Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/288

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Torai y diwygiadau hyn allan weithiau trwy yr egwyddori, y canu, a'r gweddio, a gyflawnid yn yr ysgolion rhad. Cymreig. Disgynai cawodydd disymwth, a hynod o adfywiol, ar yr ysgolfeistr ei hun, ac ar y dysgyblion tlodion a fyddent dan ei ofal. Clywais y byddai awelon cryfion yn awr ac eilwaith yn cydgerdded â gweddiau Henry Richards o sir Benfro, pan y plygai ei liniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y gogoniant, yn achos y plant a ddysgid ganddo. Parhaodd yr argraffiadau a wnaeth ei weddiau ar lawer un o honynt dros holl ystod ei oes; ac nid golygfa ffugiol ydoedd fod yr athraw a'r holl ysgol yn tori allan mewn dagrau, ac mewn mawl i Dduw.

Un o'r pethau cyntaf a fu yn fendith yn Llanfair, Mon, i roddi ysgogiad yn yr achos crefyddol yno, oedd yr adfywiad a gymerodd le yn mhlith plant yr ysgol Gymraeg. Anfonwyd un Richard Evans yno i ddysgu plant ac ieuenctyd y gymydogaeth i ddarllen Cymraeg, a'u hegwyddori yn ngwirioneddau y Beibl. Ar ol eu holwyddori, rhoes air i ganu, sef,

"Fe genir yno am y gwaed,—Flotiodd feiau, Ac am y gonewest fawr a gaed,—Ar Galfaria; Gan iddo fyn'd i lawr i'r bedd,—A chyfodi, Fe welir miloedd ar ei wedd,—Yn ei foli."

Ond cyn canu y pennill oll, torodd yn orfoledd grymus iawn, a buont yn y capel hyd y boreu dranoeth. Dywedir hefyd y bu effeithiau cyffelyb yn coroni llafur a gweddiau yr athraw hwn mewn lleoedd eraill; ac mai trwy ei wrando ef yn egwyddori y daliodd rhywbeth yn ddifrifol gyntaf ar feddwl y Parch. W. Roberts, Amlwch. Chwanegwyd at yr eglwys yn Llanfair, ar y pryd, tuag 16 o bobl ieuainc yr un noson, a llawer iawn ar ol hyny, y rhai a fuant yn addurn i'w proffes hyd ddiwedd eu hoes.

PENNOD V.

TROION RHAGLUNIAETH YN GWEINI I GYNYDD METHODISTIAETH.

CYNWYSIAD:—

AWDURDOD CYFRYNGOL CRIST—RHAGLUNIAETH YN GWASANAETHU I AMCANION GRAS DUW—METHODISTIAETH YN FWY DYLEDUS I AROLYGIAETH DDWYFOL NAGI UN GYFUNDREFN DDYNOL—MWY O HYNODRWYDD YN YR AMGYLCHIADAU CYCH WYNOL NAG YN AWR—ENGHREIFFTIAU O GYFRYNGIAD RHAGLUNIAETH YN NGWAHANOL BARTHAU CYMRU—GORUWCH-LYWODRAETH DUW AR AMCAN10N GELYNION—AMGYLCHIADAU BYCHAIN A DIBWYS YN CYNYRCHU CANLYNIADAU PWYSIG.

MAE pob, awdurdod yn y nef a'r ddaear wedi ei roddi yn llaw Crist fel Cyfryngwr. Gwahoddwyd ef i eistedd ar ddeheulaw Duw, nes y gosodid ei holl elynion dan ei draed. Derbyniodd yr awdurdod hwn mewn ffordd o anrhydedd a gwobr am y gwaith a gyflawnodd yn sefyllfa ei ddarostyngiad, ac i'w ddefnyddio ganddo i ddybenion cyfryngol. Wrth Seion, gan hyny, y gellir dweyd, "Dy Dduw di sydd yn teyrnasu." Mae holl adnoddau llywodraeth Duw yn llaw Crist; mae pob peth yn y nef a'r llawr at ei law ac wrth ei alwad, er mwyn dwyn i ben amcanion ei angau. "Paham, ynte, y