Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddefnyddio, yr hyn beth nis gwelsid yn Ysbytty erioed o'r blaen. Ymddyddanai y tri brawd hyn â'u gilydd yn nghylch y newydd-beth hwn, ac ymofynent ai cyfreithlon ydoedd goddef i'r peth dyeithr hwn barhau. Wedi trafod gradd ar y mater, disgynodd y blaenoriaid yn unllais ar y penderfyniad mai eu dyledswydd ydoedd ei attal, a hysbyswyd y penderfyniad yn ol hyny i'r cantorion. Hwythau, wedi clywed hyn, a ofynasant ganiatâd i ddyfod at eu gilydd unwaith drachefn, am y tro olaf, os rhaid oedd, gan fod gradd o angenrheidrwydd am hyny, er mwyn anfon ymaith eu hathraw yn anrhydeddus. I hyn y cydsyniodd y blaenoriaid; ac ar yr amser nodedig, daeth yr athraw a'r cantorion ynghyd, â'r tri hen ŵr hefyd; aeth un o honynt i'r pulpud, lle y bwriadai aros hyd ddiwedd y cyfarfod. Y cantorion a aethant at eu gorchwyl o ddysgu y tônau a'r anthemau ag oedd eisoes ar droed; a rhywbryd yn ystod yr amser hyny, hwy ganent yr anthem a gyfansoddasid gan John Ellis, ar y 12fed bennod o Esay; ac wrth fyned dros un rhan o honi, sef, "Am hyny mewn llawenydd y tynwch ddwfr o ffynnonau iachawdwriaeth, &c.," teimlodd un ar ei galon ail fyned dros yr un linell, unwaith a dwy. Awgrymai yr athraw mai gwell oedd myned yn mlaen; ond cenid yr un linell drachefn a thrachefn. Cerddai y teimlad bellach yn fwy, a chryfhâai mewn grym. Canwyd, "Am hyny mewn llawenydd y tynwch ddwfr, &c.," ac ofer oedd i'r athraw erfyn am gael dybenu yr anthem; ailgenid y llinell gyda blas mwy-fwy; ac o'r diwedd, methodd yr hen flaenor yn y pulpud ag ymattal, ond llefodd allan â'i holl aerth, "Bendigedig fyddo Duw, am ffynnonau iachawdwriaeth, &c." Cerddodd y teimlad yn gyffredinol, a dybenodd y dysgu canu celfyddydol, yn wir ganu calonog. Aeth yr hen flaenor adref, gan foliannu a neidio; ac ni bu son mwyach am attal y cyfarfod canu. Fe fu hyn yn ddechreuad diwygiad yn yr ardaloedd hyny.

Mae y diwygiad a dorodd allan yn Beddgelert, sir Gaernarfon, yn y fl. 1817, yn un hynod yn hanes Methodistiaid Cymru. Mae y plwyf hwn yn sefyll yn nghanol mynyddoedd uchel Eryri, wrth droed yr Wyddfa. Cyn y diwygiad hwn, nid oedd yr achos crefyddol ond isel a digynydd. Nid oedd yn y gymdeithas eglwysig nemawr fwy na deugain o rifedi. Yr oedd yr olwg gyffredinol ar y gwaith yn y lle wedi bod yn llwydaidd a digynydd iawn er's blynyddau, er fod yno amryw o frodyr ffyddlawn; y rhai a ymdrechent, dan deimladau digon gofidus yn fynych, i wasanaethu achos yr efengyl hyd y gallent. Yr oedd y gwrandawyr hefyd wedi hen galedu yn swn efengyl; yr oedd gwedd hyf a diorchwyledd arnynt yn yr oedfaon, nes oedd caledwch cynulleidfa Beddgelert wedi myned yn ddiareb mewn cyrau eraill o'r wlad. Ar yr un pryd, dangosent barodrwydd, ie, yn yr amser isel hwn, i gyfranu at unrhyw achos a fernid yn deilwng i'w osod o'u blaen. Nid oedd, chwaith, ddim ymweliadau neillduol wedi bod er ys cryn amser yn holl Ogledd Cymru.

Yn mis Ionawr, 1817, pa fodd bynag, ymddangosai rhyw arwyddion fod yr awyr grefyddol yn ysgafnhau. Teimlid mwy o sirioldeb a mwynhad yn y moddion, yn enwedig yn y cyfarfodydd eglwysig. Yn mis Mawrth, dy-