Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwyr orchfygu, a'i lyncu yn gwbl allan o hono ei hun. Hòna dynion geirwir a gwir grefyddol iddynt ei glywed, amryw o honynt gyda'u gilydd, am gryn ysbaid o amser, yn cerdded yn araf, ac yn lliniaru yn raddol, fel pe buasai y cantorion yn ymbellhau.

Ysgrifena gŵr call o Benmachno ataf, ar y mater hwn, gan gyfeirio at ei ardal ei hun, fel hyn:-"Mae yn debygol hefyd, fod ymweliadau angylaidd wedi cael eu gwneuthur â'r ardal hon. Fel yr oedd un o'r henuriaid eglwysig a'i wraig, ac eraill gyda hwy, yn dychwelyd o gyfarfod misol Yspytty, ar amser pur lwyddiannus ar grefydd, ac wedi profi cryn lawer o fwynhad yn y moddion trwy y dydd, clywent ganu o'u hol. Ni feddyliasant ar y dechreu nad y bobl oedd yn dyfod o'r cyfarfod dan ganu. Parhaodd y syniad hwn am ysbaid o amser. O'r diwedd, daeth y swn yn nes atynt, ac yna uwch eu penau, nes oedd pawb yn methu ymron ag anadlu. Yr oedd y swn o'r fath bereiddiaf, meddynt, a glywsent erioed. Disgynai y gydsain amryw-leisiog ar y glust yn y modd hyfrytaf; a pharai argyhoeddiad yn y fan yn meddwl pob un a'i clywai, na chynyrchid ef gan lais na chelfyddyd dyn." Crybwylla hefyd am amgylchiad arall: "Fel yr oedd Mr. E. Davies, tad y Parch. D. Davies o ardal Penmachno, yn dychwelyd adref o gwrdd gweddi mewn lle a elwir Coed-y-ffynnon, clywai swn canu dyeithr iawn yn y coed, y fath, meddai, ag a barai iddo dybied oddiwrth y sain a glywai, fod crynoad o bob math o offer cerdd wedi cyd-gyfarfod yno. Yr oedd fel pe buasai yr holl goed yn canu; ac yn wir, yr oedd yno lawer o honynt. Effeithiodd mor rymus ar ei wraig, yr hon oedd gydag ef, nes bu raid iddi, er mwyn gallu sefyll, ollwng ei phwys ar fraich ei gŵr."

Y mae o fy mlaen ysgrif arall o'r un natur; a chan ei bod yn cyfeirio at amgylchiadau tra hynod, ac yn sylfaenedig ar dystiolaeth unedig amrywiol o wŷr geirwir a dihoced, teg, tybygwyf, ydyw gosod ei sylwedd gerbron, gan adael i'r darllenydd wneuthur y casgliadau a fyno oddiwrthi.

"Mi a glywais," medd yr hysbysydd, "fod rhai wedi clywed, mewn rhai manau, o flaen rhyw ddiwygiadau mawrion, swn canu yn yr wybren; a bod eraill yn canfod rhyw arwyddion, neu yn cael rhyw freuddwydion hynod; ond nid llawer o bwys a roddwn ar chwedlau o'r fath, er i mi eu clywed gan hen grefyddwyr da, ddeugain neu hanner can mlynedd yn ol; a'r rhai hyny yn cynwys pethau tra nodedig, wedi cymeryd lle yn eu dyddiau hwy. Ond ni chrybwyllaf yn awr am ddim, ond a ddygwyddodd yn fy oes fy hun, neu a glywais i fy hun. Hyn a fu yn y fl. 1818, yn nghymydogaethau y chwareli ger Bangor, sir Gaernarfon. Y mae yn anhawdd i mi roi gwell dysgrifiad o hono na hyn:—Yr oedd ar y dechreu i'w glywed megys yn ysgogi gyda'r awel yn mhell oddiwrthym, fel mai o'r braidd y clywid ef; yr oedd yn swn gwanaidd a pheraidd, ac yn gynwysedig o wahanol leisiau, ac yn dynesu atom (yr oedd amryw o honom) yn raddol, nes y clywid ef yn eglur, grymus, ac effeithiol. Cyffelyb ydoedd, bellach, i swn tyrfa fawr yn gorfoleddu, neu yn moliannu.

Y gŵr a'i clybu gyntaf y pryd hwn, oedd un John Pierce, a'i wraig. Wedi