Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/296

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr oedd y lles a dderbyniai trwy hyny. Nid oedd hyn yn foddhaol gan y foneddiges, yr hon, wedi deall pa fath ydoedd tueddfryd ei morwynig, a ddangosodd ei hanfoddlonrwydd iddi, a'r canlyniad oedd iddi ymadael yn fuan, a myned i Lundain. Yno daeth yn gydnabyddus â Mr. Jones, yr hwn, bellach, ydoedd wedi cyrhaedd oedran gŵr, wedi casglu ychydig o ddâ y byd hwn, ac, yn fwy na'r cwbl, wedi cynyddu llawer mewn gras, ac yn ngwybodaeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Unwyd y ddau hyn â'u gilydd mewn priodas, ac anhawdd ydyw dychymygu am ddau cymhwysach i'w gilydd yn mhob modd. Arweiniwyd hwy bellach i Gymru; ymsefydlasant yn Ngwrecsam; llwyddasant yn y byd, ond nid anghofiasant eu Duw. Yr oedd eu harian, eu tŷ, eu calon, a'u gwasanaeth, yn gysegredig i achos yr efengyl yn mysg y Cymry tlodion. Nid hir y bu Mrs. Jones fyw; addfedodd yn fuan i'w chartref, a chasglwyd hi mewn tangnefedd at ei phobl. Parhaodd Mr. Jones i wasanaethu Methodistiaeth, yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, ar ol ei marwolaeth. Ymbriododd drachefn, ag un Miss Phillips, Ty'n-rhos, nid yn mhell oddiwrth Groesoswallt, gyda'r hon ni chaniatawyd iddo fyw ond tua naw mlynedd, pryd y dybenodd yntau ei yrfa mewn diogelwch a thangnefedd.

Y mae yn deilwng chwanegu, ddarfod i'w weddw, ar ol ei ymadawiad, rodio yn ei lwybrau, a gwasanaethu achos y Methodistiaid, neu yn hytrach, achos Duw yn eu plith, ymron gymaint a neb o'i rhyw, a'i lle, yn y dywysogaeth. Merch ydoedd i Richard Phillips, Ysw., Ty'n-rhos. Dygwyd hi dan ddylanwad crefydd yn more ei hoes, trwy wrando ar rai o bregethwyr gwladaidd a thlodion y Methodistiaid yn agos i gartref ei rhieni. Pregethid mewn tŷ anedd; nid oedd nifer y gwrandawyr ond ychydig, a'u sefyllfa oll ond tlodaidd. Ond yr oedd un o honynt yn gweithio yn Ty'n-rhos, a chafodd gyfleusdra i annog Miss Phillips i ddyfod i wrando. Bendithiwyd y weinidogaeth iddi. Cafodd achos i "lawenychu yn ei darostyngiad," am ei gwneuthur—er mai trwy foddion gwael, ac yn mysg pobl dlodion—yn gyfranog o ras y bywyd. Derbyniwyd hi i'r gymdeithas eglwysig gan yr hyglod Barch. T. Charles o'r Bala, pan ydoedd tua 26 mlwydd oed. O'r amser yr ymunodd gyntaf â'r Methodistiaid, dros yr ysbaid y bu heb briodi, a thrachefn yn briod, ac wedi ei gwneuthur yn weddw, ysbaid o hanner can mlynedd, hi a roes brofion cyson a lluosog o'i bod yn Israeliad yn wir, yn yr hon nid oedd twyll. Mwynhaodd ysgrifenydd y llinellau hyn lawer o'i chwmni, a phrofodd lawer o'i charedigrwydd am yr ysbaid o ddeng mlynedd. ar hugain. Teimla hiraeth mynych ar ei hol hyd heddyw. Cofia, gyda theimladau dwysion, ei gostyngeiddrwydd dirodres, a'i symledd dirwysg. Bu ei thŷ am hanner canrif yn agored i weinidogion yr efengyl, a chyfranai yn helaeth yn mhob ffordd, ac yn fynych hi a wnai hyny mewn ffordd ddirgelaidd, tuag at gysuro rhai o'r saint tlodion, a thuag at rwyddhau mynediad yr efengyl yn mlaen. "Barnai yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau yr Aifft;" ac er ei dyrchafu, gan ragluniaeth y nef, i sefyllfa anrhydeddus, eto gyda rhai rhagorol y ddaear, y bobl druain dlodion a obeithient yn enw yr