Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/301

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddefnyddid gan elynion Duw i lethu y gwaith, yn foddion yn llaw rhagluniaeth i'w lwyddo. Gresyn na ddarllenasai y gwŷr hyny y cynghor a roddai Gamaliel i'r Iuddewon yn yr achos hwn, "Ciliwch oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt; oblegid os o ddynion y mae y cynghor hwn, fe a ddiddymir; eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw," Act. v, 38, 39.

O flaen erlidigaeth yr ymlidiwyd Lowri Williams, o Bandy Chwilog, yn sir Gaernarfon, i Bandy'r Ddwyryd yn sir Feirionydd; lle y bu yn foddion i roddi lloches i'r efengyl, mewn adeg na fynai neb trwy yr holl wlad wneuthur un gymwynas i grefydd. Y gelynion a'i bwriadasant er drwg, yn ddiamheuol, ond Duw a'i bwriadodd er daioni. Parodd yr amgylchiad o'i chodi o'i hen gartref, ond odid, lawer o ofid i'w meddwl hi ar y pryd; eto, parodd achubiaeth i lawer o bechaduriaid. Symudiad gwraig o gŵr sir Gaernarfon, i gadw ysgol yn Nolgellau, a fu yn foddion i ddwyn Methodistiaeth yno. Yr oedd y wraig hon, cyn ei symud o'i gwlad, wedi profi gradd o felysder yr efengyl, ac ni allai lai nag ymddyddan â hwn ac arall ar ol dyfod i'w chartref newydd. Ac er na fu ei harosiad yn hir yn Nolgellau, fe fu yn ddigon i godi hiraeth mewn rhyw rai yno i gael clywed gair y bywyd. Ac ni chododd Ysbryd Duw erioed mo'r syched hwn yn y fynwes, na threfnodd rhagluniaeth ryw foddion i'w dori.

Ymddengys rhagluniaeth weithiau yn amlwg iawn, mewn goruwch-lywodraethiad ar amgylchiadau bychain a dibwys iawn ynddynt eu hunain, i gynyrchu canlyniadau mawrion a gwerthfawr. Ar begwn bychan y canfyddwn yn fynych olwynion mawrion yn troi. Heb y ddolen fechan, ni fyddai y gadwen fawr ddim yn gyflawn. Mae y pin bach yn angenrheidiol i berffeithio y peiriant nerthol. Ni a ganfyddwn yn hanes Methodistiaeth lawer o ganlyniadau pwysig yn dibynu ar amgylchiadau bychain. Yr ydym ni, bellach, wedi gweled y tro a roes yr olwyn, ac wedi canfod ffrwyth yr oruchwyliaeth, yn fwy abl i weled cysylltiad y mân amgylchiadau hyny â'r hyn a'u canlynodd.

Mae crefydd, bellach, wedi cynyddu yn fawr yn sir Fflint. Mae capelau y Methodistiaid yn awr yn aml, a'r cynulleidfaoedd yn lluosog; mae miloedd a miloedd, o bryd i bryd er pan gychwynodd Methodistiaeth ynddi, wedi cael eu hachub trwy "ffolineb pregethu;" ond pwy a fuasai yn dychymygu fod hyn oll, mewn dull o ddweyd, yn dibynu ar waith gŵr ieuanc yn myned i ymofyn cydmhares bywyd? Ond er leied peth oedd hyn i'r wlad yn gyffredinol, pan yr ystyrir ef ynddo ei hun; eto, fe fu yn ddolen yn yr oruchwyliaeth, i ddwyn "goleuni mawr" i'r bobl ag oeddynt yn eistedd yn mro a chysgod angau. Ceir gweled yn hanes y wlad hono, mai gwaith John Owens o'r Berthen-Gron, yn myned i Ddyffryn Clwyd i ymofyn am ferch Plas Llangwyfan yn wraig iddo, a fu yn achlysur iddo glywed Daniel Rowlands yn pregethu. Trwy y bregeth hono, cafodd ei oleuo am ei gyflwr colledig, ac ennillwyd ef at Fab Duw. Wedi profi pwysigrwydd pethau ysbrydol ei hun, disgynodd pryder arno am eu dwyn i sylw ei gymydogion.