Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/294

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwaith ddim cynllun penodol i ysgogi wrtho; yn unig yr oeddynt yn sicr mai eu hamcan uchel oedd gogoneddu Crist yn achubiaeth dynion. Boddlon oeddynt os gallent gyrhaedd hyn trwy ryw foddion, neu trwy bob moddion. Heb yn wybod i'w gilydd y dechreuasai Harris, Rowlands, a Davies, gynhyrfu y wlad trwy eu gweinidogaeth, ac anhawdd oedd iddynt, gan bellder ffordd, weithredu nemawr mewn undeb â'u gilydd, wedi iddynt ddyfod i gydnabyddjaeth y naill â'r llall. Undeb ysbryd oedd yr unig gwlwm oedd rhyngddynt; ac oddiar fod yr un Ysbryd yn eu cynhyrfu, dylynid eu llafur â chyffelyb effeithiau, ac amgylchynid hwy â chyffelyb brofedigaethau. Parai hyn fod cydymdeimlad rhyngddynt yn cryfhau, a'r awydd am gael cymdeithasu â'u gilydd yn chwanegu; a thrwy hyny, o radd i radd, y gwnaethant gais am fath o ymgorfforiad a threfn. I hyn yma y tueddai cyffelybrwydd eu hysbrydoedd, effeithiau eu llafur, a grym cymhellawl eu hamgylchiadau. Yr oedd yn hyn oll fwy o law Duw nag o gynlluniad neu gyfundrefn ddynol. Rhoddwyd iddynt sail i gydnabod, "Yr hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw." Yn ddiarwybod iddynt, fe'u harweiniwyd o gam i gam, a thrwy ddirgymhelliad amgylchiadau y rhoddwyd iddynt fod yn offerynau i gyffroi holl Gymru, ar ol hirnos o gwsg a diofalwch. "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."

Ymddengys llaw hynod rhagluniaeth hefyd yn amgylchiadau dychweliad llawer o'r Methodistiaid, yn neillduol yn mlynyddoedd cyntaf y diwygiad. Arweinid rhai yn mhell o'u cartref, weithiau gan flys, ac weithiau gan rym amgylchiadau, ac yno, mewn gwlad estronol, y dygwyd hwy i swn efengyl, ac i brofi ei hawdurdod a'i chysur. Wedi eu cyfaddasu yn y modd hwn, arweinid hwy drachefn i'w bro enedigol, yn llawn o awyddfryd angherddol i ddefnyddio rhyw foddion yn eu cyrhaedd, i lesâu eu cenedl mewn pethau ysbrydol. Mewn dull o'r fath yma y dygwyd yr efengyl gyntaf i Ynys Prydain, fel y soniwyd ar y dechreu. Caethgludwyd Bran Fendigaid a'i deulu yn garcharorion rhyfel i Rufain, lle yr oedd Paul yn pregethu, trwy yr hyn y gwnaed ef a rhai o'i deulu yn Gristionogion; ac wedi i ragluniaeth gael ei dyben yn y modd yma yn ei droedigaeth ef ei hun, arweiniodd ef drachefn yn ei ol i'w wlad yn llawn o eiddigedd dros ogoniant y Gwaredwr, a thros achubiaeth ei gyd-ddynion. Cynllun oedd hyn o'r hyn a wnaed yn fynych yn nghanol y ganrif ddiweddaf yn Nghymru, ond mewn cylch llai, i ddwyn adfywiad a chyffro yn mysg y trigolion tywyll a diofal. Y mae agos yn afreidiol gosod i lawr yn y lle yma enghreifftiau o hyn, gan y deuant i sylw y darllenydd craff agos yn holl hanes Methodistiaeth; yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf. Yr ydym eisoes wedi crybwyll am Richard Thomas of Fon; yn hanes y gŵr hwn y gwelwn esiampl o'r hyn sydd dan sylw. Ffôdd hwn o'i wlad o herwydd dyled, ac yn rhyw barth o'r Deheudir, yn ei enciliad, daeth yn adnabyddus o efengyl y bendigedig Dduw; ac mor fuan yr ennillodd ddigon i gwblhau â'i ofynwyr, fe ddychwelodd i'w wlad, nid i'w gorthrymu mwy trwy afradlonedd a dyhirwch, ond i'w llesâu trwy ei esiampl a'i bregethau.