Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/298

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid ydym yn gweled nemawr neu ddim o hyn. Rhagluniaeth, a hyny mewn ffordd annysgwyliadwy yn fynych, a fyddai yn agor y drysau, ac yn darpar offerynau a moddion, heb ddiolch i un gyfundrefn ddynol. Ac fel hyn y parhaodd gwedd pethau am rai ugeiniau o flynyddoedd wedi y dechreuad. Bu Mr. Jones, Llangan, yn y blynyddoedd cyntaf o'i oes weinidogaethol, yn gwibio o le i le, weithiau yn Nghymru, ac weithiau yn Lloegr; weithiau yn Ngwynedd, ac weithiau yn y Deheudir, fel yr ymddangosai yn amheus am dymhor yn mha le y byddai ei gartref. Nid oedd Methodistiaid Cymru yn gwybod nemawr ddim am dano cyn iddo ddyfod i'w canol. Nid hwynthwy a anfonasai am dano chwaith i ddyfod i ymsefydlu yn eu gwlad, ac i lafurio yn eu plith. Yr oedd yma fwy o law ddirgelaidd rhagluniaeth, na gweithrediad unrhyw gyfundrefn. Arweiniwyd ef heb yn ddysgwyl iddo i gydnabyddiaeth ag Iarlles Huntingdon, yr hon oedd yn llygadu am y cyfryw wŷr, a thrwyddi daeth yn gydnabyddus â theulu pendefigaidd arall, trwy ddylanwad yr hwn y disgynodd coelbren Mr. Jones i Gymru. Nid oedd ganddo ar y pryd, ond odid, ddim rhagolygiad neu ragfwriad i ymuno â'r Methodistiaid. Yr oedd ei dynghed cyn hyn yn gwbl ansicr, ac yn hollol guddiedig iddo ei hun. Ond trwy ffordd nid adwaenai efe yr arweiniwyd ef yn y modd uchod i ymsefydlu yn mro Morganwg; ac heb un cynlluniad blaenorol, daeth i wasanaethu y diwygiad Methodistaidd mewn De a Gogledd. Daeth i fysg y tadau mewn adeg yr oedd ei eisiau. Yr oedd y diwygiad, erbyn hyn, wedi dechreu liniaru. Yr oedd newydd-deb yr ysgogiad wedi colli. Collasai llawer o'r dysgyblion boreu eu cariad cyntaf: yr oedd Howel Harris bellach wedi ymneillduo i'w gylch ei hun, a Rowlands yntau ond anfynych yn ymweled â'r gwledydd. Mewn adeg arbenig ar Fethodistiaeth. y daeth Jones o Langan i roddi ei law ar yr aradr; a theimlodd holl Gymru, i raddau mwy neu lai, oddiwrth ei ddyfodiad. Disgynai ei weinidogaeth fel cawodydd o wlaw bendithlawn ar diroedd cras. Chwalodd ei wên siriol, ei ddawn ennillgar, ei lafur diflino, a'i dymher hynaws, hyfrydwch a sirioldeb yn mysg ei frodyr; a pharodd ei bregethau adnewyddiad byw yn mhlith y cynulleidfaoedd, ail gychwynodd y gwersyll, ac ymddangosodd gwedd adfywiol ar yr achos eilwaith.

Yr un peth a ellir ei ddweyd am Mr. Charles o'r Bala. Priodol iawn y dywedodd Rowlands am hwn, "Rhodd Duw i'r Gogledd ydyw." Nid ar law Mr. Charles yr oedd cyfarwyddo ei gerddediad. Fe fu y gŵr parchedig hwn am dymhor yn ansefydlog ei amgylchiadau, yn cael ei arwain o fan i fan, heb gael dinas sefydlog i aros ynddi. Cadwodd rhagluniaeth ef yn y cyflwr ansefydlog hwn, nes addfedu ei feddwl i lafurio yn y maes Methodistaidd. Cydgyfarfu amrywiol amgylchiadau rhagluniaethol yn sefydliad Mr. Charles yn y Bala. Trwy gydnabyddiaeth â'r Parch. Simon Lloyd y daeth i ymweled â'r dref hòno i ddechreu; arweiniodd hyn ef drachefn i gyfeillach â'r ferch ieuanc, yr hon ar ol hyny a briododd. Yr oedd, er hyn, yn anaddsed o ran ei feddwl i fwrw ei goelbren yn mysg y Methodistiaid, er ei fod yn eu mawr hoffi; yr oedd eto heb ei lwyr argyhoeddi nad mewn