Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dyledus ydyw Caernarfon eto, a'r Gogledd oll, i ragluniaeth y nef, am eu hanrhegu â gweinidog mor ddifefl ag Evan Richards.

Gadawyd symudiadau pregethwyr y Methodistiaid gynt, fel y gwneir eto, i ragluniaeth. Nid felly y mae y Methodistiaid Wesleyaidd. Symudir y rhai olaf yn ol cyfundrefn reolaidd a threfnus: ond nid felly Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Gan fod y pregethwyr ymron yn ddiwahaniaeth, wedi bod hyd yma yn dibynu ar ryw gelfyddyd neu alwedigaeth fydol am eu cynaliaeth, y mae yn rhaid y byddent, wrth gwrs, yn fwy cylymedig wrth amnaid neu arweiniad rhagluniaeth, nag wrth ddim arall. Yn y modd yma yr aeth y Parch. John Elias i Fon i aneddu; a rhodd anmhrisiadwy, yn ddiau, a fu ef i'r wlad hono. Rhoddwyd iddo wraig a fu yn ymgeledd gymhwys iddo; a thrwy ddiwydrwydd a llwyr ymroddiad yn gofalu am y siop, bu yn foddion i roddi llawer o seibiant i fyfyrdodau "gŵr Duw," ac i roddi rhyddid iddo wasanaethu ei genedl a'i genedlaeth yn fwy effeithiol. Nid i'r gyfundrefn Fethodistaidd y mae y diolch am hyn, ond i drefniant doeth a da rhagluniaeth y nef. Trwy gael ei gynysgaethu â'r fath wraig, fe gafodd Elias beth daionus, a chafodd ffafr gan yr Arglwydd. Diar. xviii, 22. Nid oedd yr achos crefyddol yn mhlith y Methodistiaid ddim yn uchel a blodeuog pan y daeth Elias i aneddu i Lanfechell gyntaf; ond fe fu ei ddyfodiad i'r wlad yn foddion arbenig i roddi cychwyniad o newydd ynddo. Yr oedd nerth anarferol ei bregethau yn peri i dyrfaoedd mawrion ymgynull i'w wrando. Ymroddodd â'i holl egni i ddiwygio y wlad oddiwrth amryw arferion llygredig, a llwyddodd, yn ddiau, yn fwy yn yr amcan hwn na neb arall. Bwriodd i lawr yn llwyr rai o honynt, a rhoes attaliad cryf ar gynydd rhai eraill. Ein dyben yn y sylwadau hyn yn awr ydyw, nid ysgrifenu hanes y pregethwr enwog hwn, ond dangos pa mor ddyledus ydyw Methodistiaeth Cymru i ragluniaeth, am drefnu amgylchiadau rhai o'r gwŷr mwyaf eu defnyddioldeb, mor gyfleus a gwasanaethgar i'r gorchwyl y cynysgaethodd Ysbryd Duw hwy â chymaint o gymhwysder iddo.

Drachefn, ymddangosodd goruwch-lywodraeth rhagluniaeth yn nodedig lawer gwaith ar elyniaeth a chynddaredd yr erlidwyr, nid yn unig mewn ymwared i'r trueiniaid yr ymosodid arnynt mor greulon, ond hefyd mewn defnyddiad o'r amgylchiadau gofidus i wasanaethu er llwyddiant i'r efengyl. Trwy ddoeth drefniad rhagluniaeth, fe gaed "bwyd o'r bwytawr, ac o'r cryf y caed melysdra." Gwnaeth i gynddaredd dyn foliannu Duw. Tybiodd y canghellwr Owens y byddai codi William Pritchard, Glasfryn Fawr, yn ddyrnod angeuol i achos y penau cryniaid; ond yn lle hyny, fe fu yn foddion i'w ledaenu hwnt i derfynau sir Gaernarfon. Yr un modd y tybiasai yr Iuddewon gynt mai y ffordd i lethu Cristionogaeth oedd erlid y Cristionogion yn Jerusalem; a hyny a wnaethant yn effeithiol ddigon, nes oeddynt oll ond yr apostolion wedi eu gwasgaru. Ond beth er hyny? moddion a fu hyn i wasgar ac i ledaenu yr hyn a fynasent ei lethu. Y dysgyblion, wedi eu gwasgar o Jerusalem, a dramwyasant ar hyd y gwledydd, gan bregethu y gair. Yr un modd y bu mewn llawer parth o Gymru; yr oedd y moddion a