Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymaint o eiriau y Brythoniaid ag a wasanaethai i gyffroi digofaint y brenin yn eu herbyn; yn enwedig, eu gwaith yn gwrthod yn llwyr i ymuno ag ef i bregethu yr efengyl i'r genedl hóno; ac nad oeddynt yn ewyllysio cael dim cyfathrach â'r rhai a'u hyspeiliasent o'u meddiannau trwy drais ac annghyfiawnder. Nid anfoddhaol gan y brenin oedd gweled y Cymry yn dyoddef; a chan y rhoddid achles iddo i ddial arnynt trwy y tro hwn, cafodd Ethelffrith, brenin Northumbria, i ddwyn byddin i dalaeth Brochmael, tywysog Powys, o fewn tywysogaeth yr hwn y cynaliesid y gynadledd. Pan oedd byddin y brenin paganaidd yn nesâu at lanau Dyfrdwy, cawn fod y mynachod crefyddol yn Mangor Is y Coed, wrth gofio geiriau Awstin, wedi ffoi mewn dychryn at Brochmael i Gaerlleon Gawr am nodded, oblegid yno yr oedd ei gatrodau ef yn gynulledig. Yr oedd y mynachod yn ymgasglu at eu gilydd mewn maes gerllaw, i weddio am fuddugoliaeth ar y gelyn. Ond buan y maeddwyd y Cymry gan y llu mawr a ymosodai arnynt; a phan welodd Ethelffrith y gwŷr llên mewn gwisgoedd hynod, ac heb arfau, gofynodd pa beth oeddynt? Hysbyswyd iddo mai mynachod crefyddol oeddynt, yn gweddio am lwyddiant ar arfau Brochmael. "Felly," ebe Ethelffrith, "y maent yn ymladd yn ein herbyn ni â'u gweddiau;" a gorchymynodd i'w wŷr ruthro arnynt, fel y lladdwyd o honynt ddeuddeg cant ond deg—a—deugain, o wŷr anarfog a diniwed. Canlyniad y frwydr hon oedd i'r fynachlog fawr yn Mangor Is y Coed syrthio i ddwylaw y gormeswr. Y fwyaf o'r mynachlogydd, meddent, ydoedd hon, ac yr oedd ynddi ddarpariaeth i saith gylch o fynachod, pob cylch yn cynwys tri chant o rifedi.

Dygwyddodd y frwydr hon yn y flwyddyn 605; a hònir gan rai, er mwyn clirio Awstin, ei fod ef wedi marw ddwy flynedd o'r blaen, sef yn y fl. 603. Mae eraill yn sicrhau mai yn y fl. 603 y bu y frwydr, ac i Awstin farw ddwy flynedd wedi hyny; ie, hónir ei fod ef ei hun yn y frwydr hóno.

Defnyddiwyd llawer ystryw, a chyhoeddwyd llawer bygythiad gan babyddion Saesonig, ar gais offeiriaid Eglwys Rhufain, i'r dyben i gael gan eglwysi y Cymry gydffurfio â holl ddefodau eu heglwys annghristaidd hwy; ond dros faith amser, hwy fuont yn aflwyddiannus. Tra mawr oedd eiddigedd y boneddigion hyn dros rhyw ddull neillduol o eillio y pen, a thros yr amser priodol i gadw y Pasg. Hónent fod camsyniad y Cymry, yn y materion hyn, yn niweidiol i eneidiau dynion, ac na allai neb, tra y parhaent yn y gwyrni mawr hwn, obeithio cael eu rhyddhau oddiwrth eu pechodau! Yr oedd yr athrofeydd a sefydlasid gan amryw o wŷr haelionus a chrefyddol, o bryd i bryd, mewn gwahanol barthau o'r wlad, hyd yn hyn yn foddion i amaethu a lliosogi dynion o wybodaeth a duwioldeb; a thra y parhausant i wneuthur hyny, cafodd y Pabyddion ormod o waith i ffurfio y Cristionogion Cymreig yn ol eu mympwy eu hunain; ond fel yr oedd y grefydd babaidd yn ymwreiddio yn ddyfnach, ac yn blodeuo yn wychach yn mysg y Saeson, ac fel yr oedd y Cymry fel cenedl yn gwanhau trwy y rhyfeloedd blinion, a'r athrofeydd hwythau yn colli yn raddol yn eu heffeithioldeb, ennillodd Pabyddiaeth fwy o dir, lleihaodd y gwrthdarawiad iddi fwy-fwy, nes i'r wlad,