Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neillduwyr; cymerodd ei ffurf yn wahanol i bob cynllun blaenorol a fu, am ddim ar a wyddom, erioed yn y byd;—ffurf priodol iddo ei hun. Mewn gair, nid oedd yn perthyn i'r ysgogiad Methodistaidd, ar ei gychwyniad, ffurf yn y byd. Yr oedd heb ffurf ond a roddid iddo gan amgylchiadau; ac onid yr un peth oedd hyny, a bod ei ffurf wedi ei wneuthur gan ragluniaeth, yn fwy nag yn ol un cynllun o eiddo dynion? Ond gan y daw cyfansoddiad ffurfiol y Methodistiaid eto dan sylw neillduol, ni a ymattaliwn ar hyn o bryd. Arweiniwyd ni i wneyd y sylwadau uchod, wrth grybwyll pa gan leied oedd a wnelai un gyfundrefn ddynol mewn rhoddi y cychwyniad gwreiddiol i Fethodistiaeth.

Yr oedd dychweliad Howel Harris ei hun â hynodrwydd arno. Tra yr oedd ef yn ceisio ymlenwi â phleserau difyr ieuenctyd, a'i gyfeillion yn bwriadu ei osod ar ben y ffordd i anrhydedd a mawredd bydol, trwy ei barotoi i dderbyn urddau yn eglwys Loegr, ehedodd saeth argyhoeddiad yn ddirgelaidd i'w galon, a rhoes gyfeiriad newydd i'w syniad a'i dueddiadau. Bwriadai, eilwaith, fyned yn mlaen trwy addysg y brif-ysgol, i ymofyn am yr offeiriadaeth; ond Duw a feddyliodd yn wahanol, a pharodd fod yr olwg a gawsai ar oferedd a dyhirwch y sefydliad hwnw, yn foddion iddo droi draw gyda ffieidd-dra, a dychwelyd yn ol i'w wlad.

Mae yn beth hynod leied o law ddynol, neu o foddion cyffredin, a ddefnyddiwyd i roddi gogwyddiad yn meddwl Howel Harris at y weinidogaeth, nac i'w gynysgaethu â medrusrwydd ynddi. Nid oedd ganddo un cyfaill yn y byd o gyffelyb feddwl,—neb i'w gyfarwyddo pan y byddai ar ddyrysu, na neb i'w gysuro pan fyddai ar lwfrhau. "Yr oedd y pryd hwnw," meddai ef ei hun, "ryw hûn-gwsg cyffredinol o anystyriaeth wedi gorchuddio yr holl wlad. Yr oedd y cyffredinolrwydd o'r bobl yn treulio "dydd yr Arglwydd" yn llwyr wrthwyneb i ddeddfau Duw a dyn; ac yn wir, nid oedd yn amlwg fod neb yn ceisio ei gadw fel y dylasent. Nid oedd, chwaith, gan neb o fewn fy adnabyddiaeth i, gymaint a syniad cywir am y Duw yr oeddym yn cymeryd arnom ei addoli. Canys gan gynted ag y darfyddai yr addoliad ar "ddydd yr Arglwydd," dangosai y bobl trwy eu hymarweddiad yn eglur, fod eu calon yn gwbl ddyeithr i'r cwbl sydd dda. Treulient weddill y dydd i foddhau chwantau llygredig eu natur; esgeulusid pob math o addoliad teuluaidd, oddieithr gan rai o'r ymneillduwyr; tra yr ydoedd tyngu, rhegi, meddwi, ymladd, twyllo, campio, a dawnsio, fel diluw cyffredin yn gorchuddio yr holl wlad. Nid oedd neb, chwaith, yn gwneuthur un sylw o hyn, nac yn ceisio gosod un attalfa i'r llifeiriant cryf hwn, hyd y gwelwn ac y gwyddwn i."

"Wrth weled (meddai) cyfoethog a thlawd yn myned yn mlaen, fel yn llaw yn llaw, ar hyd y ffordd lydan i ddystryw, fy enaid a gynhyrfwyd ynof, a chyflwr yr offeiriaid o wasgodd gyntaf ar fy nghalon. Gwelais yn amlwg nad oeddynt yn ddifrifol yn ceisio dangos eu perygl i ddynion. A pha fodd y gallent? canys nid oedd argoel eu bod yn teimlo eu perygl eu hunain, nac yn gwybod dim, o ganlyniad, am gariad Crist; am hyny, nid oedd y cynghorion a draddodid ganddynt, yn y dull diofal a dideimlad hwn, yn cael un