Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

YSBRYD RHAGOROL Y PROFFESWYR CYNTEFIG YN FODDION CYNYDD METHODISTIAETH.

{{c|CYNWYSIAD:—

DYLANWAD CREFYDD—TYSTIOLAETH JOHN EVANS AM YR HEN BOBL—EU LLWYR YMRODDIAD I WAITH YR ARGLWYDD—EVAN MOSES-GRIFFITH ELLIS, PEN YRALLT—LEWIS EVAN—EU HADDFWYNDER-MORWYNIG YN LLEYN, CATRIN O'R PENRHYN, A LOWRI WILLIAMS—EU CARIAD AT EU GILYDD, A'U LLAFUR AM WYBODAETH, ELLIS EDWARD—EU FFYDDLONDER I GYNAL GWEINIDOGAETH YR EFENGYL, OWAIN SION, MALLWYD; THOMAS EDWARDS, CAERGWRLE; DOROTHY ELLIS—EU CYSONDEB YN MODDION GRAS, EU SEL, A'U HAELIONI, GRIFFITH SION, YNYS-Y-PANDY; ROBERT ROBERTS, TALSARNAU; MODRYB SUSAN O GROESOSWALLT; A ROBERT LLWYD O RUTHIN.

NID oes un briodoledd amlycach yn yr anian santaidd, na'r duedd sydd ynddi i eangu ei dylanwad, trwy ddwyn eraill i gyfranogi o honi, ac o'r bendithion sydd yn nglŷn â hi. Mae pob un a achubwyd yn cael ei wneyd yn offeryn i achub eraill. Nid yw dylanwad crefydd byth yn dybenu yn y perchenog o honi yn unig; ond hi a gynyrcha ogoniant i Dduw, ac ewyllys da i ddynion. Mae y dyn bydol yn fynych yn casglu cyfoeth iddo ei hun trwy dlodi rhai eraill; oud y mae y dyn duwiol yn llesâu eraill trwy ei lesiant ei hun. Mae fel y ganwyll, yn goleuo i bawb a fyddo yn y tŷ. Mae y saint yn dysgleirio, yn nghanol cenedlaeth ŵyrog a throfaus, "megys goleuadau yn y byd." Ni roddwyd amlygiad eglurach, na phrawf sicrach, o'r egwyddor hon un amser, nag a roddwyd yn mywydau yr hen Fethodistiaid Cymreig. Wedi iddynt gael trugaredd eu hunain, eiddigeddent mewn modd angherddol am iachawdwriaeth eu cyd-ddynion.

Meddai John Evans o'r Bala am danynt, "Yr oedd ysbryd diwygwyr yn y rhan fwyaf o'r crefyddwyr y dyddiau hyny, ac yr oeddynt yn egniol ac yn ymdrechgar neillduol i daenu gwybodaeth o'r efengyl yn ardaloedd tywyll y wlad. Yr oeddynt yn hyn yn rhagori yn hynod ar y genedl glauar, farwaidd, bresenol. Nid oedd dim yn ormod ganddynt i'w wneyd na'i ddyoddef er mwyn yr efengyl; ac ofn yn eu calouau rhag mewn dim iddynt roddi achos i elynion yr Arglwydd gablu. Er fod gwybodaeth a doniau wedi cynyddu yn helaeth yn yr oes bresenol, eto mae y pethau godidog hyn oedd yn mhlith yr hen bobl, wedi eu colli i raddau mawr. Ai dyn neu ddynes dlawd, ar eu traed, yn ddigwyno, ac ar eu traul eu hunain, hanner cant, neu o hyny i gan milldir, i ofyn cyhoeddiad; a mawr oedd y llawenydd, os rhoddid un cyhoeddiad iddynt am eu llafur."

"Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny." Yr oedd moddion gras, a gweinidogaeth yr efengyl, yn brin iawn. Yr oedd "newyn yn y tir, nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr Arglwydd," Amos viii, 11. I'r graddau yr oedd dynion y byd yn gwrthwynebu yr efengyl, yr oedd eraill yn sychedu am dani; ac os oedd y gwrthwynebiad iddi yn fawr a ffyrnig, yr oedd yr awydd am ei chael hefyd yn angherddol. Bedyddid y pregethwyr yn y dyddiau hyny â'r Ysbryd Glân ac â thân. Aent drwy bob rhwystrau; gwynebent bob peryglon; aberthent