw santeiddrwydd. Gwelid yn eu