Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

terfysga y cenedloedd, ac y myfyria y bobloedd beth ofer?" Ofer, yn wir, a fydd i fawr na bach wrthsefyll ei fwriadau; yr Hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd, a'r Arglwydd a'u gwatwar hwynt. Ac nid ofer yn unig ydyw y cyfryw wrthwynebiad yn erbyn teyrnas y Messia; ond tra pheryglus hefyd. Dryllir hwynt â gwialen haiarn: malurir hwynt fel llestr pridd. Synwyrol, ynte, fyddai i freninoedd a barnwyr y ddaear gymeryd dysg, a chusanu y Mab rhag iddo ddigio a'u dyfetha o'r ffordd, pan gyneuo ei lid ef, ie, ond ychydig ar yr un pryd, gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.

Testyn dyddorol iawn i'r meddylgar a duwiolfrydig, ydyw olrhain y dull a'r modd y mae rhagluniaeth y nef yn gwasanaethu achos yr efengyl,—y modd y mae amgylchiadau dynion, a gwahanol gyfnewidiadau eu hoes, yn cael eu goruwch-lywodraethu i ddwyn o amgylch ddybenion cyfryngdod Crist. Anhawdd fydd peidio canfod gwasanaethgarwch troion rhagluniaeth i ddybenion gras, yn ngwahanol oruchwyliaethau Duw tuag at ei bobl. Y mae holl hanes plant yr Israel yn llawn o hyn. Defnyddiai yr Arglwydd yn mhob cam oruchwyliaeth ei ragluniaeth i gwblhau ei addewid i'r tadau. Gwelir hyn yn mhlâau yr Aifft, ac yn ngwyrthiau'r anialwch; canfyddir hyn yn eu sefydliad yn Nghanaan, ac yn yr amddiffyniad a roddid drostynt. Ie, parodd Duw fod caethgludiad y genedl i Babilon, a'u gwasgariad ar led taleithiau eang y brenin Ahasferus, yn foddion i wasgar arogledd gwybodaeth ei enw yn mysg cenedloedd y ddaear. Parodd i awyddfryd Ptolemy, brenin yr Aifft, i gasglu llyfrgell ddigyffelyb fod yn foddion i ddwyn ysgrythyrau y proffwydi i iaith y dysgedigion; a thrwy hyny, barotoi y ffordd i'r adnabyddiaeth o hono ei hun ymledaenu hyd yn mhell. Bu cynulliad y bobloedd yn Jerusalem ar ŵyl y Pentecost, yn foddion arbenig i ledaenu Cristionogaeth. Fe fu carchariad Paul yn Rhufain yn achlysur llwyddiant i'r efengyl;—moddion a fwriadwyd i'w llethu, yn gwasanaethu i'w lledaenu, ie, i'w hanfon i Brydain Fawr.

Anmhosibl hefyd ydyw peidio gweled yr un gwasanaethgarwch yn nhroion rhagluniaeth yn Nghymru yn ystod y can mlynedd diweddaf. Mewn lluaws afrifed o amgylchiadau, fe ellir olrhain llaw rhagluniaeth ddoeth a dirgelaidd y nef yn rhwyddhau y ffordd i efengyl gras Duw. Mewn llawer o droion a dygwyddiadau, y mae hyn yn amlwg i sylw dynion; ac mewn llawer mwy, y mae hyny mewn gwirionedd yn bod, er ei fod allan o'n sylw, ac uwchlaw ein hamgyffred ni. Gwelir yn fynych ofal manwl rhagluniaeth mewn ymwared hynod a phrydlon i'r rhai a garent yr efengyl; a doethineb y Llywydd goruchel yn symudiadau dynion o ran eu preswylfeydd, yn eu gwneuthur yn fanteisiol er eangu teyrnas y Gwaredwr; ie, parodd i lawer o amgylchiadau gofidus a blin ynddynt eu hunain, ac am yr adeg, esgor ar ganlyniadau daionus a gwerthfawr.

Lluosogir llawer o lysiau gwylltion trwy fod awelon a gwyntoedd yn cario yr hadau ysgeifn ar wasgar hyd wyneb y ddaear. Yn y modd yma hefyd y gofala y Llywydd doeth am barhad lluaws mawr o honynt. Yr un modd y gwna rhagluniaeth yn fynych, heb yn wybod i ddynion, ac heb eu llaw