Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cawn weled yn y lle priodol mai cyffelyb a fu gorchwyliaeth rhagluniaeth tuag at John Evans y Bala. Rhag ofn ymddangos mewn llys barn, a chymeryd ei lŵ, ar ryw achos a ddaethai dan ei sylw, yr hyn beth yr arswydai ei wneuthur, efe a ffôdd o'i gartref, heb wybod i ba le yr oedd yn myned; ac yn gwbl ddifwriad iddo ei hun, daeth i'r Bala. Yno daeth i glywed efengyl, ac i gydnabyddiaeth ag ychydig o bobl dduwiol, y rhai oeddynt, y pryd hyny, fel lloffion grawnwin, yn dra anaml. Gwnaed ffoad John Evans o'i gartref yn iachawdwriaeth iddo ef, ac yn gadarnhad mawr i Fethodistiaeth Cymru.

Yr oedd gŵr o'r enw Mr. Jones yn byw, dros gan mlynedd yn ol, yn Llanddyn, amaethdy gerllaw Llangollen, sir Ddinbych; i'r hwn yr ydoedd mab o'r enw Richard. Y bachgen hwn a gawsai raddau o ddysgeidiaeth, fe allai fwy nag a fyddai arferol o gael ei roi y pryd hyny i blant amaethwyr. Ar ol ymadael â'r ysgol, gosodwyd y bachgen i wasanaethu mewn gwahanol swyddi perthynol i'r tir, a gelwid arno yn fynych i fugeilio defaid ei dad ar lechweddi y mynydd gerllaw. Teimlai y gŵr ieuanc yn awr ac eilwaith anfoddlonrwydd yn ei fynwes i'r dull dystaw a neillduedig hwn o dreulio ei amser. Ac fel yr oedd ei anniddigrwydd yn cryfhau, codai rhyw flys ynddo i ffoi ymaith o'i gartref, ac ymofyn am ei damaid mewn rhyw ffordd arall. Wedi troi a throsi y bwriad hwn yn ei feddwl am ryw dymhor, efe a ffurfiodd y penderfyniad o gyfeirio ei gamrau i Lundain, ac ymofyn yno am ryw wasanaeth mwy cydweddol â thueddiad ei fynwes. Hyn hefyd a wnaeth, er nad oedd ganddo yn y cychwyniad ond deunaw swllt yn ei logell. Yr oedd ganddo, pa fodd bynag, ewythr yn y brif-ddinas, trwy gynorthwy yr hwn y dysgwyliai, os medrai ei gyrhaedd, y gallai, ond odid, gael modd a lle i ennill iddo fywioliaeth. Ac yn hyn ni siomwyd mo'no. Cafodd ei ewythr le iddo, i fod yn feich-gludydd (porter), lle llawer caletach ei waith nag oedd bugeilio defaid, eto mwy cydweddol â syniadau uchelfrydig y llanc; yr hwn oedd foddlawn i ymostwng i unrhyw sefyllfa, pa mor isel bynag, oddiar y dysgwyliad yr agorai drysau o'i flaen, yn mhen enyd, i sefyllfa fwy ei helw, ac uwch ei pharch.

Yn y cyfamser, yr oedd llygad rhagluniaeth arno, gan ei fod yn llestr etholedig i Dduw, i ddwyn ei enw, mewn rhyw ddull neu gilydd, i ardaloedd tywyll gwlad ei enedigaeth. Arweiniwyd ef i wrando Whitfield a Romaine, ac eraill o weinidogion efengylaidd a bregethent yn Llundain; a thrwy eu gweinidogaeth, daeth yn adnabyddus o'r efengyl; profodd ei grym a'i melysder, ac ymgysegrodd i fod yn ddysgybl gostyngedig i'r addfwyn Iesu. Fe fu yn Llundain flynyddoedd lawer, a daeth yn gydnabyddus yno, yn mhen rhyw gymaint o amser, â'r ychydig o Fethodistiaid Cymreig, y rhai oeddynt erbyn hyn yn dechreu ymgrynhoi yno. Ymunodd â hwy, a daeth yn gydnabyddus yn eu mysg â merch ieuanc o ardal Gwrecsam, yr hon a fuasai unwaith yn forwynig i foneddiges yn yr ardal hono, mewn palas gerllaw Adwy'r Clawdd. Yr oedd y ferch ieuanc hon yn arfer dianc, mor fynych ag y gallai, i'r Adwy i wrando y pregethwyr a ddeuent yno o'r Deheudir, a